Tywyswyr iaith

Yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif tyfodd proffesiwn newydd yng Nghymru.  Ei swyddogaeth oedd gwasanaethu’r ffrwd o foneddigion, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr, a ddymunai ddringo mynyddoedd y gogledd.  Tywyswyr oedd y rhain.  Eu tasg oedd arwain yr ymwelwyr ar hyd y llwybrau, eu hatal rhag syrthio ar greigiau, gofalu am eu hanghenion corfforol a meddyliol, a sicrhau eu bod yn dychwelyd yn ddiogel.

Mae gan yr iaith Gymraeg ei thywyswyr: arweinwyr ymroddedig sy’n helpu eraill i gerdded yn hyderus ar lethrau’r iaith.  Addysgwyr yw llawer ohonyn nhw, mewn ysgolion a cholegau, mewn dosbarthiadau i oedolion, ac yn anffurfiol.  Ymgyrchwyr, hefyd, sy’n dangos trwy eu gwaith cyhoeddus bod defnyddio a hyrwyddo’r iaith yn hollbwysig.  Ond mae grŵp bach arbennig sy’n ymlafnio wrth eu desgiau, ddydd ar ôl dydd, i gynhyrchu llyfrau a gweithiau eraill sy’n cefnogi pawb sy’n siarad a darllen ac ysgrifennu’r iaith.  Yn aml iawn gellir gweld y llyfrau hyn –geiriaduron, gramadegau, arweinlyfrau ar dreigladau neu ferfau – ar ddesg unrhyw un sy’n defnyddio’r iaith o ddifri.

Gwaith mawr, diwyd a manwl yw’r gwaith o baratoi’r llyfrau hyn.  Er bod llawer o bobl yn eu defnyddio ac yn manteisio arnynt, dyw eu hawduron ddim fel arfer yn ennill gwobrau llenyddol nac yn derbyn llawer o gydnabyddiaeth yn gyffredinol.  Ond dwi’n meddwl y dylen ni eu diolch a’u dathlu, fel cymwynaswyr mawr y mae eu cyfraniad at iechyd yr iaith yn amhrisiadwy.

Weithiau mae’r awduron arbennig hyn yn gweithredu mewn timau, fel staff Geiriadur Prifysgol Cymru, y gwaith mwyaf uchelgeisiol oll yn y maes hwn.  Ond gan amlaf, unigolion sy’n paratoi cyfeirlyfrau ieithyddol.  Yma hoffwn i dalu teyrnged i dri ohonyn nhw, Bruce Griffiths, Heini Gruffudd a D. Geraint Lewis, sy wedi cysegru blynyddoedd maith o’u bywydau i gyhoeddi gwaith mawr.

Bruce Griffiths oedd yn gyfrifol, gyda’i gydweithiwr Dafydd Glyn Jones, am lunio The Welsh Academy English-Welsh dictionary.  Cawr o lyfr yw hwn, gyda 1,710 o dudalennau.  Cynigiodd Bruce y syniad am y tro cyntaf yn 1974, ac aeth dros 20 mlynedd heibio cyn i’r geiriadur weld golau dydd.  Campwaith yw e.  Mae’n anodd dychmygu, cyn 1995, sut llwyddodd cyfieithwyr ac awduron i ddod o hyd i’r geiriau Cymraeg cywir i gyfleu ystyr geiriau Saesneg.

‘Bruce’ yw un o’r ychydig lyfrau yn fy llyfrgell bersonol sy’n dod lawr o’r silff bron bob dydd.  Erbyn heddiw y trydydd copi sydd ar fy nesg: cafodd y cyntaf a’r ail eu byseddi hyd at farwolaeth gyda’r cloriau’n cwympo’n racs.  Dyw e ddim yn ateb pob cwestiwn – mae’r byd a’r iaith wedi datblygu’n sylweddol er 1995 – ond yn amlach na pheidio bydd yn eich arwain tuag at air addas.  Dau beth sy’n arbennig amdano. Yn gyntaf, mae’n gynhwysfawr ac yn fanwl, ac yn cynnwys geiriau hynod arbenigol a thechnegol.  Ac yn ail, dyw e ddim yn fodlon cynnig cyfieithiad syml cyn symud i’r gair nesaf: mae’n awgrymu fersiynau Cymraeg sy’n cyfateb i lawer iawn o ymadroddion neu ddiarhebion Saesneg.

Yr ail o fy arwyr cyfeiriadol yw Heini Gruffudd.  Dros gyfnod o hanner canrif a mwy, ac ar ben ei weithgareddau eraill fel athro, darlithydd, awdur, ymgyrchydd, nofelydd a chofiannydd, mae wedi cyhoeddi degau o lyfrau sy’n cynnig help i bobl o bob oedran ar bob gris o’r ysgol o ddysgu’r iaith: Welcome to Welsh, Get by in Welsh, My way to Welsh, Talk Welsh, Welsh is fun! a llawer mwy.  Mae gan y llyfrau hyn gymeriad arbennig, rhyw ysgafnder a hiwmor sy’n helpu i ddileu’r camargraff bod dysgu iaith yn gorfod bod yn faich.  Hefyd, cyhoeddodd Heini nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg.  Amhosib pwyso a mesur impact yr holl waith hwn ar genedlaethau o ddysgwyr, ond rhaid i fod yn sylweddol.

Yr un mor gynhyrchiol fel awdur yw D. Geraint Lewis.  Mae dau o’i gyfeirlyfrau hanfodol yn eistedd drws nesaf i ‘Bruce’ ar fy silff ar y ddesg, sef Y llyfr berfau, â’i dablau o ferfau rheolaidd ac afreolaidd, ac Y treigladau, cyfrol denau ond anhepgor, hyd yn oed mewn oes sy’n dechrau anghofio am dreiglo.  Cyhoeddodd nifer o lyfrau tebyg – Adferfau, Y rhifolion a How do you say … – ynghyd â chwrs a geiriaduron i bobl ifainc a dysgwyr.  Ond ei magnum opus yw llyfr mwy swmpus (1,295 tudalen), Geiriadur Cymraeg Gomer (2016), a luniodd Geraint ar y cyd â’i fab Nudd.  ‘Teitl twyllodrus o syml ar gyfrol ryfeddol o gyfoethog’, meddai Brynley Roberts yn ei ragair, ac yn wir hwn yw’r prif eiriadur Cymraeg-Saesneg ar gael heddiw.  Rwy’n troi ato mor aml fel bod clawr fy nghopi yn dioddef yn druenus.

Gallwn i fod wedi crybwyll sawl un arall ymysg y geiriadurwyr, gramadegwyr ac awduron cyfeirlyfrau, fel Rhiannon Ifans (Y golygiadur) a Peter Wynn Thomas (Gramadeg y Gymraeg). Y gwir yw bod yr iaith Gymraeg yn eithriadol lwcus bod cynifer o weithiau sylfaenol a safonol ar gael i bawb – ar bapur ac ar-lein – a chynifer o awduron talentog sy’n fodlon llafurio am flynyddoedd i’w llunio.

Y cwestiwn mawr sy’n codi yw: a fydd rhagor o’r llyfrau ac o’r awduron yn y dyfodol?  Gan fod yr iaith yn newid trwy’r amser, mae’n amlwg y bydd galw.  Cwestiwn arall yw, pwy fydd yn fodlon noddi a chyhoeddi’r fath weithiau – rhai ohonyn nhw ar raddfa enfawr, fel geiriadur yr Academi?  Mae’r gyfundrefn noddi wedi crebachu’n ddifrifol yn ddiweddar.  Dyw’r Academi ddim yn bod bellach, na Phrifysgol Cymru, ac mae Gwasg Gomer wedi rhoi gorau i’r busnes cyhoeddi.  Ond siŵr o fod bydd awduron newydd, a ffyrdd newydd o’u cefnogi. Yn y cyfamser, beth bynnag, dylen ni ddathlu’r tywyswyr hyn, eu hymrwymiad i bawb sy’n defnyddio neu ddysgu Cymraeg, a’u cyfraniad mawr at ddyfodol yr iaith ei hun.


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.