‘Rhyngom’ gan Sioned Erin Hughes

September 9, 2022 2 Comments
Sioned Erin Hughes

Pan enillodd Sioned Erin Hughes y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ym mis Awst am ei chasgliad o straeon byrion Rhyngom, roedd yr ymateb gan ddarllenwyr yn gynnes ac yn frwd.  A dim syndod, achos bod y llyfr yn dod â llais newydd, hollol ffres a chyffrous i ffuglen Gymraeg gyfoes.

Teitl cywir a phriodol yw ‘Rhyngom’.  Mae pob un o’r storïau yn archwilio perthynas rhwng dau berson (neu fwy).  Er bod gan rai ohonynt ‘dro’ cyn y diwedd, yn ôl hen draddodiad y stori fer, mae’r berthynas fel arfer yn syml, a diddordeb yr awdur yw chwilota’r ffyrdd troellog y mae unrhyw berthynas sy’n para dros amser eu dilyn.

Rhwng yr wyth stori cawn glywed gan ferch sy’n ysu am gael babi ond sy’n methu, ffoadur o Affganistan sy’n llwyddo i gyrraedd Prydain, merch fach yn ymateb i enedigaeth ei chwaer, ‘Dan Dim Hôpes’ yn siarad â meddyg am wreiddiau ei alcoholiaeth, dau ddyn hoyw yn nesáu at ei gilydd er draul y ferch sy’n bartner i un ohonynt, merch mewn perthynas sy’n cadw ‘cyfrinach fudur’, mam-gu annwyl ac effaith ei marwolaeth ar y teulu, merch sy’n anghofio am fod yn ‘niwrotig’ ar ôl cael cancer.  Pob un o’r scenarios hyn, felly – hyd yn oed y stori am yr Affgan – yn ddigon cyffredin, ond pob un yn ennyn teimladau cryfion, byw.  Does dim un o’r straeon sy’n cael ei adrodd yn y trydydd person: mae’r llais uniongyrchol, yn siarad neu’n ysgrifennu mewn dyddiadur, yn tynnu’r darllenydd i mewn yn agos.

Amrywiol iawn mae’r lleisiau.  Mae’r rhan fwyaf yn siarad gydag acen o’r gogledd – daw Sioned Erin Hughes o Benrhyn Llŷn – ond mewn nifer o gyweiriau gwahanol.  Yn ‘Mam-gu’ cawn ni acen o’r de, yn frith o eiriau Saesneg – efallai gormod ohonynt – ond perfformiad ‘bravura’ yw’r stori hon, sy’n dangos gallu rhyfeddol Erin i fynd i mewn i feddwl merch ifanc sy’n dwli ar ei mam-gu (yr ‘epitome of allure’), hyd at addoliad.  Dyw marwolaeth (sydyn, ysgytwol) Mam-gu ddim yn ddiwedd y byd iddi, achos bod Mam, oedd yn byw yn y cysgodion tra bod Mam-gu yn fyw, nawr yn dechrau blodeuo hebddi:

… ma hi ar y deiet Mediterranean, yn ca’l 10 owns o celery juice bob bore ac yn berwi bone broth fel ’se dim fory i ga’l.  Mae hi hefyd mewn i bethe fel mindfulness a ioga, ac mae hi newydd ga’l promotion yn gwaith.   Ma fe’n cweit amlwg fod hi’n treial byw bywyd hi nawr fel o’dd Mam-gu yn neud ac ma ’na’n sweet pan chi’n meddwl am y peth.  Byw y bywyd bydde hi wedi gyllu ei ga’l, ac ma’n teimlo fel ’se rhan o Mam-gu dal ’ma gyda ni.

‘I fod yn fam’ (fideo: Eisteddfod Genedlaethol)

Yn y stori gyntaf yn y gyfrol, ‘I fod yn fam’ (rhan ohoni ar gael fel fideo) Miriam, merch ifanc, sy’n siarad â ni’n uniongyrchol.  Mae hi’n dechrau trwy esbonio man cychwyn ei pherthynas gyda’i gŵr Jac, ei chariad ers eu plentyndod, ac wedyn sut aeth ei mam yn ddall.  Roedd y fam a’r ferch yn arfer chwarae ‘gêm y synhwyrau’, fel ffordd o bontio rhwng byd dallineb a’r byd gweledol:

‘Pa ogla sydd ar yr haul heddiw, Mims?’
‘Ogla hiraeth, Mam.  Ogla hen hafau a hel mwyar duon a chwilio am feillion pedair deilen.  Ogla a gobaith.’
‘Y math gora o haul.  Sut flas sydd ar y cymyla?’
‘Mond dyrniad o gwmwl heddiw, ond mae ei flas o fel y gegiad gynta o bwdin bara.’
‘Bendigedig …  A’r môr, sut hwylia?’
‘Yn llawn hwylia! Fel Nain Gyrn Goch pan fyddan ni’n mynd draw am de bach ar bnawnia Sadwrn. Ma’r môr yn wenau i gyd heddiw’.

Mae’r math yma o ‘drosi trwy synaesthesia’ yn cynnig rhyw ffordd allan o’r duwch i Mam, ffordd o wireddu ei awch am weld y byd o’r newydd.  Dyn ni’n cadw’r sgwrs hon mewn cof wrth inni glywed am y broblem sy’n wynebu Miriam ei hun: sut i gael babi.  Does dim byd yn tycio, hyd yn oed IVF, ac i wneud pethau’n waeth, bydwraig yw Miriam, sy’n gorfod gwylio cyfres o fenywod bob wythnos yn ymhyfrydu yn eu babis newydd-anedig:

Do’n i ddim yn licio’r person o’n i erbyn hynny, achos do’n i ddim yn dod o hyd i lawenydd yn llawenydd rhywun arall ddim mwy.  Roedd fy methiant i’n teimlo fel dant drwg yn fy mhen, a minnau’n methu â stopio rhedeg fy nhafod drosto.  Sawl babi arall oedd yn rhaid imi ei osod ym mreichiau mamau eraill cyn i mi gael gafael yn mabi fy hun?  Pam mai fi oedd yr un oedd wastad yn waglaw?

Fel yn stori ‘Mam-gu’, mae’r diweddglo’n hapusach.  Ar ôl i Jac drefnu gwyliau iddynt yng Nghanada, daw Miriam yn raddol i sylweddoli bod ei ysfa am gael babi’n ‘cul de sac emosiynol’, ac mae’r berthynas straenllyd rhwng y ddau yn gwella.  Fel ei mam o’i blaen, mae hi’n darganfod ffordd o godi y tu hwnt i gyflwr oedd wedi dod yn garchar iddi.

Rhyfeddu mae’r darllenydd ar yr ystod eang o deimladau sydd i’w gweld yn y straeon hyn, ac ar y ffordd ddeheuig mae Sioned Erin Hughes yn eu trin.  Fel arfer mae’n beryglus cysylltu gwaith a bywyd unrhyw awdur yn uniongyrchol, ac yn fwy peryglus byth cymryd bod dioddef yn arwain bob tro at gelf.  Ond efallai ei bod hi’n berthnasol fod Erin wedi dioddef yn ddifrifol, yn gorfforol a feddyliol, yn ei bywyd hyd yma, ac yn deall o’i phrofiad personol am boen ac am bobl, a’r berthynas rhyngddynt.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Cathryn Gwynn says:

    Mae dy sylwade yn crynhoi y gyfrol ardderchog hon i’r dim. Anodd credu mai dim ond 24oed yw Sioned Erin – mae ystod aeddfedrwydd a chyweiriau y straeon yn rhyfeddol. Mwynhad mawr.

Leave a Reply