Geiriaduron a Karl Marx

April 18, 2016 0 Comments

Geiriadur Cymraeg GomerDigwydd bod yn swyddfeydd Gwasg Gomer yn Llandysul rai wythnosau yn ôl, a dod o hyd i hen gyfaill, D. Geraint Lewis.  Roedd camerâu Heno yn yr adeilad, i ddathlu cyhoeddi llyfr mawr, a doedd dim cyfle cael sgwrs.  Achos y dathlu oedd y llyfr mwyaf a gyhoeddwyd yn hanes y cwmni, sef llyfr gan Geraint a’i fab, Geiriadur Cymraeg Gomer.

Gelwais i mewn i Siop Tŷ Tawe y dydd o’r blaen i brynu copi.  Dyw maint y gyfrol ddim llawer yn fwy na maint Y geiriadur mawr a argraffwyd yn gyntaf yn 1958 – 160g yn erbyn 108g yn yr ystafell bwyso – ond does dim cymhariaeth rhwng y ddwy fel arall.  Mae celf y geiriadurwr wedi datblygu yn rhyfeddol ers dyddiau H. Meurig Evans a W.O. Thomas, ac o safbwynt 2016 mae’r ansoddair ‘mawr’ yn edrych yn annigonol iawn.  O heddiw ymlaen fydd dim angen troi eto at Y geiriadur mawr am eglurhad.  Gall hwnnw fynd i’r silffoedd ‘wrth gefn’.  Geraint fydd y cyfeirlyfr beunyddiol bellach.  [‘Beunyddiol: ans dyddiol am byth, bob dydd yn wastadol, ee bara beunyddiol ond papur dyddiol daily‘.]

Geiriadur MawrDyma lyfr sy’n wirioneddol wych ym mhob ffordd. ‘Geiriadur syncronig, cyfoes yw’r geiriadur hwn’, medd yr awduron yn eu cyflwyniad, ‘mae’n canolbwyntio ar Gymraeg heddiw’.   Amhosibl bod yn gwbl gynhwysfawr – dyw’r gair ‘syncronig’ ddim i’w weld yn y rhestr, er enghraifft – ond yma mae ‘da chi 43,000 o eiriau, ar 1,295 o dudalennau, pob tudalen yn llawn dop o eiriau a’u diffiniadau.  Fel un a ddysgodd Cymraeg ei hun mae Geraint yn ymwybodol iawn am y ‘ffurfdroadau’ yn Gymraeg [‘declension’, ‘inflection’], felly fe welwch chi gofnodion ar gyfer ffurfiau sy ddim yn ymddangos mewn geiriaduron eraill, fel ‘mae’, ‘des’ (a ‘deuthum’) a ‘gwerdd’.  Anelir y llyfr felly at ddysgwyr yn ogystal ag at siaradwyr rhugl.  Diffiniadau moel yn unig a geir yn Y geiriadur mawr.  Mae’r Lewisiaid yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth i ddilyn pob gair: diffiniadau manwl yn Gymraeg a Saesneg (gan wahaniaethu rhwng ystyron amrywiol), brawddegau enghreifftiol, nodiadau am sut i ddefnyddio’r gair, a phriod-ddulliau.  Yn wyrthiol bron, maen nhw’n rhagweld anghenion darllenwyr sy mewn penbleth neu ansicrwydd, ac yn cynnig rhywbeth helpus ar eu cyfer.

Un o brif rinweddau’r gyfrol yw geiriau newydd [‘newydd-fatheiriau’?], geiriau arbenigol a geiriau ‘anweddus’, sy’n anodd i’w ffindio mewn geiriaduron eraill.  Dyma rai, o’r adran ‘rh’

Rhagchwarae: ‘ysgogi erotig cyn cyfathrach rhywiol’

Rhanwedd: ‘shareware’

Rhedegydd: ‘courier’

Rheolwaith: rhaglen gyfrifiadurol ddigyfnewid

Rhith-gof: ‘virtual memory’

Rhuddiad: ‘red shift’

Rhyddewyllysiaeth: ‘libertarianism’

Rhyngrewlifol: ‘interglacial’

Rhyngwynebu: ‘interface’

Cyn y rhestr o eiriau Cymraeg ceir tabl o ferfau – rhyw grynodeb o gyfeirlyfr anhepgor arall gan Geraint, Y llyfr berfau, ac ar ei ôl mae rhestr o eiriau Saesneg a’u cyfieithiadau Cymraeg.  ‘Glossary’ yw enw’r awduron ar hwn, ‘llwybr arall ar y geiriadur Cymraeg, yn hytrach na geiriadur Saesneg-Cymraeg’ – adnodd helpus iawn, yn arbennig ar gyfer termau cymharol newydd sy ddim yn ymddangos yng ngeiriadur Bruce.

Fel y Frenhines Goch mae’r geiriadurwr yn gorfod rhedeg yn glou er mwyn sefyll yn yr unfan, a peth hawdd yw darganfod bylchau, er enghraifft fersiynau Cymraeg o dermau Saesneg diweddar megis ‘crowdfunding’, ‘hardwired’ a ‘selfie’.  Ond hollti blew [‘poeni am fanion dibwys’] yw hyn.  Campwaith, mewn gair, yw ‘Geiriadur Geraint’: geiriadur un-gyfrol safonol sy’n cyfateb i Chambers (Saesneg) a Robert (Ffrangeg), ac, ar unwaith, yn un o’r gweithiau hanfodol yng Nghymru heddiw.  Tybed pa blaid wleidyddol, yn ei hymgyrch etholiad i’r Cynulliad, fydd yn ddigon dewr i addo prynu copi i bob aelwyd yn y wlad?  Syniad gwallgof?  Llawer mwy rhesymol nag addo codi’r cyfyngiad cyflymder i 80mya ar ffyrdd Cymru.

D Geraint LewisMae’n rhyfeddol bod gennym genhedlaeth gyfan o eiriadurwyr talentog ac ymroddedig, yn eu plith Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ym Mangor, Andrew Hawke a’i gatrawd yn Aberystwyth, a ffatri eiriau’r Lewisiaid yn Llangwyryfon.  Gan fod eu gwaith mor hanfodol i iechyd yr iaith, mae’n rhyfyeddol hefyd nad ydyn nhw wedi derbyn eu rhan o anrhydeddau gan sefydliadau mawr Cymru.

Nôl yn Nhŷ Tawe, sylwais i fod dau gopi o Geraint ar y silff.  Codais i un ohonynt.  Taflais i lygad llyfrgellyddol arno: clawr [‘rhan allanol, gwarchodol, llyfr neu gylchgrawn sy’n fwy trwchus a gwydn mae’r tudalennau eraill’] sy’n gysurus galed a solet; rhwymiad [‘gorchudd sy’n cydio tudalennau ynghyd i greu llyfr’] digon cryf ac yn annhebyg o ddadfeilio [‘syrthio yn ddarnau’] fel wnaeth y ddau gopi o Bruce sy gennym yn y tŷ; dyluniad [‘ffordd y mae rhannau wedi cael eu trefnu maen cyfanwaith’] clir ac apelgar.  Cerddais tuag at y cownter i dalu fy £35.

Stori go iawn Karl MarxYn sydyn cofiais am lyfr arall, gwahanol iawn.  Gwelais i nodyn amdano rywle, heb gofio ble.  Stori go iawn Karl Marx oedd y teitl, addasiad o lyfr Catalaneg i blant.  Gyda help y dyn ifanc y tu ôl i’r cownter daeth copi i’r golwg ar silff isel: llyfr coch, sgwâr, llawn lluniau a thestun syml.  ‘Stori i blant bach a mawr, ac i blant mwy hefyd’, meddai’r clawr cefn.

Joan R. Riera a ysgrifennodd y geiriau, a Liliana Fortuny oedd yn gyfrifol am y lluniau hyfryd.  Teitl y llyfr gwreiddiol oedd El Capital de Karl Marx.  Sioned Hâf, Lowri Pijeira Pérez a Sel Williams a wnaeth y cyfieithu a’r addasu.

Karl Marx, ‘Taid’ – sosialydd gogleddol, mae’n amlwg – sy’n adrodd stori wrth bedwar plentyn bach.  Maen nhw’n gwrthod clywed hanes ‘tywysoges neu frenin’, felly mae Karl yn dweud hanes y gweithwyr, sy’n heidio i’r trefi a dinasoedd i chwilio am waith.  Gwaith Ffred, yr arwr, yw gwehyddu sanau.  Mae’n sylweddoli ei fod yn derbyn ond 25 ceiniog am bob pâr o sanau, er taw £2 yw ei bris yn y farchnad.  Yn ôl Rosa [adlais o Rosa Luxemburg, o bosib?], sy’n cadw cyfrifon y ffatri, mae’r perchennog yn pocedu £1.34 y pâr.  Wedi’u cythruddo gan y newyddion hyn mae’r gweithwyr yn mynd ar streic, a’r canlyniad yw bod y bòs  – sy’n edrych mwy fel rheolwr banc o’r hen do yn hytrach na rheolwr cronfa rhagfantoli [‘hedge fund’: dim cofnod yn Geraint] rheibus – yn ildio, trwy gynyddu cyflogau a lleihau’r diwrnod gwaith.  Gorfoledd ymysg y gweithwyr.  Trefnir parti i ddathlu, ac anfonir Ffred a Rosa ar draws y byd mewn trên i ysgogi gweithwyr gwledydd eraill i fynnu ‘gwell byd’.

Karl Marx HighgateStori hyfryd sydd yma, wedi’i addasu’n ddeallus – er y lleolir Merthyr Tudful ar lan y môr, mae’n ymddangos.  Hyder heulog – optimistiaeth o’r meddwl yn ogystal o’r ewyllys, pace Gramsci – sy’n pefrio trwy’r tudalennau.  Safbwynt perffaith addas yw hwn i ‘blant bach’, ond i ni ‘blant mwy’ dyw byd y gweithwyr buddugol ddim yn hawdd i’w adnabod.  Er gwell neu er gwaeth, gwyddon ni fod undebau llafur, os ydyn nhw’n parhau o gwbl, yn ddiymadferth yn wyneb tyrbo-gyfalafiaeth [ddim yn air yn Geraint na Bruce] remp a rhyddewyllysiaeth ideolegol.  Os oes gwirionedd o hyd yn nadansoddiad Marx o gymdeithas y ‘gorllewin’, ychydig iawn o reswm sydd y dyddiau hyn i gredu bod ffordd hawdd o greu cymdeithas ac economi mwy cyfartal a theg.

‘Marcsydd ydych chi?’, gofynnodd y dyn ifanc y tu ôl y Cownter wrth baratoi’r dderbynneb.  Cwestiwn anodd i ateb mewn brawddeg.  Nôl gartref dyma fi’n troi at Geraint am help.  Diffiniad syml ar gyfer Marcsydd: ‘un sy’n arddel Marcsaeth’, ond ysgrif gyfan ar gyfer Marcsaeth: ‘daliadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol Karl Marx, yn cynnwys sosialaeth, theori llafur, materoliaeth hanesyddol, brwydr y dosbarthiadau ac unbennaeth y proletariat (neu’r werin) cyn sefydlu cymdeithas ddiddosbarth.’  Hmm.  Tybed a oes dosbarth nos yn athroniaeth wleidyddol ar gael yn Llangwyryfon?

Leave a Reply