Y £5 newydd: ymlaen i’r gorffennol

October 23, 2016 2 Comments

five-pound-note-1Yr wythnos ddiwethaf cyrhaeddodd fy mhapur pum punt newydd cyntaf.  Ychydig ddyddiau cyn hynny derbyniais i trwy’r post The new Fiver, taflen (uniaith Saesneg – er bod fersiwn Cymraeg ar gael) gan Fanc Lloegr sy’n ceisio esbonio’r newid a rhoi cysur i’r cyhoedd.

Rhaid imi gyfaddef, yn anaml iawn y byddwn i’n aros am eiliad yn y gorffennol i graffu ar y papur pum punt traddodiadol, ond mae’n anodd peidio â thalu rhywfaint o sylw i’r pum punt newydd (‘PPN’ o hyn ymlaen).  Yr hyn sydd wedi hoelio sylw’r cyfryngau yw’r penderfyniad i ddefnyddio polymer yn hytrach na phapur fel defnydd.  I’r bysedd dyw’r newid hwn ddim yn amlwg iawn – mae’r ‘papur’ yn ddigon tenau a hyblyg – ond i’r llygad mae tryloywder rhan o’r PPN yn ei wneud yn gwbl glir taw darn o blastig yw hwn.  Un o brif amcanion cyflwyno’r PPN yw sicrhau bywyd hwy iddo, ac yn wir fydd ei niweidio neu ei ddinistrio ddim yn beth hawdd i’w wneud.

Amcan arall yw ei gwneud hi’n anodd iawn ffugio’r PPN.  Ceir yma bob math o ddyfais i rwystro ffugwyr.  Yn y ffenestr dryloyw mae delwedd o Dŵr Elizabeth, mewn aur ar y blaen ac arian ar y cefn, ac o’i chwmpas mae ymyl sy’n newid o ymddangos yn borffor i edrych yn wyrdd, yn ddibynnol ar yr ongl o’i wylio.  Oddi tano ceir petryal arian, lle mae’r gair ‘Five’ yn newid i ‘Pounds’, eto yn ôl yr ongl, ac uwchben mae panel arall â choron sydd eto yn newid lliw wrth ichi newid yr ongl.  O dan olau uwchfioled ymddengys y rhif ‘5’ ar flaen y PPN, sydd hefyd yn cynnwys llawer mwy o driciau gwrth-ffugio soffistigedig iawn.

five-pound-note-2Yn anffodus, fel canlyniad i’r holl ddyfeisiadau hyn, mae golwg orbrysur a ffyslyd iawn ar y PPN – yn wahanol iawn i ddyluniad golygus y papur ewro.  I wneud pethau’n waeth, mae maint y ‘papur’ yn llai na’i ragflaenydd, o ryw 15%.  (Byddai rhai’n dweud bod hyn yn addas iawn, o ystyried y gostyngiad mawr – o 18% a mwy hyd yma – yng ngwerth y bunt yn erbyn y ddoler ers canlyniad y refferendwm Ewropeaidd.)

Er bod y PPN yn fodern ei olwg yn dechnolegol, fel y mae Banc Lloegr yn brolio, mwyaf eich bod chi’n syllu ar y lluniau sydd arno, mwyaf mae ei naws yn ymddangos yn un hen ffasiwn a gwrthredol.  Y Frenhines, wrth reswm, sy’n hawlio’r prif le ar flaen y PPN.  Nid yr Elizabeth Windsor sy’n byw heddiw, fodd bynnag, ond y Frenhines goronog fel yr oedd hi rywbryd yn y 1970au.  Does yr un rhych i’w weld ar ei bochau, ac mae ganddi wallt tywyll heb unrhyw olwg o flewyn gwyn.  (Mewn tarian gron fach ar y chwith gwelwn ni lun arall o Mrs Windsor – o bosib, y tro yma, mewn fersiwn dipyn yn hŷn, ond mae’n anodd bod yn siŵr).  Palas Buckingham sy’n llechi y tu ôl i ben y Frenhines, a gwelir hefyd Tŵr Elizabeth, yr enw newydd ar brif dŵr Palas San Steffan.

Does fawr o syndod, efallai, fod ochr flaen y PPN yn cyfleu neges gyson, nerthol, am rym ac awdurdod y wladwriaeth Brydeinig, ei brenhiniaeth a’i senedd.  (Neu’r wladwriaeth Saesneg, o bosib: pam tybed ein bod ni’n dal i oddef yr enw ‘Banc Lloegr‘ yn y 21ain ganrif?  I fod yn deg i’r Banc, os ydych chi’n astudio’r PPN yn ofalus iawn, o dan chwyddwydr, fe welwch chi darian a’r Ddraig Goch arno – ond tarian bitw ac anweledig bron yw e.) Anodd osgoi rhoi’r argraff, wrth gwrs, o fod yn ‘awdurdodol’ ar bapur arian, sydd ynddo ei hun yn ddi-werth: ei unig nerth mewn gwirionedd yw ei werth symbolaidd.

elizabeth-fryY siom fawr, fodd bynnag, yw’r ochr arall.  Ar gefn y papur pum punt blaenorol ymddangosai llun o Elizabeth arall – Elizabeth Fry, y fenyw oedd yn gyfrifol am helpu i wella’r hen system greulon o drin carcharorion yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.  Nid aelod o’r sefydliad mohoni, ond un a frwydrai yn erbyn y meddylfryd arferol o’i dydd, a cheisio creu cymdeithas decach, fwy gwaraidd.  Gellid dadlau bod presenoldeb Fry yn rhyw fath o gyfaddawd gan y Banc, i gydnabod fod yna ochr arall i hanes Prydain, rhywbeth y tu hwnt i hegemoni’r dosbarth llywodraethol.

Mae Elizabeth Fry druan wedi diflannu o’r PPN.  A pwy sy’n cymryd ei lle?  Neb llai na Mr Sefydliad ei hun, Syr Winston Churchill.  Roedd gyrfa Churchill, wrth gwrs,  yn hir ac yn amlochrog.  Roedd e’n newyddiadurwr ac yn anturiaethwr, yn wleidydd ifanc, brwd iawn dros imperialaeth, yn Ysgrifennydd Cartref ac yn Brif Weinidog (dwywaith), ac yn awdur ac yn artist.  (‘He won the Nobel Prize for Literature in 1953’, medd y Banc yn helpus yn ei daflen, mewn nodyn rhyfedd sy’n esbonio am Churchill, fel petai neb yn gyfarwydd â’r enw.)  Ond y Churchill arbennig sy’n ymddangos ar y PPN yw Churchill yr arweiynydd rhyfel, Churchill y ci tarw.  Seilir y portread ar y llun du a gwyn enwog a dynnwyd gan Yousuf Karsh yn 1941.  Rhag ofn nad ydych chi’n adnabod ei oes, ychwanegir o dan y llun y dyfyniad, ‘I have nothing to offer but blood, toil, tears and sweat’.

winston-churchillI rai, o genedlaethau hŷn ac ymysg pobl geidwadol ei gogwydd, bydd Churchill yn ffigur i’w addoli.  Bydd eraill yn ei gofio fel gwleidydd pleidiol yn hytrach na gwladweinydd, un oedd yn gyson elyniaethus i’r dosbarth gweithiol – yn ddigon parod, er enghraifft, i anfon y fyddin yn erbyn streicwyr yn Nhonypandy yn 1910.  Ond y pwynt allweddol yma yw bod llun Churchill yn cynrychioli Prydain ‘Fawr’, ar adeg arbennig iawn yn ei hanes – yn unedig ac yn ymerodraethol o hyd, yn sefyll yn falch ac unig yn erbyn y byd.  Dyma’r myth na all Prydeinwyr golli gafael oddi arno: bod ein gwlad yn medru cadw ei statws ynysig, hunangynhaliol, ond dal i fod yn rym gwleidyddol, milwrol o’r radd flaenaf yn y byd. Myth dinistriol iawn yw hwn, un sy’n cael effaith fawr ar y ffordd dyn ni’n ymddwyn yn y byd – ond myth llwyr yw e, heb unrhyw sail mewn realiti (hyd yn oed nôl yn y 1940s).

Dyma felly yw byd meddyliol y PPN: ceidwadol a thraddodiadol, hiraethus ac ôl-syllol, mytholegol a hunandwyllodrus. Ond cofiwch: cynlluniwyd e llawer cyn 23 Mehefin 2016, a’r penderfyniad tyngedfennol gan bobl Prydain nad oeddent am fod yn rhan o gyfandir Ewrop bellach.  Mae’r wyrthiol bron bod Banc Lloegr wedi rhagweld y newid mawr sydd wedi trawsnewid ein hinsawdd wleidyddol a chymdeithasol ers y dyddiad hwnnw.  Yn amlwg roedd bysedd ei arweinwyr ar bỳls y dymer gyhoeddus – yn wahanol iawn i David Cameron a’i griw a sawl un arall.  Does dim dwywaith ond bod y PPN yn symbol perffaith o’r oes Brecsit.

pound-coinMae gan Fanc Lloegr gynllun i ddilyn y PPN gan ‘mêcofers’ ychwanegol.  Rhyddheir ‘papur’ decpunt newydd â llun o Jane Austen arno yn 2017, £20 newydd (JMW Turner) yn 2020, ac o bosib nodyn newydd sbon ar gyfer £50.  Yn y cyfamser cynhyrchir darn arian newydd gan y Bathdy Brenhinol.  Ym mis Mawrth 2017 disodlir y £1 presennol, gyda’i ddyluniad golygus, modern (a geiriau ar ei ymyl sy’n cynrychioli pob gwlad o fewn y DU), gan ddarn deuddengochrog hyll, sy’n ddychweliad i’r hen ddarn tair ceiniog: unwaith eto, tystiolaeth i awydd i ddianc yn ôl i oes a fu – mewn gwirionedd, oes na fu erioed – pan roedd Prydain yn sefyll ar ei ben ei hun yn erbyn y byd.

 

 

 

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Hywel Davies says:

    Tra diddorol – ac arwyddocaol iawn. Diolch.

  2. Chris Edwards says:

    Yes, the choice of Churchill is both retrograde and timely, if that’s possible. And sadly the Turner £20 will feature not ‘Rain Steam and Speed’ but ‘The Fighting Temeraire’; another “standing alone” moment in the national myth. Still, it’s as well this series was commissioned before the referendum, or else we might have notes depicting not Euro bridges but walls and checkpoints. As for the polymer, I’m all in favour – Aussies say they are useful when surfing – but I wonder how much longer there will be cash at all.

Leave a Reply