Gweledigaeth mewn 4,525 o ddarnau

May 17, 2024 2 Comments

Yr wythnos ddiwethaf cawson ni’r anrhydedd o gyfarfod ag un o drysorau mawr Cymru.  Enw traddodiadol y campwaith hwn yw Cwilt Teiliwr Wrecsam – er nad yw’n gwilt yn dechnegol, ond clytwaith, ac er bod y geiriau ‘teiliwr Wrecsam’ yn tueddu i guddio enw ei wneuthurwr, James Williams, 8 College Street yn y dref honno.


Cartref y ‘cwilt’ er 1935 fuodd Amgueddfa Werin Cymru, lle heddiw mae’n fyw yng ngofal prif guradur hanes cyfoes a chymunedol, Elen Phillips.  Iddi hi mae e’n waith sy’n datguddio pethau newydd trwy’r amser – gwaith sydd heb ei ail yng Nghymru ac yn anarferol mewn unrhyw wlad.

Teiliwr proffesiynol oedd James Williams.  Ei brif farchnad oedd y fyddin – byddai’n gwneud lifrau milwrol lliwgar – ond byddai pobl o’r ardal yn gyffredinol, siŵr o fod, yn dod ato am ddillad ffurfiol.  Dyw hi ddim yn glir pam treuliodd James ryw ddeng mlynedd o’i fywyd – rhwng 1842 a 1852 yn ôl chwedl y teulu – yn pwytho ei gwilt.  Mae’n annhebyg iddo orwedd erioed ar wely, meddai Elen.  O bosib, roedd e’n fath o hysbyseb, prawf i drigolion Wrecsam a’r ardal o gywreindeb ei grefft.

Yr hyn sy’n glir yw maint ac uchelgais y cwilt.  Mae’n cynnwys 4,525 o ddarnau gwlân, wedi’u gwnïo at ei gilydd o’r cefn yn hynod ofalus gyda mân bwythau.  Sborion bach o ddillad milwrol ydyn nhw, yn ôl pob tebyg, sy’n esbonio’r ffaith bod y cyfan mor lliwgar, a’r lliw coch yn arbennig o amlwg.


Does dim ‘teitl’ gan y cwilt, er bod digon o ffigurau sy’n ymddangos ynddo: dyw e ddim yn ddyluniad cwbl haniaethol, fel y rhan fwyaf o gwiltiau go iawn.  Felly, beth yw ei destun?  Un, heb os, yw crefydd a ffydd.  Yn y canol dyma Adam yn enwi’r anifeiliaid, yn benodol, gath ddu fawr (panther?), yn ogystal â jiráff, eliffant, cadno a gwahanol adar.  Gwelwn mi hefyd rai o straeon enwocaf y Beibl, sef Cain ac Abel, Jona a’r morfil, arch Noa.

Nid yw’n syndod gweld y delweddau Beiblaidd.  Llai disgwyliedig, ar y wyneb, yw’r lluniau o ryfeddodau peirianyddol cyfoes: Pont Menai Thomas Telford (agorwyd 1826) gyda chwch yn hwylio oddi tani, a thraphont Cefn Mawr (1848), gyda’i phedwar ar bymtheg o fwâu, a thrên ager yn ei chroesi.  Rhaid cofio, fodd bynnag, fod gorchestion mawr yr oes, fel Pont Menai, wedi cael eu dathlu gan artistiaid bron ar unwaith ar ôl iddynt gael eu codi. Y syndod yw gweld hen grefydd yn cwrdd â thechnoleg fodern, wyneb yn wyneb.


Mae ‘na drydedd elfen yn eiconograffi’r llun, yn bell iawn o’r adeiladau lleol – sef yr estron.  Cawn weld bagoda (gyda phalmwydden) ac, o dan balmwydden arall, lwynwr (bushman) neu heliwr noethlymun.  Benthycodd James y lluniau hyn, siŵr o fod, o ddelweddau mewn cylchgronau a llyfrau poblogaidd cyfoes, ac ar wrthrychau Fictoraidd cyffredin, fel, yn achos y pagoda, crochenwaith patrwm helyg.

Beth yw holl effaith y delweddau gwahanol hyn?  Beth sy’n cysylltu’r tair elfen?  Mae’n amlwg bod dim cynllun meistr manwl ym meddwl James Williams pan gychwynnodd ar lunio ei gwilt.  Ar y pryd, yn 1842, er enghraifft, doedd traphont Cefn Mawr ddim eto yn bod.  Ond dyw hi ddim yn dilyn nad oedd gweledigaeth gyffredinol ganddo mewn golwg o’r dechrau.  Yr hyn roedd e am ei gyfleu, mae’n ymddangos imi, yw amrywiaeth a ffrwythlondeb y byd: byd natur, a ddaeth i fod trwy ras Duw, a byd gwaith llaw dyn.  Neu o leiaf dyna sut gallwn ni heddiw ddehongli ei gampwaith, fel dathliad o’r byd o’n cwmpas.  Mewn ffordd, mae’r cwilt, yn ei luosogrwydd, yn cynnig rhyw fath o fodel microcosmig o gyfoeth diddiwedd y byd.  (Yn hyn o beth, mae’n debyg i’r ‘Paneli Brangwyn’ yn Abertawe, sydd hefyd yn anelu at gwmpasu amrywiaeth cynnyrch y gwahanol gyfandiroedd.)


Peth arall sy’n drawiadol am y cwilt yw pa mor fywiog ac ansefydlog yw’r ffordd mae James yn cyflwyno ei ffigurau.  Mae popeth ar gychwyn, popeth yn symud: y ceffyl yn carlamu, y cwch yn hwylio, y trên yn pwffian, y morfil yn llyncu Jona.  Mewn ‘bloc’ o linellau cyfochrog mae gwaed yn llifo o gorff Abel, tra mae Duw, mewn bloc arall, yn anelu ei daranau a mellt o’r osgo at Cain, y brawd melltigedig.

Ymestyn y thema hon o symudiad diorffwys i’r addurniadau o gwmpas y ffigurau: y sgwariau, trionglau, diemwntau, siefrynnau a’r siapiau eraill.  Dyw’r rhain byth yn cael eu gosod mewn trefn sefydlog arferol.  Yn hytrach, maen nhw’n newid cyfeiriad bob munud.  Weithiau maen nhw’n syth, ond wedyn maen nhw’n troi’n onglog.  I’r llygad mae’r effaith yn gythryblus, fel syllu ar un o beintiadau Bridget Riley.  Mae fel petai James Williams, er gwaetha’r ffaith ei fod yn gweithio mewn cyfrwng sy’n dibynnu ar amynedd mawr a thechneg fanwl gywir, yn methu setlo ar unrhyw ddatganiad sefydlog.  Campwaith yw ei gwilt, ond dyw e ddim yn gampwaith statig, awdurdodol.  Ac am y rheswm hynny, o bosib, mae’n dal i siarad â ni heddiw.

Yn 2025 bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dychwelyd i Wrecsam.  Byddai’n braf meddwl y gallai Cwilt Teiliwr Wrecsam gael ei arddangos yna – neu ysbrydoli tecstilau newydd sbon.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Gillian Lewis says:

    What a wonderful work of art!

  2. Jean Williams says:

    Diddorol iawn. Syniad da i dangos y cwilt yn Eisteddfod yn Wrecsam Blwyddyn nesa’.

Leave a Reply