Llais tawel Dafydd Pritchard

December 23, 2013 3 Comments

Morfa Bychan

Aderyn prin yw llyfr newydd gan y Prifardd Dafydd John Pritchard.  Felly dylid croesawu ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Lôn Fain (Barddas, 2013), yn frwd iawn.

Ddaw ystyr llythrennol ‘Lôn Fain’ ddim yn eglur inni tan y tudalen olaf, ond mae’r bardd yn ein paratoi at y gerdd derfynol, ‘Wrth fedd fy mrawd’, trwy’r casgliad gyda nifer o gerddi sy’n cydblethu’r themâu mawrion o farwolaeth, atgofion a lleoliadau.  Nid bod pob cerdd yn ddigyfnewid dywyll o bell ffordd: cawn enghreifftiau lu o hiwmor Dafydd yn frith trwy’r gyfrol.  Yr hyn sydd yn gyson trwyddi yw ei lais unigryw: llais tawel, cynnil, meddylgar, sy’n siarad yn sgyrsiol â ni fel petawn ni mewn cornel neilltuedig o ryw gaffi neu dafarn.

Siarad y mae’r bardd hefyd â beirdd eraill, a chlywn ni eu lleisiau nhw o bryd i’w gilydd: Emily Dickinson, Michael Donaghy, Philip Larkin, T.S. Eliot. Billy Collins, Wilfred Owen.  Eu rôl, mae rhywun yn teimlo, yw ysbrydoli, iawn, ond hefyd i godi gwên ar gil y foch.

Dechreuwn ni yn hen gynefin y bardd, Nant Peris (‘Nadolig gwyn 2010’).  Cwyd ei lygaid o’r pentref beunyddiol a’i gyffiniau cyfarwydd –

heibio’r tai, heibio’r ceir llonydd,
heibio mwg simneiau
aelwydydd ‘styfig y tanau agored

– tuag at fynyddoedd Eryri dan eira trwchus, lle maent yn aros gan beri meddyliau iethyddol-athronyddol:

mae’r Garn a’r Glyder fawr yn berffaith wyn;
achos dyna a ddywedwn ni.
Fe hoffwn innau feddwl fod y Garn
a’r Glyder Fawr yn wyn berffaith.

‘Heibio’ a ‘tu hwnt’ yw ymysg hoff eiriau Dafydd ac fel arfer maen nhw’n dynodi’r chwilio am rywbeth sy’n gorwedd ar draws y gorwel neu dan y wyneb – rhywbeth y mae ond ychydig o bobl, fel beirdd, yn medru eu darganfod, fel yn yr ail gerdd, ‘Cwch pleser wedi’i angora ar Lyn Padarn ym mis Rhagfyr’:

Ond mae yna un â’i gôt yn dynn
Sydd yn edrych heibio i’r cwch.
Ai syllu mae o ar y lan yr ochr draw?
Neu ar y llethrau lle mae’r coed yn noeth?
Neu ar lechi oer Dinorwig o dan eira i gyd?

Neu a welodd hwn, hefyd, ryw un bluen wen
Yn tanio’n goelcerth yn y dyfroedd llwyd.

Cyferbyniad cyffredin arall, difyr iawn, yw bywyd y bardd a bywyd y biwrocrat, fel un ‘Café Rouge’ a ‘Cofnodion’ (‘Prin yw’r awen sy’n perthyn i gofnod’) a ‘Metadata 2’.  Ac eto nid yw’r ddau fyd mor wahanol â hynny, wedi’r cwbl, fel mae gwaith y llyfrgellydd yn ei ddangos:

Fel catalogydd unig eto’n gaeth wrth ddulliau anfarwoldeb.
Rhoi trefn ar drefn, dwyn gwybodaeth am wybodaeth,
a’r dewis tyngedfennol hwn cyn paned ddeg: ai $a neu $b,
gan fod y gramadeg hwn mor fanwl benagored, sydd weithiau’n
agor drysau a ffenestri, weithiau’n cloffi pob athroniaeth.
(Metadata 2)

Belmont-Abbey

Ar y cyfan, cerddi byrion sydd yma, gan gynnwys nifer o englynion crefftus, ond yng nghalon y gyfrol mae dilyniant rhagorol o ddeuddeg cerdd, pob un yn wahanol iawn o ran gwedd, sy’n deillio o ‘gyfnod sabothol’ halodd Dafydd yn abaty Benedictaidd Belmont yn Swydd Henffordd.  Dyma’r bardd fel anthropolegydd: allanwr sy’n ymgynefino ag amgylchedd newydd, yn ymdoddi yn y gymuned ond heb ddod yn un gyda hi, yn rhannu yn ei defodau ond heb ymroi yn llwyr iddynt.  Daw cryfder y dilyniant o’r tyndra rhwng yr atyniad naturiol gan un sy’n rhannu’r un ffydd Gatholig â’i westeion ar y naill law, a’r pellter angenrheidiol rhyngddynt ar y llaw arall.  Cymerwch dawelwch, un o gonglfeini arferion yr abaty.  Yn y gerdd gyntaf o’r gyfres, ‘Pererin’, cawn Dafydd yn gyrru ‘yn cydio’n dynn wrth obaith y llyw’, tua’r abaty (‘tawelwch yn Rheol, yn ffordd o fyw, yn drefn’) yn ei gar llawn synau:

Mynd yn sŵn radio a rhethreg rhaglenni,
y dibwys pwysig a’r straeon i gyd –
y lleisiau diarth sydd eto’n gwmni.

I fardd yn arbennig mae byw heb eiriau’n arbennig o anodd:

Gyrru i chwilio am eiriau ynghanol tawelwch,
i weddïo am eiriau, y geiriau cudd.

Agwedd arall at fywyd yr abaty yw’r diffyg newid: eto, rhywbeth i’w edmygu ond yn anodd neu’n amhosibl i’w efelychu .  Daw’r mynachod i mewn i’r eglwys i’w seddi arferol – yr un sedd bob tro:

Yr un ‘styfnigrwydd fel hyn dro ar ôl tro ar ôl tro.
(Matins a Lauds)

A trwyddi draw mae hiwmor y bardd yn torri ar draws difrifoldeb S. Bened. Yn y fynwent (‘yma y claddwyd pob Dom, Dic a Harri’) mae gan y mynachod gwmni:

Y mae degau o dwmpathau pridd tyrchod daear
hyd y lle.  Bu’r rhain hwythau’n cloddio’n ffyddlon
o olwg y byd, ac ni all y byd gorbrysur hwnnw gyfri
oriau na gweddïau’r creaduriaid bach yn eu gynau duon.

Ond yn y gerdd olaf, ‘Cwmplin’, mae Dafydd yn darganfod ei fath ei hun o dawelwch, yn y capel ar ei ben ei hun wedi gwasanaeth ola’r dydd, a dod i adnabod gwerth parhad digyfnewid:

Ynghyd â’r hyder canol oed y daw un bore bach,
o leia’, eto, a gorwelion hwnnw’n wawr i gyd,
a’i olau’n mynnu sleifio i mewn yn ara’ bach, yn ganu adar,
yn gloch yn seinio, yn ddydd, yn weddi danbaid arall.

O’r cerddi eraill, mae nifer sy’n deillio o deithiau tramor (‘cardiau post’), a chyfres hyfryd o sonedau, i gyd yn ymwneud â machlud haul yn Aberystwyth.  Ond y rhai sydd fwyaf cofiadwy, heb os, yw’r marwnadau.  Yn ‘Er cof am y Tad John Fitzgerald O. Carm’, ymddengys fod y dref – y ceir, y siopwyr, y meysydd parcio – yn tewi i nodi’r farwolaeth.  Ond, medd y bardd rhesymegol,

Nonsens yw hynny.  Bu’r beirdd erioed yn hoff o or-ddweud;
yn hawlio fod natur ei hun yn galaru, mynnu fod daear
a charreg a phridd yn uno’n y galar.

Erbyn diwedd y gerdd, fodd bynnag, daw’r llinell unig:

Ond, mi roedd y môr yn wyllt yn Aber heddiw.

Ac ar ddechrau marwnad arall (‘Sara’) ceir esiampl hynod rymus o’r ‘camsyniad teimladol’:

Glaw Mehefin i’n blino,
A’i holl hyfdra gydag o
Yn un haf o orlifo;

Un haf nad yw’n Fehefin,
Un haf blêr Gorffennaf blin
A haf heb werth na chwerthin.

Diweddglo’r llyfr yw marwnad ddagreuol dros frawd Dafydd, a fu farw yn ystod y gwanwyn eleni (‘Wrth fedd fy mrawd’).  Mae’n adleisio’r gerdd gyntaf, ‘Nadolig gwyn 2010’, yn ei lleoliad, Nant Peris, a dyma, o’r diwedd, cawn weld Lôn Fain:

Mi welaf innau o fan hyn y siop
sydd wedi cau ers tro;
eglwys – hen, hen eglwys – capel;
Llys Awel, ein tŷ ni, lle mae eraill
bellach yn byw; a heibio’r tŷ,
Lôn Fain, a’i hwyneb yn dyllau
Ac yn raean i gyd.

Cwyd ei lygaid eto i’r Garn, fel yn y gerdd gyntaf, cyn dychwelyd i’r geiriau yn y llinell gyntaf:

Ond yma, heddiw, dan fy nhraed,
Daw’r sylweddoliad nad y fo,
Fy mrawd bach,
Yw’r diweddarach bellach.

Does dim cysur crefyddol, dim gobaith fydd yma, dim ond dagrau, a meddyliau’n troi’n ôl ac yn ôl.

Os dymunwn ni gael ein cysuro, rhaid troi nôl rai tudalennau at y gerdd ‘Plygu’, sy’n sôn am goed ar arfordir Ceredigion y mae’r gwynt gorllewinol wedi eu plygu yn wastad, ond sydd yn dal i sefyll, er gwaetha pawb a phopeth.

Comments (3)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Dafydd says:

    Diolch o galon, Andrew.

  2. Barddas says:

    Llawer iawn o ddiolch am roi cystal sylw i un o’n cyfrolau.

  3. martin says:

    Adolygiad da iawn.

Leave a Reply