‘Rhwng y silffoedd’

Dyma nofel gampws ddychanol, wedi’i lleoli mewn dinas fach o’r enw ‘Aberacheron’, a’i phrifysgol gythryblus.  Yn hwyr y nos mae’r Is-Ganghellor gormesol, Yr Athro Diocletian Jones CBE, yn colli ei fywyd yn sydyn yn llyfrgell y Brifysgol.  Damwain anffodus, medd yr awdurdodau.  Ond a oes llofrudd yn rhydd ar y campws?  Mae Dr Llŷr Meredydd o Adran Griminoleg y Brifysgol, a’i gyfaill Menna Maengwyn, y Llyfrgellydd, yn dechrau ymchwilio …

Yma daw’r brifysgol gyfoes – yn gaeth i’r farchnad rydd ac ideoleg adweithiol – a’r gymdeithas afiach sy’n ei meithrin, o dan lach ddidrugedd yr awdur.

‘Doniol, crafog … a phryderus o gredadwy’ (Catrin Beard)

Rhwng y silffoedd
Y Lolfa
Cyhoeddwyd mis Medi 2020

229 tudalen
Clawr meddal
ISBN  978178461856X
£8.99

[Rhwng y silffoedd is a satirical detective novel, complete with ‘editorial note’ and index, set on the campus of the ‘University of Aberacheron’. Its tyrannical Vice-Chancellor, Prof. Diocletian Jones, dies a violent death in the University library. Accident – or murder? Several suspects come under scrutiny, as do the many absurdities of the neo-liberal university. It is possible that this book is the first work of fiction in Welsh with an index at the back.]


Adolygiadau

Nofel gampws yw hi, wedi ei lleoli ar gampws prifysgol Aberacheron, dinas ddychmygol rywle ar arfordir Cymru. Ond nid nofel sychlyd am broblemau prifysgol mohoni, ond ‘whodunnit’ ffraeth sy’n rhoi sylwebaeth ddychanol ar holl rychwant bywyd colegol, o ystafelloedd y darlithwyr i undeb y myfyrwyr …  Prif darged y dychan yw llygredd byd academaidd sydd wedi mynd i ganlyn y geiniog yn hytrach na dysg, a cholegau sydd wedi troi’n fusnesau cyfalafol sy’n gweld eu myfyrwyr fel cwsmeriaid …  Yn wir, mae’n hawdd tybio bod y nofel yn gredadwy ac agos ati yn ei phortread o wleidyddiaeth fewnol prifysgolion heddiw … mae’n amlwg fod Andrew Green wedi cael hwyl yn bwrw ei fol wrth adrodd stori ddifyr a llunio nofel gampws gampus!

Arwel Vittel, Barn, 693, Hydref 2020, t.36

This is a tasty ragout of a book, part whodunnit, part satire, part campus novel, with an undercurrent of Classical allegory and more than a soupçon of humour … The novel is a collage of different documents, often signalled by contrasting typefaces and formats, ranging from Twitter feeds to graduation speeches, which all build up a picture of Welsh academia in 2016 … it is an inventive, if bitter, diatribe against not just contemporary academia but the contemporary world of rampant, immoral capitalism, zero-hours contracts, ‘restructuring’, ‘rationalisation’, league tables, dubious funding sources, and lashings of old-fashioned corruption … Although there is plenty of humour here, the atmosphere is dark and the satire often very close to the bone.

Katie Gramich, Planet, no. 241, February-May 2020, p. 81-2.


Cyweliadau

Sgwrs am Rhwng y silffoedd rhwng Andrew Green a Catrin Beard.

Prynhawn Da, cyfweliad teledu, S4C, 23 Medi 2020 (ar 35m).

Sgwrs ar raglen Dei Tomos, Radio Cymru, dydd Sul 27 Medi 2020 (ar 30m).


Darn o Bennod 21: Yr Athro Dylan Quigley ar y cwrt sboncen

Cyn pen dim y sgôr oedd, Dyn Ifanc 6, Yr Athro Quigley 0. Roedd tymheredd Quigley, sylwodd Menna, yn codi dipyn eto ar ddiwedd pob pwynt. Erbyn y seithfed pwynt (a gollwyd eto) roedd yn berwi. Daeth llif o eiriau o’i wefusau.

‘Bastard! Bastard!’  

Ato ef ei hun roedd e’n cyfeirio.

‘Pa fath o ergyd oedd honno? Rwtsh llwyr. Pathetig! Gallai plentyn dwy oedd chwarae’n well.’

At ei ergyd ddiwethaf roedd e’n cyfeirio.

‘Beth yw’r pwynt o gario mlaen fel hyn? Pam ar y ddaear ydw i’n rhoi fy hun trwy’r artaith hon bob wythnos?’ 

Cwestiynau hollol rethregol oedd y rhain. Doedd e ddim yn disgwyl ateb oddi wrth y dyn ifanc, oedd yn plygu’n hamddenol yn erbyn y wal gyferbyn, gan ddiystyru’r cyfan. Yn raddol llwyddodd Quigley i adennill rheolaeth dros ei dymer, a rhywsut daeth y gêm i ben heb fwy o drafferth. Ond dilynodd y gêm nesaf yr un hynt â’i rhagflaenydd, ac roedd y dyn ifanc ar fin ennill eto. Eto codai tymheredd Quigley i’r un gwres peryglus. Y pwynt olaf. Gweinodd y dyn ifanc y bêl. Waldiodd Quigley hi’n ffyrnig. Parhaodd y chwarae nes bod y dyn ifanc yn rhoi lob perffaith i’r bêl. Syrthiodd hi mewn cornel letchwith ar flaen y cwrt. Gydag ymdrech arallfydol lansiodd Quigley ei gorff i’r gornel, ond roedd y bêl wedi hen farw. Ffrwydrodd. Hyrddiodd ei raced yn dreisgar yn erbyn y wal concrid. Chwalodd y raced yn deilchion. Fflachiodd darnau o blastig o amgylch y cwrt, a gollyngodd y llinynnau’n llac i’r llawr. Gorweddai corff Quigley wyneb ei waered ac yn ddisymud ar y llawr pren am funud. Llifai ffrwd fain o waed i lawr ei goes chwith. Yn sydyn safodd ar ei draed. Cerddodd tuag at ei wrthwynebydd. ‘Jolly good, well played,’ meddai, gan ysgwyd llaw y dyn ifanc, oedd yn amlwg wedi gweld yr olygfa hon o’r blaen.