Category: cymraeg
-

Canu clodydd Blaenau Ffestiniog
Byth ers imi hala cwpwl o ddiwrnodau cofiadwy yn y dref ychydig fisoedd yn ôl, wrth ddilyn Llwybr Llechi Eryri, prin fod Blaenau Ffestiniog wedi bod allan o’m hymwybyddiaeth. Rheswm amlwg oedd cael gweld Effi o Blaena, un o’r ffilmiau Cymraeg mwyaf gafaelgar ers hydoedd, yn y sinema. Addasiad yw e o’r ddrama fonolog adnabyddus…
-

Diwylliant a’r llywodraeth newydd
Beth fydd ffawd diwylliant a’r celfyddydau o dan ein llywodraeth newydd yng Nghymru? Yr ateb syml yw, ‘does dim dweud’, ond mae ambell welltyn yn y gwynt sy’n awgrymu sut mae polisïau Plaid Cymru yn debyg o ddatblygu. Yn ogystal â’r adran (denau, braidd) ar ‘Gymru greadigol’ yn y ddogfen Y 100 diwrnod cyntaf, mae…
-

Ar ôl yr etholiad
15 Mai 2026, diwrnod hanesyddol yn hanes etholaethol Cymru. Diflannodd, bron, y Blaid Lafur a’r Torïaid o’r sin wleidyddol. Cododd Reform o ddim i fod yn wrthblaid swyddogol. Daeth Plaid Cymru i rym, gan mlynedd ar ôl ei sefydlu. Toc wedyn, lluniodd Rhun ap Iorwerth ei gabinet cyntaf. A’r tymheredd gwleidyddol wedi tawelu erbyn hyn,…
-

Meinciau coffa
Os ewch chi am dro ar hyd Llwybr yr Arfordir tua’r Mwmbwls o’r gorllewin, oni bai eich bod chi wedi codi yn y bore bach, dych chi’n rhwym o gwrdd â llawer o bobl – cerddwyr (hamddenol a phellter hir), rhedwyr, syrffwyr ac eraill. Hynny yw, pobl fyw. Ond byddwch chi hefyd yn pasio heibio…
-

Mae Sion Trefor yn pendwmpian
Mae gwedd y dyn hwn yn fy atgoffa o Wncl Jack, yn ei hen dŷ yn Howden, Swydd Efrog ddwyreiniol, nôl yn y 1960au. Wedi i’n mam-gu glirio’r ford ar ôl pryd mawr canol dydd a dianc i’r gegin, dyma ein tad a’i frawd yn encilio i stafell dawel yng nghefn y tŷ i orweddian…
-

Tywyswyr iaith
Yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif tyfodd proffesiwn newydd yng Nghymru. Ei swyddogaeth oedd gwasanaethu’r ffrwd o foneddigion, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr, a ddymunai ddringo mynyddoedd y gogledd. Tywyswyr oedd y rhain. Eu tasg oedd arwain yr ymwelwyr ar hyd y llwybrau, eu hatal rhag syrthio ar greigiau, gofalu am eu hanghenion corfforol…
-

Tri aderyn gaeafol
1 Dryw Codi’n raddol y mae’r llwybr o’r traeth. A finnau yng nghanol fy negawd olaf o dringo’r llethr yn fy sgidiau rhedeg, bron ar unwaith bydda i’n ymladd am wynt, cyn bod y llwybr yn mynd yn fwy gwastad a rhoi digon o nerth imi allu wynebu’r grisiau serth tuag at ben Trwyn y…
-

Agor y Storfa
Ar ddechrau mis Rhagfyr digwyddodd rhywbeth rhagorol yn Abertawe. Mae trigolion y ddinas wedi hen arfer disgwyl clywed newyddion o fath gwahanol. Dirywiad, wedi’r cwbl, fu ei hanes ers blynyddoedd maith – ei economi yn methu, pob corff cyhoeddus bron yn dioddef o hyd, anghydraddoldeb yn dwysau yn ei gymdeithas, y ddwy brifysgol yn colli…

