Beth yw diben angladd?

April 8, 2015 2 Comments

Seventh seal

Dros y gaeaf buodd Dr Angau ar grwydr trwy’r wlad yn ei glogyn du, ac yn anarferol o brysur. O fewn y pythefnos diwethaf bues i mewn tri angladd, yn Lloegr ac yng Nghymru. Byddai’r cyfanswm wedi bod yn bedwar angladd mewn tair gwlad oni bai am y ffaith bod dau’n digwydd ar yr un pryd. Tri angladd gwahanol iawn – mor wahanol fel y dechreuais i feddwl am angladdau yn gyffredinol. Beth yw pwrpas angladd? Pwy yn gwmws sy’n cael budd ohono? Ac a oes modd siarad am ‘fudd’ angladd?

‘Gwrw’ cyfoes yr angladd yw’r ymgymerwr a’r bardd o America, Thomas Lynch. Mewn cyfres o ysgrifau treiddgar a gesglir yn ei ddwy gyfrol, The undertaking: life studies from the dismal trade (1997) a Bodies in motion and at rest (2000), mae Lynch yn ymchwilio i bob agwedd ar y pwnc bron. Yn ôl un o’i ysgrifau mae pedair ‘elfen hanfodol’ i angladd da.

Y gyntaf yw presenoldeb y corff marw. Cynnal angladd heb arch yw gwadu gwirionedd arwyddocaol i’r bobl sy’n bresennol: ei fod yn cynnwys corff unigryw o rywun corfforol sy’n werthfawr ac sy wedi ymadael am byth. Ac eto, yn Angladd A, wythnos yn ôl, dyna yn union beth ddigwyddodd. Doedd dim arch i’w gweld. Angladd traddodiadol Gymraeg oedd hwn, mewn capel mawr, gyda chynifer â saith o henuriaid, dynion parchus oedrannus i gyd. Pawb mewn dillad du yn y distawrwydd. I mi cafodd absenoldeb yr arch effaith ryfedd ar naws y gwasanaeth, trwy osod pellter gwahanedig, oeraidd, antiseptig bron rhwng y dyn oedd wedi marw a ninnau’n eistedd yn y seddi.

Undertaking

I wneud pethau’n waeth, doedd dim teyrnged i’r dyn. Yn lle teyrnged cawson ni ‘anerchiad’ – yn ei hanfod, pregeth, gan weinidog ac Athro, nad oedd ei berthynas gyda’r dyn marw yn glir. Geiriau cysurus i Gristnogion ddaeth o’i wefusau. Geiriau am barhad yr enaid a pharhad cariad. Geiriau oedd yn cynnig yr hyn mae Lynch yn ei alw, fel yr ail o’i hanfodion, yn ‘rhyw naratif, rhyw ymdrech tuag at ateb, er dros dro’n unig, i’r cwestiynau dynol allweddol hynny am ystyr marwolaeth i’r sawl sy wedi marw ac i’r lleill y mae’n bwys mawr iddynt’. Ond eto roedd rhywbeth pwysig wedi mynd ar goll. Gallai’r ‘anerchiad’ wedi cyfeirio at unrhyw ddyn neu fenyw o gefndir Cristnogol. Yn rhyfedd iawn, byddai dieithryn wedi dysgu mwy am y dyn o’r gweddïau, oedd dipyn yn fwy personol na’r anerchiad.

Roedd Angladd B yn wahanol. Gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) mewn eglwys gyda ficer menywaidd. Gwasanaeth llai ffurfiol o achos ei fod yn angladd i deulu a chyfeillion yn hytrach nag angladd ‘cyhoeddus’. Emynau a gweddïau eto, ond y tro yma, teyrnged go iawn – fywiog, ffraeth, llawn hiwmor – a lwyddodd, fel cytunodd pawb, i ddal cymeriad a nodweddion y fenyw a fu farw. Ac wedyn, cerdd Gymraeg – un o’r cerddi enwocaf am derfyn bywyd – gan un o’n beirdd disgleiriaf, oedd hefyd yn digwydd bod yn perthyn i’r teulu. Effaith y ddwy elfen hyn oedd, yn gyntaf, i ail-greu’r cysylltiadau agos, cymhleth rhwng y gwrandawyr a’r ymadawedig, ac yn ail, i gyffredinoli’r profiad o newid a cholled – yng ngeiriau Thomas Lynch, ‘gwneud achos dros yr hyn sy wedi digwydd i’r marw, a’r hyn gallai’r byw ei ddisgwyl o’i herwydd’.

Wedi’r gwasanaeth aeth rhai i’r amlosgfa am seremoni fer, a thrwy hynny cyflawni un o ‘hanfodion’ eraill Thomas Lynch, sef cael gwared â’r corff ac ‘argraffu statws newydd y marw yn nhirwedd ein bywydau beunyddiol yn y dyfodol’. I mi profiad gwahanol yw’r amser hwn yn yr amlosgfa i’r prif wasanaeth, bob tro: profiad llai emosiynol, mwy meddylgar.

France

Cafwyd teyrnged effeithiol arall yn Angladd C, gwasanaeth mewn amlosgfa. Artist fu’r ymadawedig – yn wir, dyn oedd wedi byw ei holl fywyd, mae’n ymddangos, dros ei gelf. Priodol iawn felly taw rhywun o’r byd celf a siaradodd, gyda phwyslais ar ei waith creadigol. Beth oedd yn drawiadol am y gwasanaeth hwn oedd ei fod mor agored a chynhwysol o ran naws. Cymerodd Angladd A a B ill dau fod y rhai oedd yn bresennol yn rhannu’r un ffydd Gristnogol: rhagdybiaeth ansicr, hyd yn oed yn achos Angladd A. Ond roedd y fenyw a lywyddodd yn yr amlosgfa – doedd hi ddim yn glir a oedd hi’n weinidog neu beidio – yn barod i dderbyn y byddai pobl o bob ffydd, a dim, yn y gynulleidfa. Er bod ambell gyfeiriad i gredoau Cristnogol, gadawodd hi i bob un ohonon ni ymateb i’r sefyllfa yn ein ffyrdd gwahanol ein hunain.

Yr elfen hanfodol olaf sy gan Thomas Lynch yw presenoldeb pawb y mae’r farwolaeth yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Rhywbeth arall oedd yn amlwg am Angladd C oedd bod y mwyafrif llethol o’r galarwyr yn bobl leol, o bentre’r artist. Ychydig iawn o’i gyd-artistiaid oedd yna – er bod rhai yn ei ganmol fel un o brif arlunwyr ei genhedlaeth yn y wlad. Gadawais i’r stafell gan deimlo ryw anesmwythder ein bod ni ddim wedi gwneud cyfiawnder llawn i’w gof oherwydd absenoldeb pobl oedd yn cynrychioli rhan bwysig o’i natur a’i fywyd.

Rwy’n mawr obeithio nawr na fydd rhaid imi fynd i Angladd Ch o fewn yr wythnosau nesaf. Gwell darllen am angladdau na bod yn rhan ohonyn nhw. A does dim lle gwell i ddarllen nag yn nhudalennau Thomas Lynch. Ond yn bersonol byddwn i’n addasu ei rysáit ar gyfer angladd da ychydig bach, a chynnig y canlynol: presenoldeb y marw; cynulliad o bobl roedd y marw’n werthfawr iddyn nhw; seremoni sy’n groesawgar i bobl o bob crefydd a dim, ac sydd heb fantell fyglyd o dduwch ynddi; crynhoad gloyw o’i fywyd a natur gan rywun oedd yn nabod y marw’n dda; rhywbeth – cerdd, rhyddiaith, darn o gerddoriaeth – i gysylltu manylion yr unigolyn â’r cwestiynau ehangach o derfynu, cofio a pharhau i fyw; a dweud ffarwel, i’r corff ac i’r person cyflawn.

ÔL NODYN AR THOMAS LYNCH A CHYD-DDIGWYDDIAD

Yn Llundain rhywbryd yn y flwyddyn 2000 prynais i gopi o Bodies in motion and at rest gan Thomas Lynch mewn siop lyfrau. Wedyn, amser cinio, digwydd bod yn Lamb’s Conduit Street a cherdded i mewn i fwyty o’r enw ‘Brasserie du Coin’, rhif 54. Eisteddais i wrth ford yn y ffenestr flaen â golwg dros y stryd. Tra oeddwn i’n aros am fy mhryd o fwyd i gyrraedd dechreuais i bori yn y llyfr a darllen yr ysgrif gyntaf. Ar dudalen 9 o’r llyfr nodais i lun du a gwyn o flaen siop cwmni ymgymerwyr: ’45, A. France & Son, Funeral Directors, 45’. Codais i fy llygaid o’r llyfr am eiliad i edrych trwy’r ffenestr – a draw acw, ar ochr arall y stryd, roedd y siop go iawn, A. France & Son! Cyd-ddigwyddiad annaearol, a siglodd fy meddwl am fwy nag eiliad.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Chris Edwards says:

    Coincidentally, just an hour before your post, I was reading this from the Barbican Centre:

    Barbican Open Salon: Caitlin Doughty
    A Good Death
    15 April 2015 / 19:30

    Mortician Caitlin Doughty takes a fascinating look at the funeral industry and how we deal with death, exploring rituals around the world and making a case for a healthier and more enlightened attitude towards our mortality.

    Caitlin is joined by John Troyer, Deputy Director of the Centre for Death and Society at Bath University. They are in conversation with Claudia Hammond, writer and presenter of BBC Radio 4’s All in The Mind. In association with Canongate Books.

  2. Catrin says:

    Difyr iawn Andrew

    A diolch!

    Catrinx

Leave a Reply