Ar enwau lleoedd

June 22, 2018 0 Comments

Tudur Owen a Phorth Trecastell

Y profiad a adawodd yr argraff fwya arna i yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd gwylio ffilm fer, fel rhan o raglen deledu Wales Live, oedd yn dangos y digrifwr Tudur Owen yn cerdded ar draws bae ar Ynys Môn – fel mae’n digwydd, bae yr ymwelais i ag e’n ddiweddar iawn.  Nid y cerdded oedd yn tynnu fy sylw, ond yr hyn ddywedodd Tudur am y bae.  Ei enw yw Porth Trecastell, ond mae’n tueddu i gael ei alw, yn amlach na pheidio’r dyddiau hyn, gan enw Saesneg, Cable Bay – enw sy’n dweud bron dim, meddai Tudur, ond am y ffaith bod cebl wedi bod yma unwaith.  Mae’r geiriau Porth Trecastell, ar y llaw arall, yn hynod o awgrymog, a llawn gwybodaeth – yma bu ‘pwynt mynediad’ unwaith (llawer cyn dyfodiad unrhyw gebl), a gaer neu gastell o ryw fath, ac anheddiad o’i gwmpas.  Y pwynt – a wnaed gan Tudur ag arddeliad a nerth – oedd ein bod ar fin colli nid yn unig enw a geiriau, ond rhan o’n hanes, a rhan o’r hyn sy’n rhoi ystyr i fywyd y bobl sy’n byw yma.

Llyn Bochlwyd

Rhoddodd Tudur sawl enghraifft arall o’r ffenomenon hwn.  Yr un mwyaf sarhaus oedd newid Llyn Bochlwyd, ddim yn bell o Lyn Ogwen yn Eryri – enw sy’n gysylltiedig â chwedl hudolus – i ‘Lake Australia’, o achos bod siâp ffiniau’r llyn yn debyg, yn ôl rhai, i siâp Awstralia.  Yr un mwyaf chwerthinllyd oedd newid Cwm Cneifion yn ardal Glyder Fawr – enw, eto, sy’n llawn hanes – i ‘The Nameless Cwm’.

Does dim modd gorfodi pobl i ddefnyddio enwau penodol, meddai Tudur, ond y cam cyntaf yw inni i gyd fod yn effro i’r perygl o golli ein hanes. 

Cofio am y rhaglen hon oeddwn i yn ystod lansiad yn yr Adeilad Pierhead (beth yw’r enw Cymraeg tybed?) nos Fercher ddiwethaf – lansiad o fas data newydd o enwau lleoedd safonol a drefnwyd o dan adain y Comisiynydd Iaith.   Clywon ni nifer o siaradwyr.  Cyfeiriodd Dai Lloyd AS i’w gynnig ffurfiol (aflwyddiannus) gerbron y Senedd flwyddyn yn ôl i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg yn statudol. 

Wedyn cyflwynodd Dylan Foster Evans waith trylwyr y panel fu’n gyfrifol am gynnig cyngor at y rhestr newydd o enwau.  Fel eglurodd e trwy nifer o esiamplau difyr, dyw e ddim yn fater syml bob tro i bennu un ffurf ‘gywir’ o enw.  Er taw ‘Tywyn’ yw’r ffurf safonol o’r dref lan môr ym Meirionydd y dyddiau hyn, nid felly oedd hi rai degawdau’n ôl: dangosodd Dylan glip o archif ITV Cymru o’r Llyfrgell Genedlaethol, lle cyfwelodd Gwilym Owen – wyneb iau ond llais cyfarwydd iawn – rai trigolion oedd yn ffyrnig o blaid ‘Towyn’.  Y gred gyffredinol yw bod ‘Happy Valley’, nid nepell o Dywyn, yn drosiad gwan o ‘Gwm Maethlon’ (dyna yn union beth ysgrifennais i ar ôl ymweld), ond y gwir yw bod ‘Cwm Maethlon’ yn gymharol newydd: Happy Valley yw fersiwn Saesneg o enw Cymraeg hŷn, Dyffryngwyn.  Soniodd Dylan hefyd am golli enwau Saesneg, fel ‘Crockherbtown’ yng nghanol Caerdydd a lyncwyd gan ‘Queen Street’ (roedd dylanwad Fictoria ar enwau’n ddinistriol) – er gwaetha protestiadau gan John Hobson Matthews, archifydd bywiog y dref.  Mae setlo ar ffurf safonol, felly, yn golygu llwyth o ymchwil ieithyddol a hanesyddol – yn ogystal ag ymgynghori’n eang, achos bod enwau lleoedd Cymraeg yn gallu peri anghydfod difrifol ar adegau.

Braf hefyd oedd clywed gan gynrychiolydd o’r Arolwg Ordnans.  Yn y gorffennol dyw’r OS ddim wedi dangos parch bob amser i enwau brodorol – soniodd Meri Huws yn y lansiad am ddrama enwog Brian Friel, Translations – ond mae’n galonogol clywed ei fod yn troi at y staff ac ymgynghorwyr y Comisiynydd am arweiniad ar ba ffurf i’w defnyddio ar fapiau.

Mae’r gronfa ddata newydd yn cynnwys bron i 3,000 o enwau.  Rhaid dweud bod y rhyngwyneb yn edrych braidd yn blaen ac yn ddifflach, ond o bosib bydd modd ei gyfoethogi trwy ychwanegu mapiau neu opsiwn i bori, neu drwy ddatblygu ‘ap’ i’w ddefnyddio ‘yn y maes’.

Cwm Cneifion

Efallai hefyd gall y gronfa ddata chael ei ehangu, i gwmpasu nid yn unig trefi a phentrefi ond hefyd lleoliadau naturiol (dyw Cadair – neu Gader? – Idris ddim yn bresennol eto) a lleoliadau llai, fel ffermydd unigol.  Dyna’r lle mae colledion yn digwydd yn gyflymach, mae’n debyg, wrth i bobl allanol symud i mewn i hen ffermydd a thai, a rhoi enwau newydd, Saesneg iddynt, heb feddwl am eiliad am y canlyniadau.  Fe welais i sawl enghraifft o’r broses hon yn ystod ein teithiau cerdded trwy Gymru wledig dros y blynyddoedd diwethaf.  Yn ffodus mae mudiad o’r enw Mynyddoedd Pawb sy’n ymwybodol iawn o’r broblem hon.

Mae’n annhebyg, o bosib, y gwelwn ni ddeddf i ddiogelu enwau lleoedd, o leiaf am y tro, ond mae gwaith i’w wneud yn ein cymunedau i bwysleisio pa mor bwysig yw enwau hanesyddol, o ran hunaniaeth, addysg a hunanhyder. 

Leave a Reply