Tag: barddoniaeth

Y llyn a ddiflannodd

February 23, 2024 0 Comments
Y llyn a ddiflannodd

Rydyn ni’n hen gyfarwydd yng Nghymru â’r arfer o greu llynnoedd newydd.  Cronfeydd dŵr yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw, wrth gwrs.  Mae eu henwau – Efyrnwy, Clywedog, Elan, Claerwen, Brianne, Tryweryn – yn niferus, ac yn atseinio’n alarus trwy’r degawdau, ynghyd â geiriau cysylltiedig: boddi cymoedd, symud cymunedau, codi argaeau concrit.  Ond mae hanes arall […]

Continue Reading »

Y postmon

January 27, 2023 0 Comments
Y postmon

Un o’r ychydig swyddi sydd heb newid yn ei hanfod dros y blynyddoedd yw postmon.  Mae rhywbeth sylfaenol, anostyngadwy am gerdded o ddrws i ddrws lawr yr heol i ddanfon llythyrau a pharseli i’r trigolion, a thorri gair cyfeillgar â nhw ar y ffordd.  Daeth y gair ‘postmon’ yn gyffredin yn yr 1860au, ac ers […]

Continue Reading »

Brasil: dwy long, dau fardd

December 10, 2017 1 Comment
Brasil: dwy long, dau fardd

Un o’r cyfnodau allweddol ym mywyd a barddoniaeth T.H. Parry-Williams oedd ei fordaith, ar ei ben i hun, i dde America yn 1925.  Ar y pryd bu cryn ansicrwydd, nid y lleiaf ar ran y bardd ei hun, am y rheswm pam penderfynodd adael Cymru a’i deulu yn Rhyd-ddu – roedd ei dad mewn anhwylder […]

Continue Reading »

THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’

August 7, 2016 1 Comment
THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’

Yn y gwynt a’r glaw ar faes Eisteddfod y Fenni y dydd o’r blaen prynais i gopi o Rifyn 1 o’r cylchgrawn llenyddol newydd sbon O’r pedwar gwynt. Mae O’r pedwar gwynt wedi codi fel ffenics o lwch y cylchgrawn hynafol Taliesin, a fu farw yn y gwanwyn.  Roedd Taliesin yn gyhoeddiad mor wylaidd a […]

Continue Reading »

Triniaethau

July 31, 2016 0 Comments
Triniaethau

    1   Majestic ‘Majestic! Dacw fe, ail dro ar y chwith.’  Gadael y car, dilyn troli â’i olwynion gwyrdroëdig ar hyd yr eiliau gwydr. Dyma ti’n sefyll wedi ymgolli rhwng Merlot a Malbec, yn cyfieithu Ffrangeg y labeli llawen i iaith y claf. ‘Digon imi allu cynnig ichi set o wydrau, rhad ac am […]

Continue Reading »

Celf a chrefydd: George Herbert a’r anffyddiwr

May 12, 2014 0 Comments
Celf a chrefydd: George Herbert a’r anffyddiwr

Rai blynyddoedd yn ôl ces i wahoddiad i ymddangos ar y rhaglen radio Beti a’i phobl, i sgwrsio â Beti George a dewis ychydig o recordiadau. Un ohonynt oedd darn o waith sy’n bwysig iawn imi, ers y tro cyntaf imi ei glywed rhyw ugain mlynedd yn ôl: Spem in alium, y motét i ddeugain […]

Continue Reading »