Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

March 25, 2017 0 Comments

Dyma destun anerchiad i Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe ar 8 Mawrth 2017.

Bum mlynedd ar hugain yn ôl des i i Brifysgol Abertawe, neu Goleg y Brifysgol Abertawe fel yr oedd hi ar y pryd, i fod yn gyfrifol am ei Llyfrgell – syndod mawr, gyda llaw, achos roeddwn i’n ifanc ar y pryd a ddim yn disgwyl cael fy mhenodi.  Mae llawer iawn o bethau wedi newid yn y Brifysgol ers hynny.  Y newid amlycaf yn ddiweddar, wrth gwrs, yw’r campws newydd, sydd wedi galluogi i’r brifysgol ehangu ac ennill bri fel canolfan ymchwil bwysig.   Llai amlwg i lawer o bobl yw’r twf yn addysg cyfrwng Cymraeg.  Pan ddes i yma roedd hi’n anodd dod o hyd i’r iaith, y tu allan i’r Adran Gymraeg ac ambell unigolyn mewn adrannau eraill.  Heddiw, diolch i Ganolfan Hywel Teifi a llawer o staff ymroddedig, mae gan y Gymraeg broffil uwch – uwch o bosib nag ar unrhyw amser arall yn ei hanes. 

Dwi’n dod tua diwedd fy nghyfnod fel Cadeirydd Bwrdd y Coleg, ac efallai y maddeuwch imi am edrych yn ôl dros 13 blynedd ers dod yn rhan o’r ymdrech i sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion.  O edrych yn ôl, mae’n debyg taw fy unig gyfraniad i’r achos fuodd eistedd yn llonydd mewn cyfres o gadeiriau!  Fi oedd y cadeirydd ar y grŵp llywio cyntaf i ystyried strategaeth go iawn, nôl yn 2004.  Es i ymlaen i gadeirio paneli i ddyfarnu ceisiadau i sefydlu swyddi a chreu ysgoloriaethau, cyn ymuno â Bwrdd y Coleg yn 2013. 

O edrych yn ol, dyma’r nodweddion amlychaf o’r cyfnod cyntaf:

> Yn gyntaf, maint y datblygu.  Mae’r cynnydd yn drawiadol ers dechrau’r Coleg – y twf yn y nifer o swyddi darlithio (llawer dros 100), ac yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng yr iaith.   Yn fwy penodol, mae’n werth nodi sut mae’r ddarpariaeth wedi esblygu y tu hwnt i’r tair canolfan draddodiadol (Bangor, Aberystywth a Chaerfyrddin), yn arbennig yn y de-ddwyrain ac yn Abertawe.  Mae datblygu wedi bod hefyd mewn pynciau newydd, megis meddyginiaeth, nyrsio a’r gwyddorau, ac yn wir ar draws y cwricwlwm.

> Yn ail, y twf sy wedi digwydd o fewn y sefydliadau, yn arbennig trwy’r Canghennau, sy’n gweithredu fel meithrinfeydd i siaradwyr Cymraeg – yma yn Abertawe, trwy Ganolfan Hywel Teifi.  Mae magu cymuned o addysgwyr a dysgwyr Cymraeg yn hynod bwysig.  Dwi’n cofio ein cynhadledd genedlaethaol gyntaf yng Nghaerdydd yn 2015, oedd yn cyfle i addysgwyr rannu profiadau ar draws y sefydliadau a’r pynciau, ac i wneud cysylltiadau newydd. (Tybed a yw’n bryd trefnu un arall?)

> Yn drydydd, llwyddiant y Coleg ei hun – fel sefydliad effeithiol ac effeithlon, ond hefyd yn gorff arloesol (meddyliwch am y prosiectau arbennig, Y Porth a’r llyfrgell ddigidol), a sefydliad hyblyg a diplomyddol.  Mae ganddo ffordd o weithio sy’n anarferol os nad yn unigryw, trwy ddibynnu ar dair egwyddor: cynllunio strategol, defnydd doeth o arian canolog, a chydweithio rhwng prifysgolion, adrannau a phobl.  Mae cydweithio gyda’r myfyrwyr yn rhan bwysig o’r datblygu: gwelir myfyrwyr fel ‘cyd-gynllunwyr’, yn hytrach na fel ‘prynwyr addysg’ neu ‘consumers’.

Beth am y dyfodol?  Mae ffordd hir eto i fynd i sefydlu addysg gyfrwng Cymraeg yn gadarn trwy Gymru ac ym mhob pwnc.  Yn ddelfrydol ddylai’r Gymraeg ddim yn bod fel rhyw isddiwylliant cudd mewn prifysgol.  Dylai hi fod yn amlwg ac yn fywiog.  Efallai bydd lle o hyd i genhadu, gwthio, gweithio yn erbyn y llif – ac efallai dyna sut y dylai hi fod.

Bron o’r dechrau roeddwn i o’r farn bod gan y Coleg gyfraniad allweddol i’w wneud i’r agenda bellach – yr ymdrech i greu Cymru llawer mwy dwyieithog.  Dyw addysg uwch ddim yn ynys – er ein bod ni’n ymddwyn weithiau fel petai hi yn.  Mae’n rhan o addysg gydol oes, i ddefnyddio term hen-ffasiwn.  Mae ganddo gysylltiadau di-rif â’r byd ehangach.  Mae’r cyswllt gyda’r ysgolion yn amlwg, ac mae’r Coleg wedi adnabod pwysigrwydd dilyniant ers y dechrau – hynny yw, magu hyder ymysg plant ysgol o bob oedran fel y medran nhw fynd ymlaen i astudio trwy’r iaith mewn prifysgol.  Eto, mae ffordd hir i fynd. 

Ond hefyd mae cysylltiad gyda’r byd y tu hwnt i’r brifysgol, hynny yw, y byd gwaith.  Yn ddiweddar mae’r Coleg wedi gweithio’n agos gyda chyrff eraill, er enghraifft mewn meysydd fel gofal cymdeithasol ac iechyd, er mwyn codi defnydd a statws yr iaith Gymraeg yn y gwasanaethau y mae aelodau o’r cyhoedd yn dibynnu arnynt.  Un o effeithiau buddsoddiadau’r Coleg fu’r cynnydd yn y dysgu sy’n digwydd mewn pynciau galwedigaethol – mae hynny’n agor y drws i waith pellach, fel addysg a hyfforddiant y tu allan i’r brifysgol.

Fel dych chi’n gwybod, ar hyn o bryd mae Delyth Evans a’i grŵp yn ystyried rôl y Coleg ar ran Llywodraeth Cymru, ac estyn y rôl i feysydd newydd, yn arbennig i addysg bellach.  Imi mae’r datblygiad hwnnw’n naturiol ac un i’w groesawu – yn rhannol o achos bod y waliau uchel rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn dechrau syrthio, ond yn bennaf oherwydd dyna ffordd effeithiol o sicrhau bod dylanwad y Coleg yn cyrraedd pobl yn eu gwaith bob dydd – fel bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed a chael ei siarad yn amlach mewn ysbytai a meddygfeydd, mewn cartrefi i’r henoed, mewn siopau a banciau, mewn swyddfeydd a chanolfannau ffôn, ac yn y blaen.

Debyg iawn, bydd angen addasu dulliau presennol y Coleg er mwyn cwrdd ag anghenion addysg bellach, ond does dim amheuaeth ‘da fi na fydd model sylfaenol y Coleg, sydd wedi profi mor llwyddiannus yn y prifysgolion, yn gallu gweithio’r un mor llewyrchus yn y colegau addysg bellach.

Cyn cloi, hoffwn i achub ar y cyfle olaf hwn i wneud dau beth gyda’i gilydd: i ddweud diolch mawr i bawb sy wedi cyfrannu at waith a llwyddiant y Coleg dros y blynyddoedd diwethaf, ac i ddymuno’n dda iddynt yn y cyfnod nesaf o ddatblygu:

> yn gyntaf, i fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd am lywio a monitro strategaeth y Coleg a chadw llygad ar ei arian ac adnoddau eraill.

> i Ioan Matthews, arweinydd rhagorol, a phob un aelod o staff y Coleg.  Un o’r pethau sy wedi gwneud swydd y Cadeirydd yn gymharol hawdd dros y blynyddoedd yw proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd y staff – staff sydd, heb eithriad, yn bobl hynod ddawnus ac ymroddgar.

> i Weinidogion y Llywodraeth dros y blynyddoedd – eto, dyn ni’n ffodus eu bod wedi bod yn barod i gadw ffydd yn y Coleg – ac i staff y Cyngor Cyllido, sydd nawr yn ildio y rhan fwyaf o’u rôl i’r Uned Iaith yn y Llywodraeth.

> i bawb yn y prifysgolion sy’n gweithio’n galed i hybu addysg cyfrwng Cymraeg.  Un o bleserau fy swydd fu cwrdd â llawer ohonyn nhw, a rhyfeddu ar safon eu gwaith.

> yn olaf, pawb sy’n cydweithio â’r Coleg ac sy’n rhoi cefnogaeth i’r Coleg.  Maen nhw’n arbennig o bwysig oherwydd rhan ganolog cydweithio ym methodoleg y Coleg, ac o achos bod cefnogaeth y cyhoedd yn gyffredinol mor allweddol inni.

Diolch i chi i gyd, pob un ohonoch chi, a phob llwyddiant yn y dyfodol.

Leave a Reply