Tag: tecstilau
Gweledigaeth mewn 4,525 o ddarnau
Yr wythnos ddiwethaf cawson ni’r anrhydedd o gyfarfod ag un o drysorau mawr Cymru. Enw traddodiadol y campwaith hwn yw Cwilt Teiliwr Wrecsam – er nad yw’n gwilt yn dechnegol, ond clytwaith, ac er bod y geiriau ‘teiliwr Wrecsam’ yn tueddu i guddio enw ei wneuthurwr, James Williams, 8 College Street yn y dref honno. […]