Tri rhyfeddod Cymru

June 24, 2013 0 Comments

Cadair Idris 2

Ychydig wythnosau yn ôl daeth gwahoddiad i siarad ar Radio Wales am dri agwedd ar Gymru sydd â lle arbennig yn fy mywyd: tri rhyfeddod Cymru.

I wneud pethau’n waeth doedd bron dim terfynau ar ystyr y gair ‘rhyfeddod’: gallai fod yn lle, yn berson, yn ddigwyddiad, neu unrhyw beth arall.

Panig yw’r ymateb cyntaf sy’n dilyn y fath wahoddiad – haws o lawer ddewis tri chant neu dri deg yn hytrach na dim ond tri – ond, er rhyddhad imi, ffindiais i fod gwahoddedigion eraill eisoes wedi dethol yr esiamplau amlycaf o Gymreictod, fel yr anthem genedlaethol neu emynau Cymreig, mewn rhaglenni cynt.  Felly roedd y ffordd yn glir imi ddewis rhyfeddodau llai amlwg, mwy personol.  Dyma nhw:

Steve Morris

Yr athrawon a geisiai ddysgu Cymraeg i fi ac eraill

Dyw e byth yn beth hawdd dysgu unrhyw beth i oedolion.  Yn wahanol i blant, sy’n llyncu gwybodaeth yn reddfol fel sbyngau, dyn ni’n debycach i ddefaid, sy’n gorfod pori’n llafurus am oriau er mwyn tynnu unrhyw faeth o’u bwyd.  Rhaid bod dysgu ieithioedd yn anos byth.  Ond bûm yn ddigon lwcus bod cyfres o athrawon dawnus iawn ‘da fi dros y blynyddoedd: Chris Rees yng Nghaerdydd (tiwtor ffraeth iawn, oedd yn gyfrifol am fabwysiadu methodoleg Wlpan i addysg Cymraeg), Mair Hallows yn Sheffield (unwaith imi sylweddoli ei bod yn bosib mynd i ddosbarthiadau nos Cymraeg yn y ddinas honno), a Steve Morris yn Abertawe.  Dyw fy mhrofiad i ddim yn wahanol i brofiad dysgwyr eraill, mae’n siŵr: heb ein hathrawon talentog ac ymroddgar fyddai dim gobaith ‘da ni feistroli’r iaith.

Surfside Cafe

Siopau coffi Bae Abertawe

Ar un adeg roedd pen gorllewinol Bae Abertawe yn (ddrwg-)enwog am ‘filltir y Mwmbwls’: rhes hir o dafarnau lle byddai ieuenctid Abertawe yn mynd yn feddw ac yn wyllt bob nos Sadwrn.  Erbyn hyn mae’r hen draddodiad hwn yn farw, ac yn lle llawer o’r tafarnau fe welwch chi lu o gaffis a siopau coffi: mwy ohonyn nhw, dywedwn i, nag sydd i’w gweld mewn unrhyw le arall yng Nghymru.  Rhwng Black Pill a Bae Caswell, yn ôl fy nghyfrifiad answyddogol, ceir 19 o gaffis – un bob 400 llath.  Mae’n help, wrth gwrs, fod prom llydan a llwybr troed yn ymylu ar y môr, fel y gall pawb fwynhau loetran a chlebran ar brynhawn heulog (arferiad Eidalaidd, fel perchnogaeth llawer o’r caffis eu hunain).  Anodd credu y gallai hyn ddigwydd yn y brifddinas.  Mae pobl Caerdydd yn rhy brysur yn gwneud busnes ac elw i wastraffu amser yn yfed coffi.  Ond mae pobl Abertawe yn wahanol ac yn fwy hedonistaidd: iddyn nhw mae ymlacio a chymdeithasu yn rhywbeth naturiol, rhybeth i’w drysori.  A dyna pam bod y gymdeithas goffi wedi cydio cymaint yma – arwydd bach ond pwysig o fywyd gwaraidd.

Cadair Idris

Yr A487 trwy Fwlch Llyn Bach

Wedi croesi’r wlad wag ar y A487 i’r de o’r Cross Foxes a throi’r gornel, fe welwch chi un o’r golygfeydd mwya godidog yng Nghymru, Bwlch Llyn Bach: cwm hir, dwfn tair milltir o hyd rhwng muriau mynyddog, ac, yn y pellter islaw, Llyn Mwyngil yn sgleinio yn haul y prynhawn.  Ond nid yr olygfa mo’r ‘rhyfeddod’.  Y gwir wefr yn y lle yma yw’r teimlad (unigryw yng Nghymru) o fod yn yr awyr, o hedfan, wrth i’r car garlamu lawr y ffordd (glir, gobeithio) rhwng y creigiau tywyll tua’r llyn.

Mantais fawr o’r ffordd hon, wrth gwrs, yw ei bod yn arwain tua Minffordd, man cychwyn y llwybr orau i fyny’r llethr ar y chwith, Cadair Idris – y mynydd mwya arbennig yn y wlad.  Bûm ar un o’i freichiau, Mynydd Moel, y dydd o’r blaen, a digwydd gweld awyrennau chwim yr RAF yn chwyrlïo’n isel, dro ar ôl tro, i lawr y Bwlch uwchben y ffordd, gan droi’n sydyn ar y gwaelod a dilyn yr A487 tua Chorris.

Leave a Reply