Tag: Cymru

Cymru ar goll yn ‘Union’

October 21, 2023 1 Comment
Cymru ar goll yn ‘Union’

Bûm yn gwylio cyfres ddiwethaf David Olusoga at BBC2, Union, a wnaed ar y cyd â’r Brifysgol Agored.  Rhaid dweud bod y cymhelliad y tu ôl i’r cynllun pedair rhaglen yn un i’w ganmol: i esbonio sut y daeth y ‘Deyrnas Unedig’ i fod, a sut datblygodd y syniad, a’r realiti, dros y canrifoedd.  Y […]

Continue Reading »

Pos poblogrwydd Boris

January 16, 2021 0 Comments
Pos poblogrwydd Boris

Yn gyson mae’r cwmni pôl pinion YouGov yn tracio bwriad pleidleisio pobl ar draws Prydain.  Dangosa’r canlyniadau mwyaf diweddar (4-5 Ionawr 2021) fod y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yn gyfartal (39% yr un).  Sut ar y ddaear y gallai hyn fod yn bosibl? Ystyriwch yr hyn sy wedi digwydd ers i Boris Johnson ennill […]

Continue Reading »

Cymru annibynnol: un arall o blaid

July 31, 2020 0 Comments
Cymru annibynnol: un arall o blaid

Pwy ydych chi?  I ba wlad ych chi’n perthyn? Am flynyddoedd, os digwyddodd rhywun holi – a gwrthod derbyn tawelwch, neu’r ateb ‘dinesydd y byd’ – fy ateb fu ‘Prydeiniwr’.  Albanes oedd fy mam.  Daeth fy nhad o Swydd Efrog, a bues i’n byw yn Lloegr tan yn 21 mlwydd oed.  Cymru fu fy nghartref […]

Continue Reading »

Cymru a W.G. Sebald

June 12, 2020 0 Comments
Cymru a W.G. Sebald

Cyhoeddodd W.G. Sebald Austerlitz, ei nofel olaf (os mai nofel yw hi) yn Almaeneg yn 2001.  Pan ddaeth y fersiwn Saesneg allan yn 2002, roedd yn syndod i ddarllenwyr yma i ddarganfod mai Cymru yw un o’i phrif leoliadau, mewn llyfr sy’n crwydro dros rannau helaeth o gyfandir Ewrop.  Hanes dyn o’r enw Jacques Austerlitz […]

Continue Reading »

Ar ôl Covid-19: beth?

April 3, 2020 0 Comments
Ar ôl Covid-19: beth?

Dyw’r firws ddim eto wedi cyrraedd ei anterth.  Ond eisoes mae llawer o sylwebwyr yn edrych ymlaen at y cyfnod ôl-Govid-19 ac yn gofyn y cwestiwn, a fydd pethau’n hollol newydd, yn ein bywyd cyhoeddus, ar ôl i’r afiechyd gilio, neu, a fydd popeth yn dychwelyd i’r patrymau a fu?  Mae’n gwestiwn da. Y man […]

Continue Reading »

Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

August 10, 2019 0 Comments
Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad.  Prin fod y newyddion hyn yn syndod.  Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn […]

Continue Reading »

Offa a’r Cymry

May 12, 2019 1 Comment
Offa a’r Cymry

Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru.  A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’.  Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais […]

Continue Reading »

Cymru yn cynhesu

October 22, 2018 0 Comments
Cymru yn cynhesu

Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol … […]

Continue Reading »

Iaith a Brecsit

March 24, 2018 0 Comments
Iaith a Brecsit

Er Mehefin 2016 mae llawer o bobl yn cynnig llawer o resymau er mwyn ceisio esbonio pam dewisodd mwyafrif o bleidleiswyr Prydeinig i adael yr Undeb Ewropeaidd.  Rhesymau economaidd – yr awydd i gadw swyddi a chodi cyflogau, i sicrhau masnachu rhwyddach gyda gweddill y byd, i wario rhagor ar y gwasanaeth iechyd.  Rhesymau gwleidyddol […]

Continue Reading »

Hwyl fawr i’r byd cyhoeddus?

November 22, 2015 0 Comments
Hwyl fawr i’r byd cyhoeddus?

Ar ddydd Mercher nesaf bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi’r canlyniadau o’i adolygiad o wariant cyhoeddus. Mae’n argoeli bod yn achlysur tyngedfennol. Fel dywed William Keegan, y newyddiadurwr economaidd, yn gyson, daeth y Ceidwadwyr i rym, yn 2010 ac eto yn 2015, ar sail dau Gelwydd Mawr: taw’r llywodraeth Lafur, yn hytrach na’r bancwyr a’i […]

Continue Reading »