Dawn dweud

August 1, 2025 0 Comments

Bu tipyn o sôn yn y wasg yn ddiweddar am sgiliau ‘dawn dweud’ neu ‘medrau llafar’, neu ‘oracy’, i ddefnyddio’r gair Saesneg anhardd – y gallu i fynegi eich hun mewn ffordd rugl a gramadegol, ac i wrando ar yr hyn mae pob eraill yn ei ddweud wrthych chi.

Yn 2024 cyhoeddodd comisiwn annibynnol ar ddyfodol addysg ‘oracy’ yn Lloegr, dan gadeiryddiaeth Geoff Barton, ei adroddiad, We need to talk.  Prif argymhelliad y comisiwn oedd y dylai ‘oracy’ ddod yn rhan bwysig o’r cwricwlwm mewn ysgolion, ochr yn ochr â’r ‘tri R’ (ysgrifennu, darllen a rhifyddeg).  Y nod fyddai i ddisgyblion allu ‘ffeindio eu llais’, yn llythrennol, mewn byd (a marchnad swyddi) sy’n gwerthfawrogi sgiliau mynegiant llafar yn fawr – yn fwy byth wrth i AI fygwth meddiannu cymaint o dir yn y byd ysgrifenedig.  ‘Oracy’ sydd wrth wraidd y gallu i drin pwnc, dwyn perswâd, negodi, cynnal perthynas ag eraill, a chodi hunanhyder.  Ffactor sy wedi tynnu sylw i’r broblem yw’r ffaith bod cynifer o blant yn cychwyn ar eu hamser yn yr ysgol, yn arbennig ers amser Covid, heb y sgiliau iaith lafar a chyfathrebu disgwyliedig.

Yn 2003 dywedodd Keir Starmer, pe bai e’n dod yn Brif Weinidog yn y dyfodol, y byddai’n ‘weave oracy through a new national curriculum that finally closes the gap between learning and life, academic and practical, vocational skills, school and work.’  Ond hyd yma mae e wedi methu cyflawni’r addewid hwn: doedd dim sôn am ‘oracy’ yn adroddiad dros dro a gyhoeddwyd gan corff sy’n adolygu’r cwricwlwm yn Lloegr.  Yn sgil hyn, anfonodd rhai ymgyrchwyr lythyr agored at Starmer, wedi’i drefnu gan Voice 21, yr elusen sy’n hybu ‘oracy’, i brotestio am y diffyg ymrwymiad gan y llywodraeth.  Ys dywedodd Michael Rosen, ‘the backbone of language is our talk. It’s the everyday way we make and change relationships, share the events of our lives, hear about other people’s lives.’

Byddai’r ddadl hon yn achosi penbleth i addysgwyr y gorffennol, o Hen Roeg i’r Dadeni a thu hwnt.  Iddyn nhw, ‘rhethreg’ – eu henw nhw ar sgiliau dawn dweud – oedd yn rhan annatod o’r cwricwlwm, ac yn sylfaen hanfodol os oeddech chi’n mynd i fod yn ddinesydd effeithiol.  Mewn dinasoedd democrataidd fel Athen, oedd yn dibynnu ar y gallu i siarad yn effeithiol a dwyn perswâd ar eich cynheiriaid, roedd rhethreg yn sgil anhepgorol.  Tyfodd grŵp arbennig o addysgwyr neu ‘ymgynghorwyr’ teithiol yn y byd Groegaidd, y Soffyddion (‘Sophists’), oedd yn cynnig dysgu’r sgiliau hyn i bwy bynnag y gallai fforddio eu talu.  Yn yr Oesoedd Canol rhethreg oedd yn rhan o’r ‘Trifiwm’, y cwricwlwm sylfaenol.

Dim ond yn gymharol ddiweddar y mae ‘rhethreg’ wedi diflannu o gwricwla ysgol.  Un o’r rhesymau oedd bod amheuon wedi codi am ei moesoldeb.  Gallai rhywun diegwyddor ddefnyddio sgiliau rhethregol er mwyn camarwain eraill, neu eu perswadio i wneud pethau anfoesol.  Mewn gwirionedd cododd yr amheuon hyn yn gynnar – roedd y Soffydion yn gas gan Socrates, oedd yn meddwl eu bod yn dysgu, trwy eu technegau, sut i gyflwyno achos anwir fel y gwir – ond erbyn heddiw mae gan y gair ‘rhethreg’ ystyr hollol negyddol, ac o’i herwydd diflannodd ‘oracy’ o’r ysgolion cyhoeddus.  (Mae’n bosib bod yr ysgolion bonedd yn Lloegr yn dal i brisio rhethreg i raddau.)

Dim syndod, felly, bod gwleidyddion fel Donald Trump yn methu yn llwyr siarad yn gyhoeddus mewn brawddegau cyflawn, clir, llawn mynegiant.  Dyma enghraifft nodweddiadol o’i ddatganiadau:

We have a very strong travel ban and we don’t want people that are going to come in and blow up our cities, do things, and frankly with the – with the liberal Democrats running the cities that we do have – where they do have problems, maybe they wouldn’t mind but I would mind and the people of this country mind.

Gallech chi ddweud bod Boris Johnson yr un mor anhuawdl, ond wrth gwrs bod ei bloesgni e’n hollol fwriadol – rhan o’i glowneiddiwch ffug.  Yr hyn sy’n gyffredin i’r ddau yw eu bod yn gwybod bod llawer o’u gwrandawyr yn methu dilyn ‘rhethreg’, sef datganiadau llafar ystyrlon a chlir. Sy’n awgrymu bod ‘na ddiffyg difrifol yn ein system addysg.

Mae’n ddiddorol nodi bod y rhan fwyaf o’r pwysau i adfer ‘oracy’ yn yr ysgolion yn dod o Loegr (doedd neb o Gymru ar bwyllgor Barton).  Ond rhaid nodi bod ‘llafaredd’ erbyn hyn yn cael ei trafod fel rhan o’r Cwricwlwm Cymreig.  Efallai bod parch tuag at y gair llafar wedi goroesi’n well yng Nghymru, yn arbennig mewn cylchoedd Cymraeg eu hiaith?  Nid cymaint yn yr ysgolion, debyg iawn, ond yn y sefydliadau diwylliannol eraill, fel yr eisteddfodau, lle mae cenedlaethau o bobl ifainc wedi datblygu eu dawn dweud ar y llwyfan, mewn cystadlaethau cerddorol neu gydadrodd.  Neu ar y llwyfan yn y theatr – mae Angela John wedi cofnodi’r traddodiad cryf o actorion ifainc yn dysgu’r grefft yn ardal Port Talbot dros y blynyddoedd – neu mewn bandiau, neu ymryson beirdd.  Gan fod siarad yr iaith Gymraeg mor elfennol i’w dyfodol, a siaradwyr Cymraeg mor hunanymwybodol o’i defnydd, dyw e ddim yn syndod bod ‘perfformio’, yn ei ystyr ehangaf – siarad iaith yn bwrpasol ac yn hyderus – yn dal yn fyw ac yn iach yma, hyd yn oed os yw’r defnydd o’r iaith Saesneg wedi cilio i’r gair ysgrifenedig ac i’r sgrin.

Leave a Reply