Y Lôn Goed a’r beirdd

April 22, 2022 7 Comments
Sue Shields, poster ar gyfer ‘Eifionydd’ gan R. Williams Parry

Rhodfa lydan â dwy linell o dderw a ffawydd oedd y Lôn Goed, a dim mwy na hynny, i ddechrau.

Enw yn unig oedd y Lôn imi tan y ddiweddar, pan ddarllenais gyfrol ddifyr Rhys Mwyn, Real Gwynedd, a darganfod mai lleoliad go iawn yw hi.  Ac yn wir, lleoliad hanesyddol.  Fe’i lluniwyd gan John Maughan, rheolwr ystad Talhenbont, un o blastai’r Arglwydd Mostyn, ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ei syniad oedd cysylltu’r odynnau calch yn ardal Afon-wen ger Pwllheli gyda’r ffermydd yn ucheldiroedd Eifionydd i’r gogledd: byddai cartiau’n cludo calch i’r ffermydd, i’w gwasgaru dros y caeau er mwyn cyfoethogi’r tir, a chludo mawn (ac, o bosibl, ŷd) o’r tir uchel lawr i’r arfordir.

Roedd Maughan, dyn o Northumberland yn wreiddiol, yn un o’r ‘gwellhawyr amaethyddol’ o’i gyfnod, fel Thomas Johnes yng Ngheredigion a William Maddocks yn ardal afon Glaslyn.  Credai ei bod yn bosibl troi gwlad lom, fynyddig Cymru yn wlad ffrwythlon.  Yn ôl y sôn bu’n weithgar mewn sawl lle yn Llŷn, yn plannu coed a thorri ffosydd i sychu’r tir, ac ar ôl gadael Eifionydd aeth i fyw i ardal Llanbedr yn Ardudwy a pharhau i wella’r tiroedd.

Geoff Charles, Y Lôn Goed (1970)

Yn Eifionydd yn 1817 aeth Maughan at ei waith o adeiladu’r ffordd newydd yn ofalus.  Tua deuddeg llath oedd lled y lôn.  Ceisiodd baratoi wyneb gwastad, er bod y gwaith hwn heb ei orffen.  Plannodd goed ar ymyl y ffordd, i gynnig cysgod rhag y gwynt a’r glaw, ac er mwyn atal dŵr rhag cronni ar y ffordd (at yr un diben lluniodd ffosydd yr ochr arall i’r ddwy linell o goed).  Byddai wyth neu naw o weithwyr yn cloddio’r ffosydd, plannu’r coed a symud cerrig mawr o’r neilltu ar yr un pryd, a’u tâl oedd deg swllt yr wythnos.  Cwblhawyd y ffordd erbyn 1828: rhyw bum milltir rhwng Afon-wen a Hendre Cennin.  Yr enw arni ar y pryd oedd ‘Ffordd Maughan’, a gafodd ei lygru, yn nes ymlaen, i ‘Ffordd Môn’.  Pryd tybed ychwanegwyd yr enw ‘Lôn Goed’?  Rhywbryd, siŵr o fod, unwaith bod y glasbrennau wedi tyfu i fod yn goed aeddfed.

William Roos, David Owen, Dewi Wyn o Eifion (Amgueddfa Cymru)

Bron o’r dechrau atynnodd y Lôn Goed sylw beirdd yr ardal.  Yn 1820 canodd David Owen (Dewi Wyn o Eifion), a hanodd o Gaerwen, yn agos i’r Lôn, awdl (‘Awdl cyfarch y gweithwyr’)  yn canmol y rhai a gweithiai ar y ffordd a’r dirwedd newydd a wnaed o ganlyniad gwaith Maughan:

Creu a wnewch i’n Caerwen ni
Cysgod rhag dyrnod oerni;
Cysgodion lle cwsg adar
Tŷ’r edn gwyllt, a’r eidion gwâr.

Gwinllanoedd, o gynlluniau – Gardd Eden,
Ar dir y Gaerwen, o’r derw gorau.

Roedd tad y bardd a chyfieithydd Morris Williams (Nicander) wedi gweithio ar wneud y Lôn, ac o bosib Nicander ei hun yn ŵr ifanc.  Wedyn dyma Ebenezer Thomas (Eben Fardd), yn ei ddyddlyfr, 8 Medi 1838, ar gerdded:

… nes cyrraedd Ffordd Newydd Maughan, yr hon nis gwelawn erioed o’r blaen; ymddangosai fel swyn, trwy rin y cyfnewidiad y wnâi yn yr olygfa, ynghyd a’r effaith ar y teimlad.  Rhyw barth noethlwm ac anhygyrch oedd yr ardal o gwmpas y Gaerwen yn flaenorol ond yn awr ymddangoshai braidd fel Dyffryn Llanystumdwy, yn diroedd ffrwythlawn addurnedig â ffyrdd a choed; ymylid y ffordd hon gan irwydd [coed ifanc] prydferth a deiliog, a’i gwnelai yn rhodfa eang, ysgafn a phleserus.  

Eisoes roedd y Lôn Goed yn peidio â bod yn ddull o gludo deunydd o A i B, ac yn troi’n lle meddyliol – rhyw baradwys ar wahân i’r byd go iawn.  Daeth yn ddihangfa i gerddwyr a chrwydrwyr, yn hytrach na gwaith llafurus i’r cert a’r ceffyl.  I addolwyr a phregethwyr Capel Engedi, wrth ymyl y Lôn yn ardal Chwilog, roedd hi’n rhodfa ddymunol yng ngwres yr haf.

R. Williams Parry ar y Lôn Goed, c.1950

Ond heddiw’r bardd sydd fwyaf cysylltiedig â’r Lôn Fawr yw R. Williams Parry, trwy ei gerdd ‘Eifionydd’.  Yn y ddau bennill gyntaf mae Williams Parry yn chwilio am hafan rhag ‘hagrwch’ y byd gwaith ac ‘ymryson ynfyd’ cyfalafiaeth, ac yn ei darganfod yng nghefn gwlad Eifionydd – yn arbennig y Lôn Goed:

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio’i heddwch wrthyf f’hun
Neu gydag enaid hoff, cytûn.

J.O. Williams, Y Lôn Goed yn Eifionydd (c1950) (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Yr hyn sy’n apelio yw nid yn unig harddwch a llonyddwch y Lôn, ond y ffaith nad yw’n arwain i unlle arbennig.  Digon syml yw’r gerdd, ar y wyneb.  Ond nid fi yw’r unig un sy’n sylwi ar y gair ‘gorffenedig’ – ‘perffaith’ yw’r trosiad arferol, ond mae ‘gorffenedig’ yn awgrymu teimlad sydd drosodd erbyn hyn – a geiriau amwys y llinell olaf. 

Erbyn i ‘Eifionydd’ ymddangos yn y casgliad Cerddi’r gaeaf yn 1952 roedd y Lôn Goed wedi cwblhau ei thaith o fod yn ffordd cert-a-cheffyl i fod yn symbol cymhleth.  Roedd Williams Parry yn ymwybodol o nerth ei gysylltiad ysbrydol â’r Lôn pan ymddangosodd mewn lluniau yn 1950 yn yr ardal.

Comments (7)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Cathryn Gwynn says:

    Diddorol iawn Andrew…a thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, newydd brynu llyfr bore ‘ma yn siop llyfre ail-law Aberteifi, ac yn llechu rhwng y tudalennau roedd cerdyn post o boster Eifionydd. Nod llyfr!

  2. Twm Miall says:

    “Welis i ddim rhamant yn y blydi lle ‘rioed a bod yn onast … glaswellt sydd yno, mwd. Pan oeddwn i’n ei cherdded hi’n blentyn, mwd a thyllau dŵr oedd ar ei hyd hi. ‘Doedd y ddaear ddim yn caledu, ac yn yr haf efo’r gwres ‘doedd ‘na ddim ond pryfaid yn y modd mwyaf melltigedig.”

    Dyna farn di-flewyn-ar-dafod y diweddar actor Stewart Jones am y Lôn Goed!

    Rwy’n ffodus iawn i fod yn berchen ar baentiad o’r Lôn Goed gan yr arlunydd Elis Gwyn Jones. Mae ei ddarlith ‘O Ynys Enlli i Ynys Cynhaearn – Arlunio dwy ganrif yn Llŷn ac Eifionydd’ yn drysor hefyd.

    Diolch am flog rhagorol. Nid wyf wedi eich gweld ers blynyddoedd maith pan oeddem yn byw nid nepell oddi wrth ein gilydd ym Mhen y Lan, Caerdydd.

    • Andrew Green says:

      Helo Twm! Cymaint o bleser clywed dy lais: dros 30 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers inni adael Caerdydd. Diolch yn fawr am yr wybodaeth hon, ac yn arbennig y darn gan Stewart Jones, yn dadramantu’r Lôn Goed mewn ffordd mor bendant. Elis Gwyn Jones yn artist diddorol – edrycha i allan am gopi o’i ddarlith – falle y tro nesa bydda i yn LlGC. Dwi’n dal i obeithio clywed rhagor am anturiaethau Bleddyn …

  3. Twm Miall says:

    … ma’r sgrwb diog yn ‘i wely yn rhwla fwy na thebyg, Andrew! Traddodwyd darlith Elis Gwyn yn Ysgol Cymerau, Pwllheli, ar y seithfed o fis Chwefror, 1986. Fe’i choeddwyd gan Glwb y Bont, Pwllheli, a’r argraffwyr oedd Gwasg yr Arweinydd, Pwllheli. Cefais fy nghopi i gan Elis ei hun pan euthum i ymweld ag o ryw brynhawn yng nghwmni ei frawd, y diweddar annwyl Wil Sam. Edrych ymlaen at ddarllen ‘Rhwng y Silffoedd’. Cofion cynnes atat.

    • Andrew Green says:

      Diolch am y manylion, Twm. Rho wybod am dy feddyliau ar ‘Rhwng y silffoedd’: swn i’n gwerthfawrogi barn un o’n dychanwyr mwya blaenllaw.

  4. Twm Miall says:

    Siwr o wneud, Andrew. Diolch i chditha am y ganmoliaeth – lawer rhy hael!

Leave a Reply