Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf

August 7, 2014 0 Comments

Gwyn Jenkins

Ydych chi’n chwilio am lyfr dibynadwy a darllenadwy yn Gymraeg sy’n dangos hanes y Rhyfel Mawr mewn geiriau a lluniau, o safbwynt pobl Cymru? Os felly, does dim angen arnoch chwilio ymhellach na Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwyn Jenkins, cyfrol odidog a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Y Lolfa.

Dyma lyfr hardd (ie, hardd, er taw erchyll, ar y cyfan, yw ei gynnwys) a chynhwysfawr, gan awdur profiadol sy’n ysgrifennu mewn arddull glir a gloyw.

Wedi rhagymadrodd cryno – mae Gwyn yn osgoi esboniad hir o’r anchosion niferus a chymhleth i’r gwrthdaro – cawn ni gyfres o benodau byrion ar agweddau gwahanol ar y Rhyfel a’i chanlyniadau, ar flaen y gad a chartref yng Nghymru. Yn fras maen nhw’n dilyn trefn gronolegol, o ‘Hogi arfer: 1900-1913’ i ‘Cofio ac anghofio’, ond yn frith trwy’r naratif trafodir pynciau unigol o bwys, fel y twnelwyr, y caplaniaid, gwrthwynebwyr y Rhyfel, propaganda, y ffratïoedd arfau a rôl menywod, a’r byd amaeth.

Yr hyn sy’n arbennig am y llyfr yw ei fod yn dibynnu ar gannoedd o leisiau cyfoes: lleisiau unigolion, rhai’n adnabyddus ond y mwyafrif yn anhysbys heddiw, oedd yn rhan o’r frwydr neu’n dystion i’r canlyniadau o’r Rhyfel nôl yng Nghymru. Daeth Gwyn ar eu traws yn ystod ei ymchwil manwl a llafurus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – ei ‘hen gynefin’, fel mae’n ei alw yn y Rhagair – tra roedd e’n pori trwy’r archifau, papurau newydd a llyfrau yna. Mae’r lleisiau hyn yn rhoi naws arbennig i adrodd yr hanes: heb eithriad maen nhw’n fywiog, weithiau yn llachar a thrawiadol.

Gwyn Jenkins Cymry'r Rhyfel Byd Cyntaf

Ond nid lleisiau a geiriau’n unig sydd yn y gyfrol hon. Mae’n llawn delweddau rhagorol o ffotograffau, peintiadau, posteri a gwrthrychau. Rhagorol am ddau reswm. Yn gyntaf, fe’u dewiswyd yn hynod ofalus, o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, yr Imperial War Museums a sawl ffynhonnell arall (yn gynnwys lluniau lliw a dynnwyd gan yr awdur ei un). Er y bydd rhai o’r lluniau’n gyfarwydd, fydd a rhan fwyaf ohonynt ddim – ac maent i gyd yn raffig ac yn nerthol. Yn ail, diolch yn bennaf i’r dylunydd Elgan Griffiths, llwyddwyd i weu’r testun a’r lluniau gyda’i gilydd mewn ffordd hynod grefftus. Yn aml defnyddir dwy dudalen (ffolio yw maint y gyfrol) i ddangos lluniau arbennig o bwerus, fel ‘Saethu ysbïwr’ (t.96-7) ac ‘Y dinistr ar Gefn Messines wedi’r frwydr ym Mehefin 1917’ (t.182-3).

Llyfr gafaelgar yw hwn. Bydd yn amhosibl i unrhyw ddarllenydd ei roi o’r neilltu heb ddysgu llawer am y Rhyfel a’i erchyllterau – a heb gael ei effeithio’n emosiynol gan y profiad.

Lansiwyd Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 30 Gorffennaf 2014.  Gofynnwyd imi roi cyflwyniad byr fel rhan o’r lansiad, a dyma fy ngeiriau:

Dyn ni’n cwrdd yma yn y Drwm gan mlynedd yn gwmws bron ers dechrau’r Rhyfel Mawr: ar 28 Goffennaf 1914 cyhoeddodd Awstria-Hwngari ryfel yn erbyn Serbia.

Ond eisoes mae rhai’n dechrau cwyno: ond dyn ni wedi cael syrffed o lyfrau a rhaglenni teledu am y frwydr? Digonedd o brosiectau Loteri?

Dowch

Ac mae’n wir fod y silffoedd yn gwegian dan bwysau llyfrau mawr am bob agwedd ar y Rhyfel, a sawl rhaglen deledu wedi bod – yn amrywio o gyfres anwastad Jeremy Paxman i’r rhaglen bwerus iawn am ddechrau Brwydr y Somme. Ac mae ‘na ddwy raglen deledu’r wythnos hon yn y Gymraeg.

Wel, a oes unrhyw wirionedd yn yr achwyn? Nac oes, yn fy marn i.

Yn un peth, mae’n anodd dadlau bod unrhyw ddigwyddiad unigol arall yn ystod y ganrif a hanner diwethaf wedi bod mor dyngedfennol a mor bellgyrhaeddol â’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Hyd yn oed heddiw rydym yn teimlo ei ôl-effeithiau. Cymerwch Irac, gwlad newydd sbon a grëwyd gan lywodraeth Prydain yn sgil y Rhyfel yn 1921. Mae’n hollol bosibl erbyn hyn fod Irac yn dechrau hollti neu ddatod i dri endid ar wahân – tir y Sunni, tir y Shia a thir y Cwrdiaid – hynny yw, y tair talaith oedd yn bod o dan yr hen ymerodraeth Otoman cyn y Rhyfel Mawr.

Anibyniaeth

Heb y Rhyfel, i gymryd esiampl arall yn nes adref, byddai hanes y cenhedloedd yn yr ynysoedd hyn wedi bod yn dra gwahanol. Fel mae Linda Colley wedi awgrymu yn ddiweddar, byddai datganoli i’r Alban ac i Gymru wedi cyrraedd ddegawdau cyn a wnaeth. O bosib byddai’r newidiadau cymdeithasol dyn ni’n cysylltu â llywodraeth Clement Attlee ac Aneurin Bevan wedi digwydd yn y dauddegau, yn hytrach nag yn ail hanner y pedwardegau o’r ganrif ddiwethaf.

Yn ail beth, o edrych yn ôl o bellter can mlynedd, mae’n amlwg – i’r rhan fwyaf ohonon ni o leiaf – fod y Rhyfel nid yn unig yn enfawr, o ystyried y colledion a’r dioddefaint, ond hefyd yn ddiangen ac yn ocheladwy. Mae lle o hyd i lyfrau newydd sy’n esbonio sut, i ddefnyddio teitl un ohonynt gan Christopher Clark, llwyddodd y pwerau mawr i gerdded yn eu cwsg i mewn i ryfela – a sut plannodd y Rhyfel wreiddiau rhyfel byd arall, dim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach. Os oes y fath beth â ‘gwersi hanes’, mae gwersi i’w dysgu o hyd am sut mae arweinwyr yn gallu achosi cymaint o ddinistr a dioddefaint i’w gwledydd.

Ond mae lle o hyd hefyd i fath gwahanol o lyfr – sy ddim yn esbonio trwy ddadansoddi a dehongli, ond sy’n dangos – dangos pethau fel yr oedden nhw ar y pryd. Llyfr sy’n siarad mewn iaith arall – iaith o’r cyfnod dan sylw, iaith y bobl oedd yn rhan o’r Rhyfel, nid yn unig ar y ffrynt, ond hefyd gartref. Gwrando arnyn nhw sy’n rhoi inni’r darlun cliriaf a mwyaf trawiadol o brofiadau pobl gyffredin ar y pryd: eu teyrngarwch, ofnau, colledion, a chwerwder.

Dwi heb ymweld â nhw eto, ond o’r adroddiadau welais i’n ddiweddar mae’n glir bod yr orielau newydd yn yr Imperial War Museum sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf yn neilltuol o bwerus o achos eu bod nhw’n gweld y rhyfel yn gyson o safbwynt y bobl ar y pryd, nid trwy sbectol gwylwyr sy’n edrych yn ôl ar y Rhyfel o gyfnod arall.

Gwnaeth2

Dyw’r math yma o hanes – hanes o’r gwaelod i fyny – ddim yn newydd, wrth gwrs. Ond mae’n drawiadol sut mae ein darlun o’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei lunio yn bennaf gan lenorion ac artistiaid – haneswyr, cofianwyr, beirdd, peintwyr – yn hytrach na gan leisiau’r bobl gyffredin ar y pryd.

Yn ddiweddar bues i’n edrych i mewn i Frwydr Coed Mametz ym mis Gorffennaf 1916. Fel arfer mae’n haeddu dim ond troednodyn yn y llyfrau hanes safonol am y Rhyfel, ond eto roedd hi’n frwydr hynod waedlyd a chreulon, a di-fudd. Ac i’r Cymry, wrth gwrs, mae rheswm arbennig i gofio amdano. Mae Mametz Wood yn adnabyddus am y nifer o artistiaid a llenorion enwog oedd yn yr ardal ar y pryd, ac felly mae’n gyfoethog iawn o ran lleisiau mewn print. Ond eto mae’n eitha anodd inni heddiw weld Coed Mametz trwy lygaid y milwr cyffredin a oedd yn rhan o’r ymladd. Byddwn i’n dadlau ein bod ni’n dod yn nes at y profiad yna trwy waith David Jones, oed yn filwr preifat trwy’r rhyfel, na trwy’r waith gan Robert Graves a Siegfried Sassoon ac eraill, oedd yn swyddogion.

Mae’r lleisiau gan bobl gyffredin yn bod. Wedi’r cwbl, sefydlwyd yr Imperial War Museum, cyn diwedd y Rhyfel, gyda’r amcan o gofnodi pob agwedd arno, ac o’r cychwyn cyntaf bu’r Amgueddfa’n casglu tystiolaeth gan bobl o bob cefndir – llythyrau, lluniau, cardiau post a llawer mwy. Mae’r un peth yn wir am amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau eraill.

Un o’r canlyniadau gorau o’r canmlwyddiant yw bod y sefydliadau hyn – ynghyd â’r darlledwyr a llawer o gymdeithasau ac unigolion ledled y wlad – yn gwneud ymdrechion mawr i godi’r cofnodion hyn o bobl gyffredin allan o’r archifau fel eu bod nhw’n gweld golau dydd am y tro cyntaf ar lwyfan ehangach.

Rhaid

Y Llyfrgell Genedlaethol sydd ar flaen y gad, fel petai, yn yr ymgyrch hwn. Trwy’r cynllun Cymru1914 a’r prosiectau sy wedi ei ddilyn yn ei sgil, mae’r Llyfrgell wedi llwyddo i gyhoeddi neu ailgyhoeddi ar y We gofnodion a thystiolaeth o bob math am y Rhyfel yn ein gwlad fel y gofnodwyd nhw gan y llywodraeth, y wasg a chymunedau ac unigolion o bob cefndir. Mae’n gasgliad digidol sy’n siarad yn uniongyrchol am brofiadau personol o’r Rhyfel. Teipiwch ‘Mametz’ i mewn, er enghraifft, a chewch chi dudalen ar ôl tudalen o gyfeiriadau mewn papurau newydd i ddynion lleol sy wedi colli eu bywydau neu wedi cael eu hanafu yn y frwydr – ac ambell lythyr gan filwr sy wedi goroesi, fel ‘Evan o Gorwen’:

There is only 250 left out of 1,000. You might think it was “hell” out here.  We took the big woods at Mametz you may have seen it in the papers by now. I hope it will be all over soon. What was left of us were all done up to the world. We are all trying to be happy under the circumstances.

(Yr Adsain, 25 Gorffennaf 1916)

(Ym mis Hydref, gyda llaw, adroddwyd bod Evan wedi derbyn anafiadau.)

Mae’n bosib, fel mae Stephen Pinker yn dadlau yn e lyfr mawr The better angels of our nature, fod y lefel o drais yn ein cymdeithas wedi lleihau yn sylweddol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Dwi ddim mor siŵr am hynny: bob dydd gallwn ni weld ar y teledu olygfeydd erchyll ar strydoedd Gaza. Mae trychinebau fel y Rhyfel Byd Cyntaf a Gaza heddiw yn digwydd o achos bod rhai llywodraethau – ac eraill – yn methu â dangos digon o barch tuag at werth bywyd dynol. Neu, i’r gwrthwyneb, maen nhw’n dyrchafu a mawrhau milwyr – dro ar ôl tro mae’r papurau newydd yn disgrifio’r milwyr gafodd eu lladd yng Nghoed Mametz fel ‘arwyr’ – fel ei bod hi’n anodd atal yr ymladd achos y byddai hynny yn tanseilio neu’n negyddu’r ‘aberth’.

I'r fyddin

Does dim amheuaeth ‘da fi, felly, bod gwir angen llyfrau – a rhaglenni teledu, a phrosiectau Loteri – i’n hatgoffa ni trwy’r amser pa mor arswydus a dinistriol yw rhyfel – heddiw llawn cymaint â chan mlynedd yn ôl.

A dyna yw llyfr newydd Gwyn: ffordd o ddangos i genhedlaeth newydd beth oedd impact ac ystyr y Rhyfel i Gymry o bob oedran, bob cefndir a phob profiad – i roi bywyd newydd i gannoedd o leisiau gan bobl gyffredin o Gymru a ymladdodd yn y Rhyfel, a’r gweddill a arhosodd gartref, yr oedd eu bywydau nhw yn newid am byth.

Dechreuodd Gwyn ar ei waith ymchwil o leiaf tair blynedd yn ôl, gan dwrio i mewn i archifau, llawer ohonyn nhw’n anhysbys, yma yn y Llyfrgell. Bydden ni’n cael sgyrsiau’n rheolaidd dros baned am hynt a helynt y gwaith llafurus. Roedd hi’n amlwg weithiau fod rhai o ddarganfyddiadau Gwyn wedi gadael marc emosiynol arno. Ond mae e wedi dyfalbarhau, ac o’r diwedd dyma’r gyfrol arbennig hwn wedi gweld golau dydd.

Felly, llongyfarchiadau mawr, Gwyn ac i’r Lolfa, am gynhyrchu llyfr pwysig, llyfry mae ei fawr angen, llyfr sy’n mynd i fod yn adnodd amhrisiadwy i ni ac i’r genhedlaeth nesaf.

Daw’r lluniau o bosteri propaganda o wefan Cymru1914 Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply