‘The Llanboidy molecatcher’ gan James Lewis Walters

July 22, 2017 0 Comments

Sylwais i ar y llun am y tro cyntaf llynedd. Ar y pryd roeddwn i’n chwilio am bethau eraill yn Amgueddfa Sir Gâr, yn hen Balas yr Esgob yn Abergwili. Hongiai’r llun yn swil, mewn lle anamlwg y tu ôl i ddrws. Ei destun eithriadol ac arddull medrus a ddenodd fy llygad gyntaf. Arhosodd y llun yn fy meddwl nes mynd nôl i’r Amgueddfa’r wythnos ddiwethaf. Y tro hwn sefais o flaen y llun a meddwl eto amdano.

James Lewis Walters, ‘The Llanboidy molecatcher’ (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)

Y teitl yw The Llanboidy molecatcher, a’r artist yw dyn o’r enw James Lewis Walters. Ychydig iawn a wyddom am Walters. Capten llong oedd ei dad, John Walters, a ddaeth yn wreiddiol o Looe yng Nghernyw, a phriodi merch o Ben-bre, Sir Gâr, Elizabeth Lewis. Ganed James yn 1865 yn Looe, ond yn 1891 roedd e’n byw yn Llanboidy , mewn tŷ gyferbyn ag eglwys S. Brychan o’r enw ‘Pharmacy Hall’ – ac yn siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg.  Pentref amaethyddol, tawel oedd Llanboidy, rhyw bymtheg milltir i’r gorllewin o Gaerfyrddin. Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Llanboidy yn ddigon lwcus i dderbyn nifer o roddion, gan gynnwys Neuadd Farchnad fawr, ysgol seciwlar, a thai i’r gweithwyr (‘Piccadilly Square’).  Y rhoddwr oedd W.R.H. Powell (1819-89), perchennog plas Maesgwynne gerllaw, radical gwleidyddol o flaen ei oes, a dyngarwr hael. 

Mae’r Cyfrifiad 1891 yn disgrifio James Walters fel ‘fferyllydd a masnachwr gwin’, gyda’i frawd Robert, ‘student and assistant’, yn ei gynorthwyo yn ei siop yn y pentref. Ddeng mlynedd ymlaen fe’i rhestrir fel ‘fferyllydd a gwneuthurwr dŵr mwnol’, ac yn 1911 trigai labrwr o’r enw Edward Arthur Wright yn Pharmacy Hall; ‘waggoner’ oedd ei galwad, mewn cyswllt â’r ‘mineral waters’.  Mae ambell sôn ym mhapurau newydd y dydd am ansawdd uchel y dŵr hwn.  Heddiw mae atgofion yn y pentref am y ‘ffatri pop’, ac o bryd i’w gilydd gwerthir ambell enghraifft o ‘Walters Llanboidy’ gan gasglwyr hen boteli. Bu James Walters hefyd yn gyfrifol am swyddfa’r bost.  Heddiw mae Pharmacy Hall, a ail-enwyd yn ‘Cloth Hall’ yn nes ymlaen, yn dal i fod yn swyddfa bost y pentref, dan ofal Mr Rodney Williams.  Y traddodiad llafar, yn ôl Mr Williams, oedd yr arferai Walters baentio ei luniau yng nghefn yr adeilad sylweddol, sy’n edrych ar draws caeau gwyrdd yn codi yn raddol i’r de-orllewin – fel yn y tirlun a welir yn ‘The Llanboidy molecatcher’. Roedd James Walters yn ddyn amryddawn, mae’n amlwg, a allai droi ei law at sawl weithgaredd. Erbyn 1901 roedd ei rieni wedi symud i fyw gydag e yn Pharmacy Hall (doedd James ei hun ddim yn briod).  Bu farw yng Nghaerfyrddin ar 22 Tachwedd 1945.

John Thomas, ‘Llanboidy c.1885’ (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Llanboidy: Pharmacy Hall / Cloth Hall / Post Office (2017)

Llanboidy: yr hen ffatri menyn (2017)

Llanboidy: y Neuadd Farchnad (2017)

Dyn parchus a gweithgar yn ei gymuned oedd James Walters. Bu’n aelod o Fwrdd Ysgol Llanboidy a Llan-gan, ac yn feirniad yn y gystadleuaeth gelf yn Eisteddfod Llanboidy. Yn 1899 gwnaeth pobl Llanboidy gyflwyniad iddo, gan gynnwys watsh aur, i ddiolch iddo am ei ran flaenllaw yn hybu amaeth yn yr ardal ac yn arbennig yn sefydlu Cwmni Ffatri Menyn Llanboidy yn 1897. Bu’n Ysgrifennydd i’r Cwmni, un o nifer o gwmnïau cydweithredol a sefydlwyd yng ngorllewin Sir Gâr fel rhan o ymdrech i foderneiddio’r byd amaeth. Methiant, yn anffodus, oedd y ffatri: byddai llai a llai o ffermwyr yn fodlon sianelu eu cynnyrch llaeth trwyddi (mae’r adeilad yn dal i sefyll heddiw).

Mae’n amlwg fod Walters yn artist dawnus a hyddysg, ond mae’n anodd bod yn siŵr sut y dysgodd e’r grefft – p’un ai trwy fynychu ysgol gelf – yr ysgol agosaf iddo oedd Ysgol Gelf Caerfyrddin, a sefydlwyd yn 1854 – neu trwy ffordd arall. Roedd wedi meistroli dulliau paentio academaidd y cyfnod, felly mae’n annhebyg ei fod yn hollol hunan-ddysgedig. Dywedid fod ei luniau ar werth yn ffenestri ei siop yn Llanboidy.

James Lewis Walters, ‘John Hinds’ (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)

Christopher Williams, ‘John Hinds’ (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)

Tair enghraifft yn unig o’i waith mewn olew sydd i’w gweld mewn casgliadau cyhoeddus – y cyfan yn Amgueddfa Sir Gâr. Portreadau ffurfiol yw dau ohonynt. John Hinds oedd Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Gaerfyrddin o 1910 i 1918, ac Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin o 1917 hyd ei farwolaeth yn 1928. Rhyddfrydwr confensiynol oedd e – ni adawodd fawr o farc ar Dŷ’r Cyffredin, nac ar ei etholaeth chwaith – a gellir gweld rhywfaint o’i gymeriad cydymffurfiol yn ei wyneb yn llun Walters. Dyddiad y llun, yn ôl yr Amgueddfa, yw ‘1918-22’. (Mae portread arall o Hinds yng nghasgliad yr Amgueddfa, gan Christopher Williams: mae’n dangos dyn sy’n edrych dipyn yn hŷn na’r dyn yn llun Walters.)

James Lewis Walters, ‘The Artist’s mother’ (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)

Mae’r ail bortread yn dangos mam James Walters, Elizabeth. Roedd hi’n 71 mlwydd oed pan restrwyd hi fel un o deulu Pharmacy House yn 1901. Mae’n bosibl i Walters baentio’r llun o amgylch y flwyddyn honno (er ei bod hi’n dal yn fyw tan 1914). Eistedda yn gefnsyth mewn cadair freichiau. Golwg oerllyd braidd (neu nerfus?) sydd arni: mae rhywun yn cael yr argraff o gymeriad disgybledig, Fictoraidd.  Nid oes fawr o gynhesrwydd mamaidd yn ei hwyneb a’i llygaid gleision, a phletiog yw ei gwefusau.

James Lewis Walters, ‘The Llanboidy molecatcher’ (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)

Os nad yw’r ddau lun yma yn anghyffredin mewn unrhyw ffordd, allech chi ddim dweud yr un peth am ‘The Llanboidy molecatcher’, sy’n dyddio o c1900, yn ôl yr Amgueddfa – llun eithriadol o ran ei faint (142 x 112cm), ei destun a’i driniaeth. Portread dwbl sydd yma, ond hefyd golygfa genre brin iawn o ffigwr oedd yn weddol gyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod – y gwaddotwr neu’r tyrchwr. Enw’r gwaddotwr hwn, meddir, yw William Thomas, neu ‘Wil Boy’, fel y gelwid e. Byddai rhai gwaddotwyr yn crwydro’r wlad o bentref i bentref, yn cynnig eu gwasanaeth i bawb am arian, gan ennill rhagor trwy werthu croen gwaddod, i’w gwneud i wasgodau a dillad eraill. Ond byddai eraill yn ‘waddotwyr y plwyf’, ac yn cyflawni gwasanaethau amgen. Un o’r rhain oedd William Thomas, debyg iawn; nodir ei fod hefyd yn ddyn torri beddau yn y pentref.

Dyma William Thomas felly, yn ei gwrcwd mewn cae ŷd yn yr haf, wrthi’n gosod trap neu ‘ddolystum’ i’r gwaddod. Yn ei law dde mae’n dal trywel, ac yn ei law chwith, y trap: bwrdd pren gwastad â dwy ddolen i’w rhoi o fewn llwybr y gwadd (gwelir un arall yn gorwedd ar y ddaear). Cysylltir y trap â darn o ffon werdd hyblyg sy’n gweithio fel sbring pan ddaw’r gwadd i mewn i’r trap. Disgrifir y broses gan y bardd Edmund Blunden:

Out from his wallet hurry pin and prong,
And trap, and noose to tie it to the bow;
And then his grand arcanum, oily and strong,
Found out by his forefather years ago
To scent the peg and witch the moles along.
The bow is earthed and arched ready to shoot
And snatch the death-knot fast round the first mole
Who comes and snuffs well pleased and tries to root
Past the sly nose peg; back again is put
The mould, and death left smirking in the hole.
The old man goes and tallies all his snares
And finds the prisoners there and takes his toll.
(‘Mole catcher’, 1922)

Yn ei got werdd a het drwsiadus nid yw William Thomas yn debyg iawn i’r gwaddotwr tlawd yng ngherdd John Clare:

Tattered and ragg’d, with greatcoat tied in strings,
And collared up to keep his chin from cold,
The old mole-catcher on his journey sings …
(‘The mole-catcher’, 1835)

Dyw e ddim, chwaith, yn debyg iawn i’r gwaddotwr yn y gerdd grafog a ysgrifennodd W.J. Gruffydd, y Glog, o Ffair-rhos, yn un ar bymtheg mlwydd oed (fe’i cyhoeddwyd gyntaf gan Dewi Emrys yn Y Cymro):

Guto fain, gyda’i focs bach tun,
Ac eilun plant y fro
Yn dweud celwyddau a dyli dwl
Wrth ddyfod yn ei dro.

Guto fain, gyda’i focs bach tun,
Yn blingo’r gwaddod dall,
A’i chwerthin hir yn llenwi’r sied
Fel pe bai ddim yn gall.

Guto fain, gyda’i focs bach tun,
Yn wlyb o’i ben i’w draed;
Guto fain, oedd mor wyn ei fyd
Yn awr yn poeri gwaed.

Guto fain, heb ei focs bach tun,
A’r peswch bron â’i ladd;
Cyn hir bydd Guto fain ei hun
Mewn bocs yn is na’r wadd.
(‘Y gwaddotwr’, 1932)

Y dyn arall, hŷn yn y llun, yn ôl yr traddodiad llafar, yw Robert Lewis o Lanboidy. O farnu o’i wisg, llafurwr arall yw e. Mae’n cyfarch y gwaddotwr trwy godi ei het a chynnig cetyn iddo: yn amlwg, mae’n amser cael hoe fach o’r gwaith caled. Mae Walters yn dal dillad Lewis yn feistrolgar: gallwn weld pob crych bron yn ei drowsus a legins lliwgar – dillad, gyda llaw, sy’n ymdddangos yn un o ganeuon hen faledwr dall y pentref, Levi Gibbon (c1807-1870):

Ffair Llanboidy sydd yn pwyso
Britsch a legins rhaid eu gwisgo
Ac mi glywa’r merched yn siarad
O! na gawn i Lefi’n gariad.

Nid yn unig mae hwn yn llun genre (er bod y testun yn brin), perthyn hefyd i ddosbarth celfyddydol arall, y ‘llun cyfarch’. Yr enghraifft fwyaf nodedig ohono yw ‘Bonjour M. Courbet’ gan Gustave Courbet (1854), sy’n dangos cyfarfod gyda hetiau yn cael eu codi. Does dim dwywaith ond bod Walters yn ymwybodol o’r traddodiad artistig hwn, ond yn hytrach na dangos aelodau o’r bourgeoisie, à la Courbet, mae e’n awyddus inni weld aelodau’r bobl werin, leol o’i bentref ei hun. Amcan Courbet yw eilunaddoli’r bobl yn y llun (a gwneud arwr o’r artist ei hun). Nod Walters yw portreadu ei gymdogion mewn ffordd onest a gwrthrychol, heb eu mawrygu nac eu bychanu. Mewn geiriau eraill, dyma James Walters yn cyfarch ei ffrindiau, fel pobl gyfartal. O bosib, fel mae Ann Dorsett yn awgrymu (Carmarthenshire Life, Tachwedd-Rhagfyr 1999, t.13), roedd Walters dan ddylanwad aristiaid o’r mudiad Realaeth, fel Jean-François Millet, Luke Fildes a Hubert Herkomer, yr oedd awydd ganddynt borteadu pobl wledig gyffredin yn eu cynefin. 

Mae’n debyg bod lluniau eraill gan James Lewis Walters mewn dwylo preifat o hyd.  Ar ôl i ‘The Llanboidy molecatcher’ gyrraedd yr Amgueddfa yn 1985 – fe’i lleolid gynt yn y Neuadd Farchnad yn Llanboidy – apeliodd yr Amgueddfa i’r cyhoedd am wybodaeth bellach am y llun.  Nid yn unig roedd Mrs Griffiths o Langynnwr yn gallu cynnig enwau i’r ddau gymeriad yn y llun, ond hefyd dangosodd hi ffotograff o’r artist, yn ei bumdegau canol (felly c1918) yn sefyll o flaen un arall o’i luniau wedi’i osod ar îsl.  Teitl y llun hwn oedd ‘The rejection by society of the unmarried mother’.  ‘She is shown’, medd Ann Dorsett, ‘crouched cowering behind an angelic, fair-haired child’.  Dyw’r llun ei hun ddim wedi dod i’r fei eto, gwaetha’r modd. 

Stanley Cornwell Lewis, ‘The Welsh molecatcher’ (Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd)

Yn rhyfedd digon paentiwyd llun arall o waddotwr o Gymru rai degawdau yn ddiweddarach. Yr artist oedd Stanley Cornwell Lewis, pennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin rhwng 1946 a 1968. Yn 1937, tra roedd e’n gweithio yn Ysgol Gelf Casnewydd, paentiodd e lun o’r enw The Welsh molecatcher. Fe’i detholwyd i’w ddangos yn Arddangosfa Haf Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain y flwyddyn honno, lle enwyd e fel y gwaith mwyaf poblogaidd yn y sioe. Does dim tystiolaeth, hyd y gwn i, fod Lewis yn ymwybodol o lun James Walters, ac mae’r driniaeth o’r thema yn dra gwahanol. Awgrym Dylan Rees, a gyfwelodd Lewis cyn ei farwolaeth yn 2009 yn 103 mlwydd oed, oedd bod Stanley Spencer yn ddylanwad arno (Carmarthenshire Antiquary, cyf. 46, 2010, t.123-35). Er bod ei drap yn wahanol, mae’n ddiddorol nodi bod dillad gwaddotwr Lewis – het, cot, legins ac esgidiau – yn debyg iawn i rai William Thomas. Nid yw hi’n amhosibl bod Lewis yn gyfarwydd â llun James Walters.  Imi, er ei fod yn fedrus ac yn yn nodweddiadol o’i oes, nid yw llun Lewis yn cyrraedd safon ‘The Llanboidy molecatcher’, o bell ffordd. 

Llun eithriadol o fywiog a gafaelgar yw ‘The Llanboidy molecatcher’.  Mae ganddo naws arbennig, rhywbeth yn agos i Realaeth Hudol bron, yn rhannol o achos bod y ddau ffigwr yn ymddangos ar lwyfan, fel petai, ar wahân i’r tirlun y tu ôl iddynt.  Portreadir Wil Thomas a Robert Lewis yn fanwl, â gofal a chariad – dau gyfaill, cyfarwydd ac urddasol.  Mae eu gwefusau ar gau, ond mae’n glir bod sgwrs werth ei chlywed ar fin dechrau.  Ac yn y cefndir, wele Arcadia Sir Gâr, ffrwythlon, mwyn, gwyrdd – fel mae ardal Llanboidy o hyd o bosibl.

James Lewis Walters, ‘The Llanelli molecatcher’ (manylyn)

Os oes gennych ragor o wybodaeth am James Lewis Walters a ‘The Llanboidy molecatcher’, croeso ichi gysylltu.

Leave a Reply