‘Y tu mewn’ T.H. Parry-Williams

March 9, 2019 0 Comments

Yr ysgrif fyrraf gan T.H. Parry-Williams yn ei gasgliad Lloffion (1942) yw ‘Y tu mewn’.  Y fyrraf, ond nid yr ysgafnaf.  Mae iddi ddau fan cychwyn: sylw ar ddau air Cymraeg (‘perfedd’ ac ‘ymysgaroedd’), a delwedd weledol:

… aeth modurwr hwnnw dros gyw bach melyn ac aros i edrych ar yr alanas a chydymdeimlo â’i berchennog, yr hyn a ddaeth gyntaf o’i enau oedd y cwestiwn ebychol, ‘Pwy a fuasai’n meddwl bod gan gyw iâr ymysgaroedd?’

‘Dirgelion’ y tu mewn i bethau sy’n ein denu bob tro – fel plant yn y lle cyntaf:

Rhaid i’r bachgen gael gweld sut y mae’r perfedd yn gweithio ym mhob tegan â pheirianwaith ynddo, a hyd yn oed ymchwilio i natur ac ystyr y gwagle mewn teganau ’gweigion’.

Yn aml iawn, medd THP-W, mae’r temtasiwn – ‘ysfa’ yw ei air – i edrych i mewn i bopeth yn drech na ni.  Yr hyn dyn ni’n chwilio amdano yw ‘gwybodaeth’ o ryw fath.  Ond mae’r chwilio’n dibennu, yn hytrach, mewn ‘profedigaeth’ neu siom.  Yn waeth, mae rhywbeth wedi digwydd i’r gwrthrych: ‘nid oes eglurhad boddhaol yn y datguddiad’.  Esiampl yw bachgen sy’n agor pêl rwber:

Yr oeddem ni fechgyn bob amser yn tybied mai rhywbeth i wneud bownd oedd y lwmp ryber hwnnw a geir y tu mewn i bêl, a heb fod yn gwybod (nes iddi fynd yn rhy hwyr i’r wybodaeth fod o unrhyw werth) mai falf ydoedd, ac mai trwy’r twll bychan clòs yn hon y tynhawyd yr awyr yn y bêl, a’i fod yn cau’n ddigon tyn i rwystro i’r awyr ddianc allan.  Yr oedd bownd y bêl yn gynneddf wyrthiol iddi, ond wedi darganfod y ‘gyfrinach’, ciliodd yr hud, – a darfu am y bêl a’i bownd.

Nesaf, daw ‘tro’ yn yr ysgrif, bron fel sy’n digwydd mewn soned, wrth i THP-W symud o’r maes chwarae i labordy’r gwyddonydd (lleoliad oedd yn gyfarwydd iawn iddo wrth gwrs):

Nid oes ond ffisegwr cyfarwydd a all fentro ceisio esbonio’n drwyadl gyfrinach y bownd yn y bêl, – ac wedi i hwnnw roddi ei esboniad y mae, ysywaeth, rywbeth yn aros yn y ffenomenon i’w esbonio wedyn … Y mae rhyw du mewn i bob tu mewn, fel y mae tu hwnt i bob tu hwnt.  Ni ddeuir byth i ben â hi: ni treiddir byth i gysegr sancteiddiolaf y cread, yn ddyn nab yd, ag offer y synhwyrau sydd gennym, beth bynnag …

Nid yw’n fater o gael eich siomi gan ‘edrych tu mewn’ i bethau, felly.  Mae’n waeth na hynny.  Y gwir yw ei bod hi’n amhosibl cyrraedd esboniad neu ddealltwriaeth o bethau trwy ddigroeni pob haenen o’u bod.  Yn y pen draw mae rhyw ddirgelwch sylfaenol yn eu cnewyllyn, er gwaethaf pob ymdrech gan wyddonwyr.

Diddorol bod THP-W yn defnyddio’r ymadrodd crefyddol ‘cysegr sancteiddiolaf’ mewn cyswllt â ‘chwilio’r gwyddonydd’.  Nid yw’n awgrymu bod crefydd yn medru ‘esbonio’ hanfod pethau fymryn yn well na ffiseg.

Wedyn daw ymosodiad ar honiadau’r seicdreiddwyr oedd yn dal yn ddylanwadol yn y 1940au:

Fe geisir tynnu eneidiau i olau dydd y dyddiau hyn, oherwydd credu bod iachâd o glefydau eneidiol i’w gael o ddadlennu ac wynebu’r anhwylderau ysbrydol hyn.  Eto yn y tu mewn y tyfasant, ac yno y gwywant, ac y derfydd amdanyt hefyd, – os darfod o gwbl.   Ni thynnir byth mohonynt o’r tu mewn allan yn llwyr.

Er 1942 mae ffiseg a’r gwyddorau eraill wedi camu ymlaen yn aruthrol, fel bod rhai gwyddonwyr yn meiddio datgan bod popeth yn y byd yn esboniadwy trwy ddulliau gwyddonol.  Hawlio mae rhai niwrolegwyr, er enghraifft, y bydd modd iddynt, cyn hir, ddatguddio pob cyfrinach o’r ymynnedd dynol.  Ond dyma’r athronydd a’r gwyddonydd Raymond Tallis, yn 2008, mwy na lai’n ailadrodd neges THP-W:

The bottom line is this: the brain is a necessary condition of all forms of consciousness, from the slightest twinge of sensation to the most exquisitely constructed sense of self.  It is not, however, a sufficient condition.  Selves are not cooked up, or stored in brains … Selves require bodies as well as brains, material bodies as well bodies, and societies as well as material environments.   That is why, despite the hype, we won’t find in the brain an explanation of ourselves, or the secret of a better self or a happier life.

Nid yn unig y mae chwilio am hanfod pethau mewn gwrthrychau yn ofer, medd THP-W, mae’n tynnu oddi ar y pleser o wybod bod ‘dirgelion mewnol’ sydd y tu hwnt i’n dealltwriaeth.  Dyma eiriau olaf yr ysgrif, sy’n cylchu nôl i’w dechrau, a’r cyw bach melyn y farw ar y ffordd a’r bachgen gyda’i degan:

Y mae i gorff cynnes ac i gloc larwm eu dirgelion mewnol sy’n creu hyfrydwch, ond nid oes fawr o lewyrch ar neb na dim wedi i rywyn fod yn ei berfedd.

Mae THP-W yn ailgydio yn yr un set o syniadau yn ‘Un a dau’, soned yn adran ‘Mydr’ Lloffion, ond y tro yma gan dynnu ar ddadleuon athronyddol cyfoes am y berthynas rhwng corff a meddwl:

Ni allodd y gwyddorau gorau a gaed  
Er chwilio daear a rhychwantu’r nef,
Ddatguddio hollt rhwng ysbryd dyn a’i waed
Na therfyn rhwng ei gorff a’i enaid ef;
Am nad oes rhyngddynt hwy na bwlch na ffin
  Na dim ond maith orgyffwrdd, nes eu bod
Mor glòs i’w gilydd, dan eu planed flin,
  Â’r undod tynnaf sydd yn nhrefn y rhod.
Er dweud mai rhinwedd pur yw’r nail i gyd
  Ac nad yw’r llall ond garw lwch y llawr,
Mae’r deunydd dwbl yn sylwedd digon drud
  I ennyn trachwant y Pŵerau Mawr;
Canys, er gwaetha’ ‘r sôn am ffein a rwff,
Mae Nef ac Uffern am feddiannu’r stwff.

Diddorol nodi bod Gilbert Ryle yn gweithio yn y 1940au ar gynnwys ei lyfr enwog The concept of mind (1949), ymosodiad cryf ar ddeuoliaeth Descartes a’r syniad o’r ‘rhith yn y peiriant’.  Ond does dim byd Ryleaidd am ddiweddglo’r gerdd, sy’n nodweddiadol iawn o THP-W, gyda’i deimlad Yorickaidd a’i ddefnydd trawiadol o iaith lafar (‘rwff’ , ‘stwff’). Dywed Angharad Price am apêl THP-W fel awdur i bobl heddiw: ‘ei ddefnydd moel o iaith, a hefyd ei gyfuniad o sgeptigaeth a chyfriniaeth, y diddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, yngyd â’r ymwybod (tra chyfoes) â’n perthynas dyngedfennol ni â’r byd naturiol a’i rymoedd ofnadwy’. Ceir o cyfan o’r rhain yn ‘Y tu mewn’ ac ‘Un ac Un’.

Leave a Reply