Gwallt

June 5, 2016 0 Comments

3207461400_b5f446b86e_zBues i mewn parti ychydig wythnosau yn ôl mewn tŷ yn Abertawe – fel mae’n digwydd, heb nabod fawr neb ymysg y gwesteion eraill.   Dim syndod yn hynny: mae perchennog y tŷ’n adnabyddus am ehangder ac amrywioldeb ei gylch o ffrindiau.

Yn yr ystafell lle roedd pryd o fwyd Indiaidd blasus ar gael i bawb, cychwynnais i sgwrs gyda menyw sy’n gweithio fel seicotherapydd, a chyn hir roedden ni wrthi’n trafod pob agwedd ar ei gwaith – hynod ddiddorol imi, blinderus, siŵr o fod, iddi hi – am natur y gwaith, yr effaith ar ei bywyd y tu allan i’r oriau gwaith, a sawl pwnc arall.  Wedi syrffedu ar fy nghwmni, troes i’r ferch ar ei hochr arall.  Ond yn eistedd wrth fy ochr arall roedd ei gŵr, sy’n digwydd bod yn rheolwr siop trin gwallt.

Gan fy mod i’n gwybod llai hyd yn oed am fusnes trin gwallt nag am drin meddwl dynol, dyma fi’n dechrau holi am natur ei waith e.  Dyma ddyn profiadol iawn yn ei faes, mae’n amlwg, gyda busnes sefydlog a llwyddiannus.  Mae e wedi casglu cymaint o straeon oddi wrth ei gwsmeriaid yn ystod ei yrfa – llawer ohonyn nhw hefyd yn sefydlog – fel ei fod yn ystyried cyhoeddi llyfr amdanynt.  Gan y byddant yn dychwelyd dro ar ôl tro i’r un triniwr gwallt – unwaith eu bod wedi dod o hyd i un sy’n magu hyder, yn broffesiynol ac yn bersonol – gall perthynas dyfu rhyngddynt sy’n eitha agos – a hyd yn oed yn gyffesiadol neu yn therapiwtig.

home-banner-2-960x385[1]Gwaith y triniwr gwallt, felly, yw nid yn unig cynhyrchu’r trefniad gwallt gorau bosib i’r cwsmer, ond hefyd gwrando’n astud ar yr hyn sydd gan y cwsmer i’w ddweud – straeon a chlecs, cwynion a chyhuddiadau, cyfrinachau a chyffesion.  Rhaid gwrando a chofio, ond wrth gwrs beidio â chynnig unrhyw feirniadaeth.  Y gamp yw bod yn glust teimladwy – a chyfrinachol (byddai’r ymddiriedaeth sy’n datblygu yn diflannu’n syth pe bai’r triniwr yn datgelu cynnwys y sgwrs wrth rywun arall) – ond yn fwy na hynny, mae angen ar y triniwr gynorthwyo’r cwsmer i ddarganfod ffyrdd o ddatrys ei phroblemau personol ac ysbrydol.  Mewn gwirionedd doedd natur gwaith y dyn hwn ddim yn bell iawn o natur gwaith ei wraig.  Dim syndod ei fod wedi casglu digon o ddeunydd i allu meddwl am lenwi llyfr.

I rai – merched yn bennaf – fydd hyn oll ddim yn rhyfedd.  Ond imi daeth e fel agoriad llygad. Doeddwn i erioed wedi dychmygu ei bod hi’n bosib magu perthynas â thriniwr gwallt.  Yn wir ers imi fod yn blentyn bach mae ymweliad â’r barbwr yn brofiad tebyg i fynd at y deintydd.  Dwi’n cofio fy nhad yn mynd â fi i Penistone, y dref gyfagos i’n pentref, ar fore Sadwrn i weld Mr Swallow, dyn hynafol, difrifol ei olwg, â mwstas a chot wen, fyddai’n mwmian ambell air nawddoglyd i’m clust cyn torri fy ngwallt o fewn modfedd o foelni.  Bob tro byddwn i’n hynod falch o ddianc o ‘na a chwilio am bysgod a sglods cyn mynd adre.

Mae’r fath siopau barbwr – traddodiadol, tywyll, plaen – yn dal i fod hyd heddiw.  Mewn stryd gefn yn y Mwmbwls cewch ddod o hyd i siop Mr Don Piper, dyn oedrannus sy’n gwasanaethu cwsmeriaid gwrywaidd o’r un oedran ag e.  Yma, medden nhw, gallwch chi ffindio allan am bawb a phopeth sy’n digwydd yn y pentref – rhyw fath o ryngrwyd oddi ar lein yw’r siop hon, ac yn effeithlon iawn.

jays-barber-shop[1]Mae’n well ‘da fi fynd, nid at Don, ond i siop ar y brif stryd, un o’r ‘top shops’ yn y Mwmbwls.  Gyda llaw, yn ôl yr arwydd sydd wedi bod yna byth ers inni symud i’r ardal yn 1992, y cyfieithiad Cymraeg o ‘Top shops’ yw ‘Y siopau gorau’.  Petai perchnogion ‘y siopau gwaelod’ yn sylweddoli bod eu siopau’n israddol o ran safon ac enw yn hytrach â bod yn ddaearyddol is na’r ‘top shops’ a dim mwy, byddai rheswm ‘da nhw i gwyno.  Fy hoff siop drin gwallt yw ‘The Cutting Crew’.  Enw sinistr, ontife?  Digon gwir.  Y tu mewn fe welwch chi ddwy ferch sur ac ymosodol eu golwg.  Eu rhinwedd pennaf , fodd bynnag, yw na fyddan nhw’n dweud gair wrthoch chi, cyhyd â’ch bod chi’n ateb eu cwestiwn cyntaf (‘doing anything this afternoon?) mewn ffordd unsillafog neu amwys.  Mae’n help fawr fod fy ngwallt mor fyr a thenau ac anniddorol, a bod dim angen siswrn (gofynnaf am Siafiwr Rhif Chwech bob tro).  Felly, gyda lwc, gallaf ffoi o’r siop ar ôl pum munud (pum munud a hanner os gofynnaf am dorri’r aeliau’n ychwanegol), wedi torri gwallt ond heb dorri gair.

Yr hyn oedd yn fwy o syndod byth imi, yn y sgwrs gyda’r dyn torri gwallt yn y parti, oedd clywed ganddo fod dynion yn ogystal â merched yn barod i agor eu heneidiau i’r triniwr, a dweud pethau cyfrinachol fyddan nhw ddim yn meddwl am ddatgelu i’w ffrindiau agosaf.  Roedd gŵr ‘da fe oedd yn cwyno am ei wraig, meddai, ond roedd y wraig yn gwsmer hefyd, a byddai hithau’n dod i’r siop ar adeg arall ac ymosod ar ei gŵr.  Gwir angen diplomyddiaeth i fod yn driniwr gwallt.

Gofynnais i pam bod dynion ifainc bellach yn barod i hala cymaint o’u hamser yn y siopau trin gwallt newydd sydd wedi lluosogi ar strydoedd y ddinas yn ddiweddar.  Does dim ateb syml, meddai, ond mae’n wir fod gwallt ar y wyneb yn galw am fwy o ofal y dyddiau hyn.  Efallai bod y ffasiwn wedi ymledu o’r gymuned Asiaidd i weddill y boblogaeth.  A oes gwirionedd tybed yn y theori ei fod yn rhan o’r broses o fenyweiddio dynion cyfoes – o ddechrau diddymu’r ffiniau haearnaidd sydd wedi hollti’r rhywiau ar hyd yr oesoedd tan yn ddiweddar iawn?  Pwy a ŵyr?

Leave a Reply