Tranc sebon

December 29, 2014 0 Comments

soap bars

Allech chi ddim dweud bod diffyg sebon, yn ei ystyr fetafforaidd. Er bod rhai yn dadlau bod ein cymdeithas wedi colli pob arwydd o ymostyngiad, mae seboni yn weithgaredd poblogaidd o hyd, yn arbennig yn y byd gwaith. Ac wrth gwrs mae operâu sebon yn rhygnu ymlaen, er bod rhywun yn synhwyro nad oes gan EastEnders sut gymaint o afael ar y dychymyg cyhoeddus ag oedd yn yr wythdegau, ac ar y radio bu raid i awduron yr Archers droi at linellau stori mwyfwy anghredadwy er mwyn cadw’r gwrandawyr ar ddihun.

Ond sôn ydw i am sebon go iawn – sebon ar ffurf bar, sy’n cael ei ddefnyddio i lanhau’r corff.

Roedd y ddwy ferch wedi cyrraedd o Lundain i aros gyda ni dros y Dolig. Gyda’r nos buon ni’n chwarae’r êm fwrdd Articulate!, lle gofynnir i gystadleuydd ddyfalu gair o ddisgrifiad a roddir gan ei phartner. ‘Sebon’ oedd y gair, a rhan o ddisgrifiad Elin oedd ‘be fydd hen bobl yn ei ddefnyddio i olchi dwylo’. Ac wrth gwrs mae’n hollol wir. Dim ond pobl oedrannus fel fi, y dyddiau hyn, sy’n parhau i brynu a defnyddio barrau sebon. I bob un arall bron mae ‘sebon’ yn dod allan o ryw focs plastig ar ymyl y tapiau, ar ôl ichi ymestyn eich llaw, gwasgu ar big bach gyda’r llaw arall, ac aros am yr hylif seimllyd i ymddangos.

Yn Sainsbury’s y sylweddolais i am y tro cyntaf bod rhywbeth o’i le ar yr economi sebon. Roedd hi’n yn gynyddol anodd cael hyd i farrau sebon ar y silffoedd, ymysg y cannoedd o wahanol boteli, blychau a thiwbiau plastig sy’n cynnig hylifau, elïau a hufennau i’w rhwbio, tylino a lledu i’r croen. Bron bob tro roedden nhw – y barrau – wedi cael eu halltudio i’r silffoedd isaf, a rhaid ichi gwrcwd neu ostwng eich pen i’r llawr fel jiráff er mwyn eu harchwilio. Yn amlwg, doedd Mr Sainsbury ddim yn disgwyl llawer o alw amdanynt. Iddo e, ac i lawer o bobl, mae’n amlwg, mae sebon ar ffurf talp yn oroeswr o gyfnod y Frenhines Fictoria, ac yn perthyn i dudalennau Charles Dickens, ond nid i’r byd cyfoes.

Yn tŷ ni mae ymladd cyson, cyfartal ar ymyl bob sinc rhwng ‘sebon plastig’ (Carys) a ‘sebon hen ffasiwn’ (fi). I mi does dim byd i’w gymharu â’r hen ddefod a’r profiad teimladol o gymryd y bloc o sebon a’i rwbio rhwng eich dwylo fel ei bod yn dechrau toddi a gwneud trochion – a’r boddhad o ailosod y bloc gyda cnoc. Rhywsut mae ‘na rhywbeth diog a rhy hawdd am dderbyn y trochion yn syth o geg peiriant. Dylech chi orfod llafurio er mwyn cynhyrchu glendid.

Wrth gwrs ein bod ni’n dau wedi paratoi ein rhesymeg i amddiffyn ein safbwyntiau gwahanol. Dyw sebon traddodiadol ddim yn iach nac yn ddiogel, medd Carys. Unwaith bod craciau’n datblygu ar wyneb y bar gall microbau niweidiol, maleisus dyfu ynddynt a heintio’r glanhäwr.

simple

Dwi innau’n dadlau’n wahanol, gan dynnu sylw at y cemegau cymhleth niferus sy’n cwato yn y poteli plastig apelgar ‘na. Bydda i’n darllen y rhestr hir o gynnwys un ohonynt, a werthir o dan y brand ‘Simple’. Er bod blaen y botel yn bloeddio, ‘Kind to skin; antibacterial; fresh mint goodness; from the experts in sensitive skin’, dyma’r fwydlen ar y cefn, mewn llythyron sy bron yn rhy fach i’w darllen heb feicroscôp.  Byddai’n dipyn o sialens hyd yn oed i’r Professionals ar Masterchef.

Aqua [pam, gyda llaw, bod cwmniau’n gyndyn i ddefnyddio’r gair syml ‘dwr’?]
Sodium Loureth Sulfate
Sodium Chloride
Glycerin
Cocomidopropyl Betaine
Coco-Glucoside
Cocomide DEA
Panthenol
Citronellyl Methylcrotonate
Citrus Aurontium Dulcis Peel Oil expressed
Citrus Grandis Seed Extract
Mentha Arvensis Leaf Oil
Glyceryl Laurate
Copper PCA
Pontoloctone
Tetrasodium EDTA
Polyquaternium-7
Benzophenone-4
Citric Acid
Sodium Hydroxymethyglycinate
Sodium Benzoate
Ascorbic Acid
Limonene

soap bars 2

Yn ôl ‘Simple’ does yr un o’r elfennau hyn yn deillio o anifeiliaid. Ond beth tybed yw effaith yr holl gemegau artiffisial yma? Iawn, maen nhw’n farwol i facteria afiach. Ond mae’n debyg eu bod nhw’n ymosod yn llym ar facteria eraill sy’n berffaith ddiniwed, ac yn wir yn llesol ichi. A phwy sy’n ddigon hyderus i ddatgan eu bod nhw ddim yn niweidiol inni eu hunain? Ar y llaw arall, mae sebon mewn bloc yn sebon – mwy na lai.

A beth am gostau? Mae’n amlwg bod bar yn rhatach na hylif mewn potel blastig, a llawer yn llai costus i’r amgylchedd: yn y pen draw mae’r bar yn diflannu i ddim byd yn naturiol, tra bod y botel yn goroesi fel gwastraff am flynyddoedd os nad am ganrifoedd, neu’n cael ei chludo i Tsieina i’w ailgylchu.

Galla i sefyll fy nhir felly yn y math yma o ddadl. Ond yn fy esgyrn dwi’n gwybod i sicrwydd fy mod i’n colli’r frwydr. Does dim modd gwrthsefyll ymdaith hanes. Rhaid cydnabod bod sebon ar y ffordd allan. Os teipiwch chi’r gair ‘soap’ i Google, y cyfeiriad cyntaf sy’n ymddangos yw erthygl yn Wikipedia ar y ‘Simple Object Access Protocol’ – sydd, mae arna i ofn, yn rhywbeth pwysig yn y byd cyfrifiadureg, a dim byd yn ymwneud â’r dasg hanfodol o lanhau’r corff dynol. Ac ystyr ‘bar sebon’ y dyddiau hyn, mae’n ymddangos, yw bloc o hashish o safon wael …

Filed in: cymraeg • Tags: , , , ,

Leave a Reply