Yn eisiau: Arlywydd Cymru

May 18, 2018 0 Comments

Mae ein Brenhines cyn wydn â lledr.  Nid yw’n dangos chwaith unrhyw awydd i ildio ei lle’n fuan.  Ond yn hwy neu’n hwyrach bydd ei gorsedd yn wag, ac oni bai am ddamwain, neu benderfyniad annhebygol iawn, Charles Windsor a fydd yn dilyn ei fam, fel Brenin Charles III.  Neu fel ‘George VII’, os nad yw’r cyfenw Charles yn apelio, am resymau hanesyddol digon dealladwy (collodd y Charles cyntaf ei ben, yr ail ei foesau).

Beth wedyn?  Yn gyntaf, bydd y profiad o fod yn frenin yn brawf anodd i Charles.  Yn wahanol i’w fam nid yw’n boblogaidd iawn, yn rhannol o achos hanes ‘Ledi Di’, yn rhannol oherwydd ei gymeriad oeraidd, anfoddog.  (Yn ôl arolwg barn gan YouGov yn 2017 dim ond 36% o bobl Prydain sy’n credu bod cyfraniad Charles i’r frenhiniaeth yn gadarnhaol.)  Fydd hi ddim yn hawdd iddo ennill parch a chariad y cyhoedd, hyd yn oed ymysg breninaddolwyr. 

Yn ail, fe fydd lle gwag arall yn sgil coroni Charles, sef Tywysog Cymru.  Heb os bydd y sefydliad Prydeinig yn benderfynol o gynnal seremoni arwisgo yng Nghastell Caernarfon i nodi dyrchafiad William Windsor, Dug Caergrawnt, i’r Dywysogaeth.  (Gallwn ni weld ailenwi’r ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru yn rhyw fath o rihyrsal – cymryd tymheredd barn gyhoeddus – ar gyfer cyhoeddi’r arwisgo.)  Ni fyddai’r fath gyhoeddiad heb ddadl, ac mae atgofion o ddigwyddiadau 1969 yn dal yn fyw.  Er bod Wills llawer yn fwy poblogaidd na’i dad, fydd dim prinder protestiadau, mae’n siŵr.

Fydd dim amser gwell felly i ennyn trafodaeth am newidiadau cyfansoddiadol.

Beth felly i’w wneud, chwedl Lenin?  Yr ateb i Gymru, o bosibl, yw achub ar y blaen ar unrhyw ymgais i ‘arwisgo’ aelod o’r teulu brenhinol, trwy sefydlu swydd bwysig newydd – Arlywydd Cymru.

Mary Robinson

Un o rinweddau system wleidyddol Cymru yn y ganrif hon yw ei bod yn weddol ddemocrataidd a modern.  Rhaid cyfaddef bod digon o wendidau gan ein Cynulliad Cenedlaethol – dyw’r drefn o archwilio’r llywodraeth ddim yn ddigon cryf, ac mae’r diffyg pwerau mewn sawl maes yn cyfyngu ei allu i wneud gwahaniaeth fawr i’n heconomi a’n cymdeithas.  A llawer mwy o wendidau sydd gan Lywodraeth Cymru – gan gynnwys, yn ddiweddar iawn, gadael i lywodraeth San Steffan gipio’r pwerau i gyd sy’n dychwelyd o Ewrop yn sgil Brexit.  Ond gallwn ni fod yn falch bod ’da ni Gynulliad sy’n ddigon democrataidd hyd yn oed i adael i ACau UKIP – er eu bod yn ymddwyn yn warthus – gymryd swyddi yn y Senedd (yn San Steffan, diolch i’r dull etholiadol anachronistig o’r ‘cyntaf i’r felin’, fyddai hynny ddim yn bosibl).  Does dim Tŷ’r Arglwyddi chwerthinllyd ’da ni.  Does gan y Cynulliad mo’r rheolau ac arferion rhydlyd sydd gan San Steffan, na’r awyrgylch niweidiol o ‘glwb i foneddigion’.

Ond mae un elfen o’n cyfansoddiad sy’n dal i fod yn gwbl annemocrataidd – pennaeth gwladwriaeth.  Y Frenhines yw hon – person ddaeth i’r swydd trwy ddamwain genedigaeth yn unig.  Charles III fydd yr un nesaf, p’run a yw pobl Cymru yn cytuno ai peidio.

Ond mae ffordd arall bosibl, gwbl ddemocrataidd – ethol Arlywydd fel pennaeth y wlad.  Does dim angen mynd yn bell er mwyn dod ar draws esiampl wych: dros Fôr Iwerddon. 

Mary McAleese

Mae gan Weriniaeth Iwerddon Arlywydd (Uachtarán na hÉireann) er 1937.  Bob saith mlynedd mae gan bob un oedolyn yn y wlad yr hawl i bleidleisio dros ymgeisydd.  Yr ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn dod yn Llywydd.  Beth allai fod yn symlach?  Beth allai fod yn fwy democrataidd?

Dadl fynych gan bobl sy’n ffafrio ein system bresennol yw y byddai pob math o hen wleidydd diwerth yn dod yn Llywydd.  Tony Blair yw’r enw sy’n dod i’r wyneb yn aml – er ei bod yn anodd iawn credu y byddai hwnnw’n llwyddiannus mewn unrhyw bleidlais y dyddiau hyn.  Ond mae profiad diweddar Iwerddon yn dangos cryfder eu system, a safon yr Arlywyddion: ychydig fyddai’n datgan bod Mary Robinson (1990-97), Mary McAleese (1997- 2011) a Michael D. Higgins (2011-) ond yn ffigurau cyhoeddus poblogaidd, egwyddorol a sylweddol.

Michael D. Higgins

Yn naturiol mewn system seneddol fel Iwerddon, mae pwerau’r Arlywydd yn gyfyngedig.  Ar y cyfan ni all e/hi weithredu heb ganiatâd y llywodraeth.  Ond mae lle i ddehongli’r rôl swyddogol o ‘gynrychioli pobl Iwerddon’ mewn ffyrdd gwahanol.  Yn ystod ei dymor mae Michael D. Higgins, academydd, bardd a gwleidydd radical, wedi siarad yn gyhoeddus am sawl pwnc o bwys y mae’n amhosibl dychmygu’r Frenhines eu trin, os o gwbl, mewn ffordd mor huawdl a chytbwys: anghyfiawnder yn yr Unol Daleithiau, hawliau dynol a hawliau merched, diffyg cydraddoldeb yn y gymdeithas, a ffawd ffoaduriaid.  Mae wedi ennill parch i’w wlad dramor, a gall ddweud pethau sy’n crisialu ‘barn y bobl’ mewn ffordd awdurdodol a chynhwysol na fyddai unrhyw Taoiseach lwyddo ei wneud.

Os gall pobl Iwerddon ethol Arlywyddion fel Mary Robinson, Mary McAleese a Michael D. Higgins, does dim rheswm pam na all pobl Cymru ddewis arweinwyr sydd yr un mor foddhaol.  Dim ond diffyg hunanhyder fyddai’n sefyll yn y ffordd.

Yn ddigon diddorol, fyddai dim rhaid i Gymru ddod yn weriniaeth cyn cael Arlywydd.  Rhwng 1937 a 1949, pan ddaeth Iwerddon yn weriniaeth, er bod swydd Arlywydd yn bod, George VI, yn ôl rhai o leiaf, oedd pennaeth y wladwriaeth, fel ‘Brenin Iwerddon’.  Felly gallai Charles III a’i gefnogwyr gredu taw e yw’r pennaeth, fel ei fam o’i flaen, ond byddai gan Gymry eraill Arlywydd democrataidd fyddai’n gweithredu fel ‘llais y bobl’ mewn ffordd lawer mwy credadwy.

Leave a Reply