Tag: Oes Efydd
Y Garn Goch
Bûm yna am y tro cyntaf rhywbryd tua diwedd y 1970au. Cofiaf ddilyn y lôn gul, droellog o wastatir afon Tywi, i fyny’r rhiw o bentref Bethlehem, cyn parcio’r car ar droed y llwybr. Cofiaf hefyd y waliau cerrig sychion yn amgylchynu’r ddau fryn, yn ddiamddiffyn i’r gwyntoedd o’r gorllewin – neu’n waeth, gwyntoedd dwyreiniol […]