Dillad dychmygol Brexit

October 20, 2017 0 Comments

Yn y stori draddodiadol a addaswyd gan Hans Christian Andersen yn 1837, mae pawb yn y ddinas yn llygadrythu ar ddillad newydd yr Ymerawdwr – y gair yw eu bod  yn anweledig ond i bobl dwp – nes bod bachgen bach yn dod sy’n ddigon diniwed ac eofn i ebychu, ‘Ond does dim dillad amdano!’

Erbyn heddiw mae esblygiad stori Brexit wedi cyrraedd mwy na lai’r un pwynt.  Mynnu mae pawb bron o fewn y prif bleidiau gwleidyddol a bywyd cyhoeddus yn gyffredinol bod y Deyrnas Unedig yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019.  Mae yna farnau gwahanol, mae’n wir, am y ‘cyfnod o drawsnewid’ a ‘chytundeb neu dim cytundeb’, ond mae pawb yn cytuno y byddwn ni’n ymadael.

Ac eto gall pawb – ac eithrio rhai hanner-pan yn y Blaid Geidwadol a UKIP – weld erbyn hyn bod y dystiolaeth am effeithiau Brexit ar Brydain yn ddrwg iawn.  Neu, yn hytrach, effeithiau’r penderfyniad i adael yr UE – gallai’r canlyniadau o ymadael yn 2019 fod llawer yn waeth, wrth reswm.

Y ddwy ffactor amlycaf yn dilyn y penderfyniad fu’r cwymp yn y bunt yn erbyn arian gwledydd eraill, a’r ansicrwydd am y dyfodol ymhlith cwmnïau ac eraill.  Ers y refferendwm mae’r bunt wedi mynd i lawr o rhwng 10% a 15% yn erbyn y ddoler a’r ewro.  Dylai hyn fod wedi rhoi hwb mawr i allforwyr, ond ychydig o arwyddion sydd i ddangos eu bod yn manteisio ar y cyfle i werthu eu cynnyrch dramor yn haws; i’r gwrthwyneb, syrthiodd allforion o 4.9% ym mis Mehefin 2017.  Yma, mae cwymp y bunt wedi achosi cynnydd mawr mewn chwyddiant, wrth i’r gost o fewnforio nwyddau o dramor fynd i fyny.  Erbyn hyn mae chwyddiant wedi cyrraedd 3%, gan beri i Fanc Lloegr feddwl o ddifrif am godi cyfraddau llog am y tro cyntaf am ddegawd.

O ran ansicrwydd, mae’n wir nad ydyn ni wedi gweld pob banc yn ffoi i Frankfurt eto, ond fyddai dim syndod pe bai pob cwmni mawr sy’n dibynnu ar farchnadoedd Ewropeaidd yn paratoi cynlluniau i ddiogelu eu busnes, yn arbennig rhag ofn bod ‘dim cytundeb’ am y berthynas fasnachu rhwng Prydain a’r UE.  Os na fydd ‘passporting’ yn bosibl yn y dyfodol, gallwn ddisgwyl colli ein rôl fel prif ganolfan gwasanaethau ariannol Ewrop.  Symptom arall o ansicrwydd yw bod cwmnïau Prydeinig yn gyndyn byth i fuddsoddi, rhag ofn bod eu ffydd yn y dyfodol yn ofer.  Dyna pam bod cynhyrchiant (‘productivity’) yn dal i gwympo: llawer haws talu gweithwyr rhad, hepgorol, yn hytrach na phrynu peiriannau neu systemau newydd, drud.  Yn ei dro golyga’r cwymp mewn cynhyrchiant y bydd llai o drethi yn llifo i’r Trysorlys, gan roi rhagor o bwysau ar wariant cyhoeddus.

Mae sôn am wariant cyhoeddus yn ein hatgoffa nad yw Brexit yn digwydd mewn gwagle economaidd, ond ar ôl bron i ddegawd o ‘awsteriti’, sy wedi cael effeithiau difrifol iawn ar wasanaethau cyhoeddus ac ar ansoddau byw ymysg pobl gyffredin.  Gall y cyfuniad o Brexit ac awsteriti fod yn wenwynig.  Er enghraifft, mae lefelau o ddyled bersonol bellach yn uwch nag erioed; pe bai Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog, hyd yn oed dipyn bach, byddai llawer o bobl sydd heb arian wrth gefn fod mewn trafferthion ariannol dybryd yn gloi iawn.

Os dyma’r gwir – bod ein sefyllfa economaidd yn wan iawn, ac ar fin dod yn wannach pe bai Brexit yn mynd yn ei flaen (yn arbennig ar ffurf ‘glaniad caled heb barasiwt’), pam bod neb bron yn cwestiynu natur anochel Brexit?    Mae esboniadau, wrth gwrs: bod ag ofn y Faragistes; y gred bod refferenda yn ‘derfynol’; a bod yn gyndyn i fynd yn erbyn ‘ewyllys cyson y bobl’.  Ond mae treigl amser wedi lleihau grym pob un o’r dadleuon hyn.  Mae Farage a’i griw wedi encilio, i raddau o leiaf, i’r ymylon gwleidyddol; cydnabyddir fod gan ddemocratiaeth yr hawl ei newid ei meddwl; ac yn ôl arolygon barn diweddar, mae mwyafrif o bobl o blaid aros yn yr UE.

Pwy felly fydd yn barod i actio rôl y bachgen bach a gweiddi ‘Does dim dillad amdano’, a galw am newid meddwl am adael Ewrop?  Nid Jeremy Corbyn, un sydd yn reddfol yn wrth-Ewropeaidd ers y 60au.  Na’r SNP, oedd o blaid aros o fewn yr UE, fel y mwyafrif o bobl yn yr Alban, ond sy’n derbyn ein bod ni’n mynd i ymadael.  Ond beth am Gymru?  Mae gan Gymru fwy i’w golli trwy adael Ewrop nag unrhyw ran arall o’r DU.  Gwelwn ni’r cronfeydd cyfalaf o’r EU (ERDF ac ESF) yn diflannu, heb warant o arian cyfatebol o San Steffan.  Rydym yn fwy dibynnol na’r rhannau eraill o’r wlad ar fasnachu â gwledydd Ewrop: mae allforion i’r UE o Gymru yn 59.8% o’n cyfanswm, o gymharu â 49.2% yn achos y DU cyfan.  Gallai’r ffordd o fewnforio deddfau Ewrop i mewn i ddeddfwriaeth Lloegr, trwy’r ‘European Union (Notification of Withdrawal) Act 2017’ arfaethedig, wneud difrod mawr i’r Cynulliad a’i bwerau. 

Enw’r bachgen bach, felly, byddwn i’n amgrymu, yw Carwyn Jones – dyn sy’n arwain yr unig lywodraeth Lafur yn y DU, sy’n amlwg yn anhapus iawn â rhagolygon Brexit, ac un sy’n medru gweld yn glir beth fydd yn digwydd i Gymru ar ôl Brexit.  Mae’r amser wedi dod iddo ddweud yn glir, ‘Ond does dim dillad amdano!’  Ac unwaith ei fod yn siarad, bydd eraill yn barod i gytuno, ‘Wrth gwrs bod dim dillad amdano – mae Brexit yn gwbl noethlymun!’

Ar ddiwedd y stori wreiddiol, dim ond yr Ymerawdwr ei hun sy’n dal i gredu, neu’n esgus credu.  ‘Crynodd yr Ymerawdwr, gan ei fod yn amau eu bod nhw’n iawn.  Ond cerddodd ymlaen, â mwy o falchder nag erioed, wrth i’w uchelwyr ddal yn uchel y godre nad oedd, mewn gwirionedd, yn bod o gwbl.’

Leave a Reply