Lloyd George a’r bachgen yn y llun

August 26, 2018 0 Comments

Cricieth, 1890: David Lloyd George, cyfreithiwr a gwleidydd, 27 mlwydd oed, a John Thomas, ffotograffydd, 52 mlwydd oed.

Lloyd George: Ydych chi’n siŵr am y lle hwn, Mr Thomas?

John Thomas: Dewis perffaith, dywedwn i, Mr Lloyd George.

LlG: David, plîs, Mr Thomas.  Dim angen ichi fod yn ffurfiol.  Dyn y werin bobl ydw i, wedi’r cyfan.  [Mae’r ddau’n chwerthin.]

JT: Tu allan i’ch tŷ yw’r lle gorau bob tro fel arfer – er mwyn inni fanteisio ar y golau cryf a gwastad.

LlG: O’r gorau, ond mae popeth yn aflêr yma yn y cefn, dych chi’n gweld – y rhosyn heglog, y darn o bren, y planhigion yn marw yn y ffenest …

JT: ‘Sdim gwahaniaeth.  Fydd neb ond fi’n gweld y rheini.  Y cwbl fydd yn y llun terfynol fydd eich wyneb nobl, syr, o flaen y cefndir plaen.

LlG: Digon gwir.  Fi yw’r peth pwysig, wedi’r cyfan.  Ydych chi’n digwydd gwybod, Mr Thomas, pam bod angen llun bach arna i?

JT: Galla i fwrw amcan.  Mae si ar led eich bod chi’n bwriadu sefyll i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, a bod yn Aelod Seneddol …

LlGC: Dych chi’n llygad eich lle, Mr Thomas.  Tŷ’r Cyffredin yw fy nod.  Ac nid er mwyn pydru ar y meinciau cefn yna, chwaith.  Dwi’n anelu at fod yn weinidog mewn llywodraeth Ryddfrydol – a dechrau gwneud argraff, a gweithredu rhai o’m breuddwydion gwleidyddol.  Ydych chi’n meddwl fy mod i’n afresymol?

JT: A’r llun fydd yn rhan o’r ymgyrch etholiadol?

LlG: Dych chi’n dreiddgar iawn, os ga i ddweud, Mr Thomas. 

JT: Felly dyn ni’n anelu at ddelwedd arbennig, Mr Lloyd George.  Osgo sy’n hanner ffordd rhwng bod yn ffurfiol ac anffurfiol.  Siwt a thei taclus, gwallt a mwstas llawn. Pen urddasol, croen glan. Golwg sy’n cyfleu gweledigaeth glir a phenderfyniad cadarn a thymer dawel, ddigyffro.

LlG: Dych chi wedi mynd â’r geiriau o fy ngheg, Mr Thomas.  Gawn ni ddechrau felly …

JT: Iawn. Mae’r camera’n barod erbyn hyn.

LlG: Hei, Dicw, ei di o ‘na, ar unwaith!  Rwyt ti yn y ffordd. i ffwrdd â ti!

JT: Dyw’r boi ddim yn gwneud unrhyw ddrwg, Mr Lloyd George.  Gad iddo aros yna ar stepen y drws.  Cofiwch na fydd e yn llun yn y diwedd.  Pwy a ŵyr, efallai y bydd Dicw ’ma, bachgen bach o’r pentre, yn enwog ryw ddydd, ganrif i heddiw, am fod yn yr un llun â’r David Lloyd George byd-enwog.  (Rhaid dy fod di’n cadw’n gwbl lonydd, fachgen, tra bydda i’n tynnu’r llun – unrhyw symud a bydd dy ddelwedd ond yn niwl, yn gysgod o hanes …)

LlG: Oni ddywedoch chi, Mr Thomas, mai dim ond chi fydd yn gweld y llun yn ei gyfanrwydd …

Nodyn

Hwn yw’r unig lun o Lloyd George yng nghasgliad John Thomas, y ffotograffydd disgleiriaf o Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Ganed Thomas yng Nglan-rhyd, ger Cellan, Llanbedr Pont Steffan yn 1838, ac erbyn 1853 roedd e’n byw yn Lerpwl.  O 1867 byddai’n teithio trwy Gymru gyfan, gan dynnu lluniau o leoedd a phobl.  Ar ôl ymddeol yn 1899 gwerthodd ei gasgliad o dros 3,000 o negyddion i O.M. Edwards, a daethant i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn nes ymlaen.  Gallwch weld ddetholiad mawr ohonynt ar wefan Flickr y Llyfrgell ac yn llyfr Iwan Meical Jones, Hen ffordd Gymreig o fyw (2008).

Weithiau byddai Thomas yn dogfennu ei luniau, ond does dim nodyn i ddweud pryd a ble tynnwyd y llun o Lloyd George.  Mae’r Llyfrgell yn ei ddyddio i 1890, o bosib o achos mai yn y flwyddyn honno yr etholwyd Lloyd George i Dŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf dros etholaeth ‘Caernarvon Boroughs’.  Ond mae’n bosibl y tynnwyd y llun cyn hynny.

Nid yw’n hysbys chwaith lle tynnwyd e, ond gan fod Lloyd George a’i wraig Margaret yn byw yng Nghricieth erbyn 1888, rhyw dŷ yna yw’r lleoliad, yn ôl pob tebyg.

Amcan y llun, debyg iawn, oedd cynhyrchu cartes de visite neu gardiau eraill y gallai Lloyd George eu defnyddio yn ei fywyd proffesiynol a chymdeithasol.  Byddai’r rheini’n cynnwys dim ond ei ben (neu ei ben ac ysgwyddau), fel mae John Thomas yn esbonio.

Pwy yw’r bachgen yn y drws, a’i chap a gwasgod a choler gwyn (a’i dad o bosib, yn sefyll y tu ôl iddo)?  Does neb yn gwybod.  Wnaeth e ddim gwrando ar rybudd y ffotograffydd i sefyll yn llonydd, felly mae ei wyneb yn aneglur.  Collodd ei gyfle i fod yn enwog am fod yn agos i Lloyd George ar adeg dyngedfennol yn yrfa’r dyn hwnnw.

Mae’n amlwg bod Lloyd George yn cymryd gofal mawr i sicrhau fod llun John Thomas ohono’n cyfleu’r ddelwedd roedd e am i’r byd ei gweld: y gwleidydd uchelgeisiol ac abl, a fyddai’n ymladd yn egnïol dros ei etholwyr.  Yn fwy na dim, mae’r llun yn dangos hunanhyder dyn ifanc sy’n gwybod i sicrwydd fod dyfodol disglair yn aros iddo.  Ryw 14 mlynedd yn ddiweddarach tynnwyd llun o ddyn ifanc arall oedd yn breuddwydio am ddyfodol disglair iddo ei hun – James Joyce (lleolir y llun yng nghasgliad C.P. Curran yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol Dulyn).  Mae’r ddau lun yn debyg i’w gilydd – nid cymaint o ran yr osgo – mae Joyce yn sefyll yn hytrach nag eistedd, ac mae’n edrych yn fwy heriol na Lloyd George – ond o ran ei leoliad: eto, mewn gardd gefn, gyda phlanhigion, rhai ohonynt y tu ôl i ffenestri.

 

Leave a Reply