‘Cader Idris a’r artistiaid’

Mae Cader Idris, sydd â llu o gysylltiadau mytholegol a hanesyddol, wedi hudo artistiaid gweledol ers canrifoedd.

Cader Idris a’r artistiaid yw’r llyfr cyntaf i drafod sut aethant ati i bortreadu’r mynydd, o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw.


Bu Cader Idris yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth i beintwyr a llawer o artistiaid eraill, o fynydd-bortread gwreiddiol Richard Wilson yn y 1760au, trwy weithiau gan Turner, Cornelius Varley, John Sell Cotman, Kyffin Williams ac eraill, i fideo dyfodolaidd Bedwyr Williams, Tyrrau Mawr, yn 2016. Mae artistiaid wedi dod ag amrywiaeth o ddiddordebau,
safbwyntiau a syniadau i’w ffyrdd o edrych ar y mynydd, a sut datblygodd eu harddulliau, o glasuriaeth i Ramantiaeth, ac ymlaen
i foderniaeth, haniaeth a chysyniadaeth.


Yn y gyfrol ceir dros gant o luniau, llawer ohonynt yn weithiau sydd prin yn cael eu hatgynhyrchu, gan ganiatáu i ddarllenwyr farnu drostynt eu hunain sut y gall un lle esgor ar draddodiad artistig mor amrywiol
ac arbennig.


Andrew Green
Cader Idris a’r artistiaid
Caerdydd: Graffeg Books, 2026
192t
ISBN 9781805951704
£25.00


Adolygiad

‘Yn wir, mae darllen y llyfr fel cerdded trwy oriel gelf …  Amhosibl yw gwneud cyfiawnder â chyfrol mor arbennig mewn ychydig eiriau … gwn y byddaf yn troi ati’n aml a chanfod bob tro rhyw agwedd o’r newydd a rhyw ddealltwriaeth ddyfnach o hanes celf ein gwlad.

Eryl Owain, Barn, Awst 2026