‘Caitlin’

November 7, 2014 0 Comments

Caitlin 2

Wrth i ‘flwyddyn Dylan’ ddirwyn i ben – ar ôl misoedd o ddathliadau dwys sy wedi ymylu ar fod yn ‘Dylanolatri’ – mae’n briodol iawn bod peth sylw yn cael ei roi i’w wraig Caitlin.

Nos Fawrth yn Volcano yn Abertawe fe welais berfformiad byw, rhyw awr o hyd, o’r enw ‘Caitlin’, sy’n dramateiddio’r berthynas dymhestlog rhwng Dylan a Caitlin. Gwyn Emberton oedd yn chwarae rhan Dylan, ac Eddie Ladd rhan Caitlin. Comisiynwyd y ddrama/dawns gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o’i ‘gweithgareddau Dylan’ eleni.

Man cychwyn y sioe yw sesiwn o ‘Alcoholics Anonymous’. Eistedda’r actorion a’r gynulleidfa fel ei gilydd mewn cylch ar gadeiriau metal syml. Dyma Caitlin yn dechrau cyfaddef ei bod yn alcoholig, fel rhagymadrodd i naratif sy’n dweud y stori am y berthynas rhyngddi a’i gŵr. Ond nid trwy eiriau – ychydig iawn ohonynt sy’n dilyn – ond mewn symudiadau, ystumiau a thremiau y mae’r hanes yn cael ei adrodd.

Weithiau o fewn y cylch, weithiau y tu hwnt iddo – rhaid plygu yn eich sedd ac edrych o gil eich llygad i weld beth sy’n digwydd – mae’r ddau, Caitlin a Dylan, yn symud mewn dawns ddi-ben-draw. Dawns sy’n dyner ac yn agos dim ond ar adegau prin – am y rhan fwyaf o’r amser, dawns wyllt yw e, llawn symudiadau sydyn, dychrynllyd. O’r cychwyn, fel dywed Caitlin, bu trybini. Yn syth ar ôl y briodas byddai Dylan yn mynd ar ôl merched eraill. Gyda Caitlin bu ei garwriaeth a’i garu yn fyrhoedlog ac yn ddigariad. Yn nes ymlaen maent yn mynd yn bellach byth oddi wrth ei gilydd, ar ôl i Dylan fynd i America a gadael Caitlin gyda’u plant bach.

Caitlin 4

Afraid dweud, mae diod yn chwarae rhan bwysig yn eu bywydau. Yma, cwmpanau plastig a losen ynddynt sy’n sefyll am demtasiwn y botel. Unwaith bod alcohol yn dechrau cael ei afael arnynt mae’r berthynas wastad mewn perygl o droi’n dreisgar – neu yn blentynnaidd. Ar un adeg mae Dylan a Caitlin ochr yn ochr ar eu pedwar, yn mynd o berson i berson yn sniffio fel cŵn, a’r cwpanau plastig dros eu trwynau. Ar adegau eraill maent yn rhuo, yn rhedeg, yn llithro, yn ymladd, yn llorio ei gilydd, yn gwgu ar ei gilydd, yn anwybyddu ei gilydd, yn claddu ei gilydd.

Does dim ond dau actor, a dim set. Dau beth sy’n cynnig amrywiaeth i’r cynhyrchiad, traciau cerddorol rhythmig iawn gan Siôn Orgon, a’r cadeiriau plygu sydd yn y cylch. Mae cadair yn gwneud y tro mewn pob math o sefyllfa: pram i’r babis bach, carchar i Dylan, baich drwm ar gefn Caitlin, bord i’r bardd yn adrodd, cadair fabi i Dylan y plentyn mewn oed, arf i’w daflu gan y naill tuag at y llall.

Caitlin yw canolbwynt y ddrama trwyddi draw. Mae Dylan yn ymddangos yn greadur sarrug, anaeddfed, hunanol. Y cyfan welwn ni o’r bardd enwog mytholegol yw pan fydd yn sefyll ar ben bwrdd dan droi o gwmpas, cega ei eiriau mud, a phwyntio ei bys at y gynulleidfa. Ac wedyn, tua’r diwedd, dyma fe’n eistedd ar ben tŵr tal o gadeiriau yn Efrog Newydd, cyn ei gwymp olaf (llythrennol) i farwolaeth ac anfarwoldeb. Eto mae Caitlin yn cael ei gadael, y tro yma am y tro olaf, a gorfod byw gweddill ei bywyd ar ei phen ei hun.

Caitlin 3

Fe welais i Eddie Ladd am y tro cyntaf yn y 1990au cynnar mewn cynhyrchiad o ‘Los Angeles’ gan y cwmni enwog Brith Gof. Cofiaf iddi ddisgyn yn araf bach ar raff o’r nenfwd i’r llawr. Dyw hi ddim wedi colli dim o’i ystwythder a’i athletiaeth. Mae ei gallu i ganolbwyntio yn ddigymar, ac yn cyfannu’n helaeth at brofiad sy’n ddwys ac yn llawn straen i’r gynulleidfa o’r cychwyn tan y diwedd. ‘I wanted to be a dancer’, medd ‘Caitlin’ yn y cynhyrchiad. Ddigwyddodd e ddim. Ond heno gwireddir ei breuddwyd – mae hi’n dod yn ddawnswraig ardderchog.

Rhaid canmol hefyd perfformiad Gwyn Emberton fel Dylan, a gwaith arbennig y gyfarwyddwraig, Deborah Light.

Cynhyrchiad ‘siambr’ yw hwn, sy’n addas iawn i’r testun. Un o’r canlyniadau, fodd bynnag, yw bod maint y gynulleidfa hefyd yn gyfyngedig. Ydy’r arian cyhoeddus sydd ar gael erbyn hyn hefyd mor gyfyngedig fel ei bod yn annhebyg iawn y cawn weld cynhyrchiadau ar raddfa fawr, fel y rhai gan Brith Gof, byth eto?

Leave a Reply