cymraeg

Y cartŵn Cymraeg cyntaf?

August 20, 2021 2 Comments
Y cartŵn Cymraeg cyntaf?

Yn ôl Marian Löffler, hwn yw’r cartŵn cyntaf i ymddangos mewn print yn yr iaith Gymraeg.  Mae’n wynebddalen mewn llyfryn gan Thomas Roberts a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1798, Cwyn yn erbyn gorthrymder. Brodor o Llwyn’rhudol Uchaf ger Pwllheli oedd Thomas Roberts.  Cyfreithiwr oedd ei dad, William.   Ganwyd e yn 1765 neu 1766, a symudodd […]

Continue Reading »

John Thomas: lluniau confensiynol, lluniau hynod

July 24, 2021 0 Comments
John Thomas: lluniau confensiynol, lluniau hynod

Mae’n anodd astudio bywyd cymdeithasol yng Nghymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb droi at y drysorfa fawr o luniau, dros 3,000 ohonynt, a dynnwyd gan John Thomas, Lerpwl rhwng y 1860au a’i farwolaeth yn 1905.  Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw eu cartref bellach, a gallwch chi weld y mwyafrif ar wefan […]

Continue Reading »

Cwm Ysgiach

June 4, 2021 0 Comments
Cwm Ysgiach

Yma ar y groesffordd yn y bryniau, ymddengys fod pob peth yn bosib.  Gallwch chi gymryd unrhyw ffordd o’ch dewis: nôl i Bontlliw, ymlaen i Felindre, i’r gorllewin i Bontarddulais, dros y mynydd i Garnswllt yn Sir Gâr, neu lawr i Gwm Dulais a phentref bach Cwmcerdinen.  Fy newis heddiw yw cerdded i Felindre: ddim […]

Continue Reading »

Yr hen lwybr i eglwys Llangelynnin

May 21, 2021 3 Comments
Yr hen lwybr i eglwys Llangelynnin

Roedd yr haul yn dechrau disgyn wrth imi gychwyn, ar ôl swper, o hen dafarn Y Groes.  Cerddais ar hyd y lôn sy’n troelli ar draws gwastadeddau Dyffryn Conwy tuag at bentref Rowen.  Cymylau sirws uchel yn unig yn yr awyr glas, a dim argoel o’r glaw trwm sy wedi britho mis Mai eleni. Tu […]

Continue Reading »

Doethineb a dannedd

April 16, 2021 0 Comments
Doethineb a dannedd

Yr wythnos ddiwethaf collais i ddant.  Ffordd anghywir, wrth gwrs, o ddisgrifio’r hyn ddigwyddodd  –  fel petaswn i wedi anghofio mynd ag e gyda fi wrth adael trên neu fws.  Mewn gwirioedd, tynnodd y deintydd y dant allan o’m genau yn eithaf treisiol, trwy ddefnyddio dull sydd heb newid rhyw lawer yn ei hanfod, mae’n […]

Continue Reading »

Y Cynllun Darllen, 1891-94

March 5, 2021 0 Comments
Y Cynllun Darllen, 1891-94

Heddiw mae clybiau darllen yn boblogaidd iawn fel ffordd i ddarganfod a rhannu llyfrau mewn cylch cymdeithasol, anffurfiol.  Yn rhannol oherwydd esiampl ‘Oprah’ yn yr Unol Daleithiau a ‘Richard and Judy’ ym Mhrydain, sefydlwyd cannoedd o gylchoedd lleol (a rhithiol, yn yr oes Cofid).  Erbyn hyn mae digon o enghreifftiau o glybiau sy’n trafod llyfrau […]

Continue Reading »

Pos poblogrwydd Boris

January 16, 2021 0 Comments
Pos poblogrwydd Boris

Yn gyson mae’r cwmni pôl pinion YouGov yn tracio bwriad pleidleisio pobl ar draws Prydain.  Dangosa’r canlyniadau mwyaf diweddar (4-5 Ionawr 2021) fod y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yn gyfartal (39% yr un).  Sut ar y ddaear y gallai hyn fod yn bosibl? Ystyriwch yr hyn sy wedi digwydd ers i Boris Johnson ennill […]

Continue Reading »

Nôl i normalrwydd?

November 14, 2020 0 Comments
Nôl i normalrwydd?

Pob heol yn wag ac yn ddistaw.    Ceir yn segur y tu allan i dai eu perchnogion.  Y  rheini yn celu y tu mewn i’w cartrefi.  Ychydig iawn o bobl i’w gweld yn yr awyr agored.  Gallech chi blannu eich traed, pe baech yn dymuno, ar hyd y llinell wen yng nghanol y ffordd, a […]

Continue Reading »

‘Ymharadwys’: Pentre Eirianell

October 16, 2020 2 Comments
‘Ymharadwys’: Pentre Eirianell

Yn ddiweddar digwyddodd imi fod mewn sgwrs ebost â thenant presennol Pentre Eirianell.  Hwn yw’r hen dŷ fferm ar ymyl Bae Dulas ar Ynys Môn lle magwyd ‘Morysiaid Môn’ – Lewis, Richard, William, Elin a Siôn (neu John) Morris – yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif. Gwelais i’r tŷ am y tro cyntaf ym Medi […]

Continue Reading »

Anorffenedig

September 5, 2020 0 Comments
Anorffenedig

Bu farw Edward Lhuyd, un o’r ysgolheigion Cymreig mwyaf, yn ei ystafell yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen ar 30 Mehefin 1709, yn 49 mlwydd oed. Pedair ar ddeg o flynyddoedd cyn hynny, yn 1695, argraffodd e gynllun uchelgeisiol iawn i baratoi a chyhoeddi llyfr mawr, amlgyfrolog, amlddisgyblaethol.  Teitl y cynllun oedd A design of a British […]

Continue Reading »