Hwyl fawr i’r byd cyhoeddus?

November 22, 2015 0 Comments

George OsborneAr ddydd Mercher nesaf bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi’r canlyniadau o’i adolygiad o wariant cyhoeddus. Mae’n argoeli bod yn achlysur tyngedfennol.

Fel dywed William Keegan, y newyddiadurwr economaidd, yn gyson, daeth y Ceidwadwyr i rym, yn 2010 ac eto yn 2015, ar sail dau Gelwydd Mawr: taw’r llywodraeth Lafur, yn hytrach na’r bancwyr a’i debyg, oedd ar fai am ddinistrio economi’r wlad, a bod cyflwr economi Prydain cynddrwg â chyflwr economi Gwlad Groeg, fel bod dim dewis ond cymryd mesurau radical i sicrhau bod ‘y llyfrau’ yn cydbwyso, a hynny o fewn ychydig iawn o flynyddoedd.

Yn ôl George Osborne, roedd un ‘dim dewis’ arall, wrth gyflwyno’r moddion i’r economi ar ôl dod i rym. Ei brif ffordd o leihau’r ddyled gyhoeddus a’r diffyg ariannol, yn sylweddol ac yn gyflym, oedd torri gwariant cyhoeddus – yn hytrach na chodi trethi, neu sicrhau bod trethi’n cael eu casglu’n effeithiol, neu sawl dull arall o wella cyllid y wlad.

GIGDewis gwleidyddol, fodd bynnag, oedd hwn, yn hytrach nag opsiwn economaidd. Un o egwyddorion sylfaenol Osborne a’i griw yw’r ‘wladwriaeth lai’. Iddyn nhw mae popeth sy’n perthyn i’r bau gyhoeddus – nid yn unig y wladwriaeth ei hun, ond gwasanaethau cyhoeddus, perchnogaeth gyhoeddus, y wladwriaeth les – yn wrthun. Dim ond y sector preifat sydd â’r gallu i ddiwallu anghenion pawb mewn modd effeithiol ac effeithlon. Y mantra yw, preifat: da, cyhoeddus: drwg. Mae’n dilyn bod rhaid gwneud pob peth posibl i wanhau a dileu’r byd cyhoeddus – trwy breifateiddio (hoff dacteg ers dyddiau Margaret Thatcher), trwy ddeddfu, trwy leihau arian sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, trwy leihau cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a thrwy ddilorni’r sector ym mhob ffordd bosibl.

Nid cyfrinach na chynllwyn mo’r cynllun hwn. Mewn araith ym mis Tachwedd 2013 dywedodd David Cameron (fy italics i):

We have a plan – and we are carefully implementing that plan.  Already we have cut the deficit by a third. And we are sticking to the task.  But that doesn’t just mean making difficult decisions on public spending.  It also means something more profound. It means building a leaner, more efficient state.  We need to do more with less.  Not just now, but permanently.

Does dim ots bod y strategaeth economaidd yn methu – bod Osborne wedi colli pob un o’i dargedau ar gyfer lleihau’r ddyled a’r diffyg, bod tyfiant yn yr economi’n gwanhau, bod dim ‘ail-gydbwyso’ er lles y sector cynhyrchu wedi digwydd, bod y wlad yn methu â thalu ei ffordd mewn masnach ryngwladol. Yr hyn sy’n cyfrif iddo yw bod yr amcan gwleidyddol yn llwyddo. Mae gwariant cyhoeddus yn crebachu a’r byd cyhoeddus yn gwanhau. Y prif ddioddefwyr hyd yma, wrth gwrs, fu pobl dlawd a phobl dan anfantais, yn arbennig wrth i’r ymosodiadau ar ‘nawdd cymdeithasol’ (ymadrodd hen ffasiwn) ddechrau brathu.

Gwasanathau cyhoeddusO ddydd Mawrth fe fydd y broses yn debyg iawn o gyflymu. Yn yr haf gofynnodd Osborne i bob adran o’r llywodraeth am gyflwyno toriadau arfaethedig o hyd at 40%. Gall y toriad cyfartal fod yn llai, o bosib, ond, unwaith bod y Trysorlys wedi eithrio’r sector iechyd a’r gwasanaethau cudd (post-Paris) o’r gwaethaf, bydd lefel y toriadau yn yr adrannau heb amddiffyn, fel llywodraeth leol ac addysg, yn uwch na’r cyfartaledd. Bron bod dydd bellach daw newyddion am ddiffygion ariannol yng nghyllidebau ymddiriedolaethau iechyd, a gallwn ddisgwyl galwadau am arian ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd, yn hytrach nac arian gwastad, er mwyn osgoi argyfwng cenedlaethol. Mae’n debyg y bydd pwysau mawr hefyd i beidio â thorri cyllidebau’r heddlu a’r lluoedd arfog yn ôl cynlluniau’r Trysorlys.

Y canlyniad fydd cwymp mawr ym mhob rhan bron o’r sector cyhoeddus ledled y wlad. Ychydig iawn o ‘fraster’ sydd i’w dorri o gyrff cyhoeddus, sy’n ymdebygu â sgerbydau erbyn hyn. Fydd dim dewis ond torri gwasanaethau i’r cyhoedd, neu eu diddymu’n llwyr. Collir llawer mwy o swyddi nag sy wedi mynd hyd yma, yn arbennig y rhai sy’n darparu gwasanaethau’n uniongyrchol. Cymerwch wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Does dim amheuaeth na fydd llywodraeth leol yn derbyn mwy na’i rhan o’r toriadau. Bydd gan bob cyngor ddewisiadau poenus i’w gwneud. Erbyn diwedd y Senedd hon, oni bai bod newid ym mholisi’r llywodraeth yn Llundain, mae’n hollol bosibl y bydd cynghorau wedi gorfod gollwng cyfrifoldeb dros bron pob gwasanaeth nad yw’n ddyletswydd statudol. Eisoes mae rhai, yn y sector diwylliannol er enghraifft, wedi cau neu wedi trosglwyddo rheolaeth dros lyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau ac archifau i ‘ymddiriedolaethau’. Daw rhai o’r cyfyngiadau ag oblygiadau difrifol i rannau eraill o’r gwasanaeth cyhoeddus. Golyga’r prinder lleoedd mewn cartrefi a gefnogir gan arian llywodraeth leol bod hen bobl yn methu â gadael ysbytai ar ddiwedd eu triniaeth feddygol.

LlyfrgelloeddFydd Cymru ddim yn wahanol. Gwelwyd cwymp yn y nifer o bobl a gyflogwyd yn y sector cyhoeddus yma o 8.9% rhwng 2008 a 2014.  Mae’n amlwg bod cyflymder y golled wedi cynyddu ers 2014 (6.5% yw’r golled mewn blwyddyn erbyn ail chwarter 2015), a heb os bydd y nifer yn gostwng yn sylweddol o hyn ymlaen, wrth i’r wasgfa ddwysáu. Os yw’r sector diwylliannol yn gynrychiadol, mae oediad wedi bod yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ond does dim rheswm i gredu na fydd Cymru yn dioddef i’r un graddau yn y pen draw. Eisoes mae lefelau cyflogaeth a chyflogau’n is yng Nghymru, a’r lefel o ddiweithdra yn uwch, na’r cyfartaledd ar gyfer y DU. Ac o achos bod economi Cymru llawer yn fwy dibynnol ar y sector cyhoeddus nag ardaloedd eraill o’r DU, bydd yr effeithiau ar yr economi cyfan yn fwy.

Dyw hi ddim yn amhosibl felly y gwelwn ni wlad yn esblygu fydd wedi colli, yn llwyr neu’n rhannol, y gwasanaethau a sefydliadau cyhoeddus sydd wedi bod, llawer ohonynt, ers yr Ail Ryfel Byd. Byddant wedi cau, neu wedi cael eu preifateiddio, neu wedi cael eu trosglwyddo i’r ‘gymuned’:

  • rhagor o ddarparwyr masnachol yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, a gwasanaeth dan bwysau annioddefol yng Nghymru
  • argyfwng yng ngofal pobl, yn arbennig hen bobl, yn y gymuned
  • llai o athrawon mewn ysgolion, a safonau addysg yn mynd lawr
  • yr heddlu yn tynnu yn ôl o weithgareddau fel atal troseddau a gweithio yn y gymuned
  • systemau cynllunio lleol yn torri lawr
  • sefydliadau fel theatrau, orielau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yn cau, yn uno, yn crebachu

George Osborne cartoonUnwaith bod y newidiadau mawr hyn wedi digwydd, fydd dim ffordd hawdd yn ôl i’r drefn o’r blaen. Yn y dyfodol, debyg iawn, ymddengys y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd ac oddeutu 1980 fel cyfnod eithriadol neu unigryw, pryd llwyddwyd i ffrwyno cyfalafiaeth a sefydlu rhwydwaith o sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus a allai helpu pobl gyffredin i fyw’n iach ac yn llawn, y tu allan i’r nexus masnachol. Heddiw awn ni’n glou nôl i’r math o gyfalafiaeth remp oedd yn arfer bod yn y 1930au, neu hyd yn oed yn oes Fictoria, ac mae geiriau Margaret Thatcher, ‘Does dim sut beth â chymdeithas’ yn prysur ddod yn wir.

Gan fod y gwrthbleidiau yn y Senedd mor wan a rhanedig, yr unig ffordd o wrthwynebu’r ymosodiadau sydd ar fin taro’r gwasanaethau cyhoeddus yw trwy brotestiadau a gweithrediadau gan bobl gyffredin. Hyd yma mae hegemoni deallusol George Osborne a’i ffrindiau wedi swyno’r rhan helaeth o’r boblogaeth. O bosibl gwelwn ni newid yn y goddefolrwydd hwn, wrth i bobl ddechrau sylweddoli cymaint sydd ganddynt i’w colli dros y blynyddoedd i ddod.

Leave a Reply