Cyngerdd Tŷ

July 13, 2013 0 Comments

P1010243

Ar noson grasboeth arall dyma ni’n dau’n cerdded ar hyd pafin ein stryd dan gario cadair blygu’r un, ar ein ffordd i ‘gyngerdd tŷ’.  Daeth y gwahoddiad oddi wrth Delyth Jenkins a’i merch Angharad – ‘DnA’ yw eu henw proffesiynol – sy newydd ryddhau albwm newydd o awelon Cymreig traddodiadol a newydd, Adnabod (Fflach).

Chlywais i ddim o’r blaen am ‘gyngerdd tŷ’, ond yn ôl Angharad arfer Americanaidd yw e’n wreiddiol.  Arfer da, dywedwn i, ar sail neithiwr.  Cawson ni hyd i gasgliad o gymdogion a chyfeillion oedd yn eistedd, nid yn y tŷ, ond ar y glaswellt yng ngardd gefn Delyth, ac yn sipian gwin gwyn a gwin coch.  Y patio oedd y llwyfan, ar arno delyn Geltaidd Delyth a dwy ffidil Angharad (un ohonynt yn offeryn newydd sbon, meddai hi, wedi’i diwnio’n isel).

Dyma’r fam a’r ferch yn dechrau, gydag alaw gan Angharad o’r enw ‘Gan bwyll, Jo’.  (Jo yw ei chariad, ac yn cadw’r bar heno; gofynnais i Jo ‘be wnest ti i haeddu’r geiriau hyn?’, ond doedd fawr o esboniad ganddo …)  Wedyn cyfres o alawon a chaneuon hyfryd tu hwnt: rhai traddodiadol, rhai gan Delyth neu Angharad, rhai yn cwmpasu’r hen a newydd: ‘Dolig Abertawe’, ‘Cassie en Lorient’, ‘Glyn Tawe’, ‘Brandy Cove’ ac eraill.  Yr hyn sy’n drawiadol am y perfformio yw’r berthynas agos rhwng y ddwy: Delyth yn cadw llygad ar ei merch a’r ffidil trwy’r amser, ac Angharad yn wên i gyd, yn arbennig yn y tonau cyflym.  Roedd pawb ar y glaswellt wrth eu boddau ac yn gwrando’n astud, hyd yn oed yn yr ail hanner, wrth iddi nosi ac i’r gwybed mân heidio a chnoi.

P1010237

Mae DnA yn dechrau ennill sylw, gyda thraciau o’r albwm yn cael eu chwarae ar Radio 2 ac ar raglen 6 Music Cerys Matthews – yn haeddiannol: mae’r ddwy gerddores a’r ddau offeryn yn gyfuniadau hapus iawn; gyda’i gilydd maen nhw’n creu sŵn arbennig.

Cyfuniad hapus arall, fel profodd y noson, yw’r bartneriaeth rhwng cerddoriaeth a gerddi.  Aethon ni’n dau adref ar hyd y stryd dan wenu a hymian.

P1010236

Leave a Reply