Cynulliad neu Senedd?

December 9, 2016 1 Comment

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad.

Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd newid eto ar ôl i’r mesur datganoli diweddaraf ddod i rym yn gynnar yn 2017).

Dadl arall yw bod llawer o’r Cymry, yn ôl yr ymchwil, yn anwybodus o hyd am swyddogaethau’r Cynulliad.  Simsan yw ein dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng y meysydd lle mae gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu ac i weithredu a’r meysydd lle mae Senedd y DU yn dal i deyrnasu.  Ar yr enw ‘Cynulliad’, medd Elin, mae peth o’r bai am y diffyg ymwybyddiaeth.

Yr ateb, un ôl Elin a’i chyd-aelodau, yw newid ‘Cynulliad’ i ‘Senedd’.  Yn syth byddai’r argraff o ‘gorff eilradd’ yn diflannu, a byddai Senedd Cymru cymryd ei le priodol ochr yn ochr â Senedd y DU a Senedd yr Alban.  Mewn atodiad i’r papur ymgynghorol mae rhestr ddethol o wledydd democrataidd a’r enwau ar gyfer eu cyrff deddfu.  ‘Senedd’ (‘parliament’) yw’r enw, bron bob tro.  Onid yw’r achos dros fabwysiadu’r enw newydd yn gryf iawn?

Ond arhoswch am funud.  Tybed a yw’r rhestr o wledydd yn rhy ‘ddethol’?  Os edrychwch ar restr lawnach, fel yr un sydd ar gael ar Wikipedia, mae’n amlwg bod yr enwau yna llawer yn fwy amrywiol.  Enw sy’n fwy cyffredin na ‘Parliament’, fel mae’n digwydd, yw ‘cynulliad cenedlaethol’ (national assembly).  Un o’r rhesymau pam bod ‘cynulliad cenedlaethol’ yn boblogaidd, dywedwn i, yw cynsail Ffrainc, lle sefydlwyd un o’r cyrff deddfu cyntaf yn yr oes fodern.  Yr enw ar y corff ar gyfer y ‘Drydedd Ystad’ (y bobl) yn union cyn y Chwyldro Ffrengig oedd yr ‘Assemblée Nationale’.  Mabwysiadwyd yr enw yn 1946 ar gyfer y tŷ pwysicaf o’r Senedd.

Imi mae’r term ‘cynulliad cenedlaethol’ yn cyfuno gwreiddiau radical, democrataidd gyda naws cartrefol, dinesig sy’n gweddu ar genedl fach.  Ar y llaw arall mae’r gair ‘Senedd’ yn awgrymu sefydliad canoloesol sydd wedi ceisio – ond wedi methu – cyrraedd safonau democrataidd modern (mae Senedd y DU yn enghraifft berffaith).  Neu, yn waeth, mae’n atgoffa rhywun o’r Senedd wreiddiol, Senedd hen Rufain – corff hollol annemocrataidd.

Felly mae gan yr enw ‘cynulliad cenedlaethol’ achau urddasol a defnydd eang.  Pam y dylem gydymffurfio â’r garfan Senedd a throi ein cefn ar draddodiad clodwiw?  Does dim rheswm i gredu y byddai’r gair ‘Senedd’ yn dod â rhagor o statws a bri i’n Cynulliad annwyl.  Llai o reswm byth i feddwl y bydd newid enw yn arwain at well ymwybyddiaeth o’r Cynulliad o ran y miloedd ar filoedd o bobl sy’n ffaelu deall y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Caerdydd a Senedd Llundain.  Mae llawer o ffactorau allai esbonio hynny, yn y plith diffygion y cyfryngau torfol yng Nghymru, a’r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth y setliad datganoli – neu, i fod yn gywir, setliadau, achos bod sawl ymgais cyfreithiol wedi bod i ddiffinio’r berthynas rhwng Caerdydd a Llundain (fydd y Ddeddf newydd ddim yn dod â’r stori i ben chwaith).

Gallai rhywun ddadlau fod dwy Senedd – Senedd y DU a Senedd Cymru – yn debyg o arwain at fwy o ddryswch nag sydd nawr.  At hynny, byddai rhaid ailenwi adeilad y Cynulliad, jyst wrth i bobl ddod i nabod ei enw presennol, y Senedd.  Yn Gymraeg byddai ‘Senedd-dŷ’ yn bosibl, ond yn lletchwith.  Beth fyddai’r enw yn Saesneg?  ‘Parliament House’?

Beth, felly, am gadw ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’?  Mae’r tri gair yn fêl i’r glust, wedi’r cyfan.  Trwy beidio â newid yr enw gellir arbed y costau o newid (rhwng £40,000 a £150,000, yn ôl y papur ymgynghorol) a gwario’r arian ar fesurau i wella gwybodaeth am ddyletswyddau’r Cynulliad.

Ond os mai ‘cadw’r Cynulliad’ yw’r ffordd ymlaen, mae ‘na un newid ddylai ddigwydd heb os – y geiriau Saesneg ar gyfer y Cynulliad.  Ers y dechrau mae’r geiriad ‘National Assembly for Wales’ wedi taro’r nodyn anghywir.  Y drwg ynddo yw’r gair ‘for’, sy’n awgrymu bod y Cynulliad yn rhodd garedig gan y DU, neu ryw fath o foddion i glaf gwleidyddol.  Y gair cywir, wrth gwrs, yw ‘of’: ni, sy’n byw yma yng Nghymru, sy biau’r Cynulliad.

Erbyn meddwl, mae angen newid bach arall: cael gwared â’r enw ‘Clerc’ ar gyfer Prif Weithredwr y Cynulliad.  Wedi’r cyfan, dyn ni ymhell nawr o oes Charles Dickens ac inc du a phinnau yn crafu ar bapur ffwlsgap.

Comments (1)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Marconatrix says:

    I fi, mae´r gair ´cynulliad´ yn awgrymu rhyw fath o gorff dros-dro yn unig. A nid felly mae´r sefylliad ar hyn o bryd? Fod yn hollol bosibl a chyfreithiol i´r Cynulliad cael ei ddiddymu herwydd ewyllys San Steffan?

Leave a Reply