Y Garn Goch

February 27, 2017 0 Comments

Bûm yna am y tro cyntaf rhywbryd tua diwedd y 1970au.  Cofiaf ddilyn y lôn gul, droellog o wastatir afon Tywi, i fyny’r rhiw o bentref Bethlehem, cyn parcio’r car ar droed y llwybr.  Cofiaf hefyd y waliau cerrig sychion yn amgylchynu’r ddau fryn, yn ddiamddiffyn i’r gwyntoedd o’r gorllewin – neu’n waeth, gwyntoedd dwyreiniol main yn rhuthro lawr o gyfeiriad y Mynydd Du.

Dyma ni eto, ar brynhawn llwyd o Sul bedwar degawd ymlaen, yn troedio’r un llwybr trwy’r eirin tuag at Y Gaer Fach.  Cyn hir ymddengys ar y dde garreg fawr, arw.  Gwelwn fod arysgrif arni sy’n llifo o waelod ei wyneb i’r pen.  Carreg goffa Gwynfor Evans yw hon ac ond un gair arni, ei gyfenw, a’u ddyddiadau geni a marw, wedi’u cerfio gan Ieuan Rees i grynhoi bywyd hir, llawn cyffro.  Ar y mynydd hwn roedd yn dymuno am ei lwch gael ei wasgaru wedi’i farwolaeth yn 2005.

Ymlaen i fyny a chroesi ffin garegog y Gaer Fach.  I’r de mae’r wal yn ymdeithio’n gryf dros dalcen y bryn.  Mewn mannau eraill dyw cwrs y clawdd ddim mor eglur.  Ond mae’n amlwg fod ‘Fach’ yn air cymharol yn unig: corlan ddigon helaeth yw hon mewn gwirionedd.

Megis rhagymadrodd yw’r Gaer Fach i hanes llawer mwy difrifol.  I’r dwyrain, ar ochr arall pant bach, daw wal arswydus y Gaer Fawr i’r golwg.  Dringo ar lwybr bach i gopa’r cerrig, a gweld y wal drwchus yn ymestyn i’r pellter am 700m ar hyd y pen o’r llethr serth sy’n disgyn tua’r gogledd.  Dilyn y llwybr ar ochr fewnol y wal, gan bob hyn a hyn fentro ar linell y cerrig, nes cyrraedd y pen dwyreiniol o’r gaer, lle try’r wal trwy 90 gradd a rhedeg i’r de.  O’r fan hon gallwn ni edrych i lawr y dyffryn a’r afon a’i ddoleniadau llydan, draw i’r mynydd nesaf tuag at y Mynydd Du a’r garnedd hynafol sy’n sefyll ar ei ben.  Ac ar gopa’r fryngaer hon dyma’r Garn ei hun – pentwr anferth, hir o gerrig rhy 3m o uchder – heb os, prif nodwedd y lle yma cyn codi’r waliau mawr.

A thrwy’r amser, y gwyntoedd.  Dyw’r mynydd hwn byth yn rhydd o’r gwynt, ac yn anaml o’r glaw sy’n chwipio i mewn o’r gorllewin.  Ble roedd y cysgod rhag y tywydd garw yn y lle uchel hwn?

Erbyn i ni gwblhau cylchdaith y waliau a chyrraedd yr ochr ddeheuol, lle mae’r wal ar ei uchaf a mwyaf trawiadol, allwn ni ddim osgoi’r cwestiynau sy’n heidio i’r meddwl am ddyddiau cynnar y Garn Goch.  Pwy oedd y bobl oedd yn gyfrifol am y gwaith mawr yma?  Yn amlwg roedd y gymuned yn ddigon mawr a threfnus i’w gynllunio a’i godi.  Ond pam dewision nhw godi’r Garn a’r waliau anferth, a phryd?  Beth yn union ddigwyddodd yma, beth oedd diben y lle?  Pryd penderfynon nhw fynd a gadael i’r gwyntoedd ail-feddiannu’r bryn?

Ychydig o atebion sy’n dod nôl o’r Garn Goch.  Does fawr o ymchwil trylwyr wedi’i wneud ohoni erioed – dim cloddio, ond ar raddfa fach, a dim arolwg manwl.  ‘Rhywbryd yn ystod yr Oes Efydd’ yw’r dyddiad ansicr a awgrymir gan archeolegwyr ar gyfer y Garn, ‘diwedd yr Oes Haearn’ ar gyfer y waliau.  Er mai ‘rhagfuriau’ fel arfer yw’r enw ar y waliau oherwydd eu maint, mae’n amhosibl dychmygu’r trigolion yn amddiffyn eu caer yn effeithiol yn erbyn milwyr penderfynol, ar hyd rhyw filltir o gylch.  Ond ai bryngaer oedd hi, yn ystyr amddiffynfa filwrol?  Neu a oedd y waliau i fod i gadw anifeiliaid i mewn yn hytrach nag elynion i ffwrdd?  Efallai nad oedd gan y Garn Goch drigolion fel y cyfryw  mewn amseroedd cyffredin, tawel.  Neu efallai fod ganddi arwyddocâd ‘symbolaidd, seremonïol’, yn deillio o amser y Garn.  A beth yw ystyr y garn?  Does dim arwydd o gloddiadau ynddi.

Y Demetae, yn ôl Tacitus, oedd yr enw ar y ‘llwyth’ yn y rhan yma o Gymru yn ystod cyfnod cynnar teyrnasiad y Rhufeinwyr.  Yn y gorffennol, byddai rhai haneswyr, ar sail diffyg tystiolaeth gadarn am wrthryfela, yn barnu mai pobl heddychlon oedd y Demetae, a ddaeth i gytundeb ar unwaith â’r mewnfudwyr Rhufeinig.  Daeth y llwythwyr i lawr o lethrau’r Garn Goch yn ufudd, yn ôl y theori hon, i fyw bywyd cydweithredol lawr yn y dyffryn.  Ond does dim sail i’r ddamcaniaeth: efallai fod y Garn Goch yn dal yn erbyn yr ymosodwyr am gyfnod, neu’n dal yn gartref i bobl yr ardal am flynyddoedd mwy.

Llawer gormod o ‘efallai’, dywedwch chi. Ac o bosib dyna’r sut dylai pethau fod, mae rhywun yn meddwl yn sefyll ar ben y Garn Goch.  Yn ystyfnig ac yn benderfynol mae’r mynydd yn peidio â datgelu ei gyfrinachau.  Ac mae’n hawdd sylweddoli hyn wrth gerdded o fewn y waliau: dych chi’n taro’ch troed yn ansicr ymysg y cerrig cudd, anghyfeillgar o dan eich sodlau, a gweld pa mor amhosibl fyddai gwneud cloddiad archeolegol ystyrlon mewn lle mor fawr.  Rhywsut mae’r Garn Goch yn cadw ei hurddas a’i hintegriti yn erbyn chwilfrydedd yr oes fodern.

Oherwydd hyn gall y fryngaer gynnig ystyron gwahanol i bobl wahanol.  I Gwynfor Evans roedd hi’n symbol o’r Gymru bur, wledig, draddodiadol, yn bell iawn o’i dref enedigol, y Barri, y tyfodd ei boblogaeth o ychydig gannoedd yn 1881 i dros 38,000 yn 1921, diolch i lif enfawr o fewnfudwyr.  Yn y Garn Goch cymerodd rhagflaenwyr y Cymry safiad cadarn, arwrol yn erbyn byddin o fewnfudwyr arfog.

I ‘derfysgwyr’ Beca yn 1843, a ymgasglodd yn y fryngaer a chynnau tanau i ddangos eu cryfder ac annog pobl dyffryn Tywi i wrthryfela, roedd y Garn Goch hefyd yn symbol o herfeiddiad – y tro yma, yn erbyn gormeswyr cyfoes, y landlordiaid a’r awdurdodau.

Nôl ym mhentref Bethlehem eto, edrychwn ni i fyny tuag at gefn caregog y Garn.  Un peth y gallwn ni ei ddweud yn ddi-os yw bod ei llethrau, hyd yn oed yng ngolau gwan y gaeaf, yn sgleinio’n goch.

 

 

 

 

 

Leave a Reply