Byth ers imi hala cwpwl o ddiwrnodau cofiadwy yn y dref ychydig fisoedd yn ôl, wrth ddilyn Llwybr Llechi Eryri, prin fod Blaenau Ffestiniog wedi bod allan o’m hymwybyddiaeth.
Rheswm amlwg oedd cael gweld Effi o Blaena, un o’r ffilmiau Cymraeg mwyaf gafaelgar ers hydoedd, yn y sinema. Addasiad yw e o’r ddrama fonolog adnabyddus gan Gary Owen, Iphigeneia in Splott, ond gyda thref ddosbarth gweithiol, ôl-ddiwydiannol yn y gogledd yn cymryd lle ardal ddosbarth gweithiol yn y brifddinas (bues i’n byw yn Sblot am sbel yn y saithdegau).

Ar yr olwg gyntaf mae Effi’n gaeth i’w gymuned fach a’i gwerthoedd cul. Bydd hi’n trin pobl eraill, gan gynnwys ei chymydog a’i Nain, yn ddirmygus a diddiolch, gan fethu gweld unrhyw amcan i’w bywyd ond hunan-bleseru: yfed i’r eithaf, dawnsio, caru-un-nos, pen tost y bore wedyn. Ond eto, gwelwn mai cymeriad hyderus a phenderfynol yw hi. Ac wedi profi siom emosiynol a cholled bersonol, mae hi’n dechrau derbyn caredigrwydd ei chymdogion a sylweddoli bod gan fywyd ragor i’w gynnig iddi. Marwolaeth oedd ffawd yr Iphigeneia wreiddiol, fel pris i’w dalu am lwyddiant pobl eraill, ond dewis Effi, sy’n llawn cymaint o arwres ag Iphigeneia, yw cadw gobaith a byw ei bywyd i’r dyfodol.
Leisa Gwenllian sy’n chwarae rhan Effi. Perfformiad eithriadol yw e, gan actor ifanc ddawnus iawn sy’n medru cyfleu i’r dim bob agwedd ar ei chymeriad: sarhad a malais, rhywioldeb anghenus, gorfeledd a’r felan, galar a merwindod. Mae’r actorion eraill yn rhagori – Branwen Cennard a Gary Owen oedd yn gyfrifol am estyn y monolog i ddrama lawn – gyda phawb yn siarad ag acen nodweddiadol yr ardal (weithiau roedd yr is-deitlau o ddefnydd i’r hwntw hwn).

Cymeriad allweddol arall yn y ffilm yw Blaenau ei hun: tref ucheldirol, ar ddiwedd y lein, wedi’i gosod mewn theatr naturiol, a’r mynyddoedd a’r tomenni llechi yn codi megis awditoriwm yn syth o’i chanol. Ymddengys y strydoedd a’r tai yn unffurf drymaidd a llwyd, ond cawn weld digon o fawredd y mynyddoedd o’r golygfeydd drôn. Y ffilmiwr oedd Eira Wyn Jones, ac mae ei chyfraniad i’r ffilm yn fawr.
Hanes personol yw Effi o’r Blaena. Rydym yn ymwybodol trwyddi draw o gyflwr cymdeithasol y dref, sut mae llywodraethau wedi ei gadael i ofalu amdani ei hun, ar ôl darfod ei diwydiant a dirywiad gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cael effaith niweidiol diamau ar fywydau’r cymeriadau. Ond dyn nhw ddim yn tynnu ein sylw oddi ar y stori bersonol ddirdynnol sy’n mynd rhagddi. Nid traethawd Ken Loachaidd mo’r ffilm hon.

Yr ail lun o ‘Stiniog’ y des i ar ei draws yn ddiweddar oedd Bywyd bach, hunangofiant y bardd a’r ysgolhaig Gwyn Thomas, a aned a magwyd yn y dre cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe’i cyhoeddwyd yn 2006 gan Wasg Gwynedd. Hunangofiant yw e, heb os – ac un sy’n llawn hanesion digri – ond mae’n fwy na hynny. Mae’n rhoi darlun cynhwysfawr bron o gymdeithas unigryw Blaenau Ffestiniog, cymuned sy’n parhau hyd heddiw, ond mewn ffordd wahanol iawn.
Cymuned glòs iawn oedd prifddinas y llechi. Pawb yn nabod pawb, neu’n perthyn i’w gilydd. Ymhlith y dynion, roedd parch mawr at gryfder corff, ac, ar adegau, trais. Roedd y capeli’n llawn, ac yn ddylanwadol. Yn yr ysgolion roedd pwyslais mawr ar addysg. Disgwyl J.S. Jones, prifathro’r ysgol elfennol, oedd i’r plant ddarllen, dysgu ac adrodd rhannau o Buchedd Garmon Saunders Lewis, a Llyfr y Salmau.

Rhaid bod rhywbeth yn yr awyr oedd yn ysgogi creadigrwydd. Adrodda Gwyn Thomas stori am Neville o Losdryd, un o’i gyd-ddisgyblion yn yr ysgol. Yr arfer yn y dosbarth oedd byddai’r plant yn dod i mewn â stori i’w hadrodd bob prynhawn Gwener. Dyma oedd stori Neville:
Un tro roedd yna deulu bach yn byw mewn tŷ, a dyma ’na gawr mawr yn dŵad a dwyn un o’r hogiau o’r tŷ, a mynd a fo adra i dorri brechdan iddo fo.
Cafodd Neville truan ei geryddu gan yr athrawes am ei ddiogi, ond, medd Gwyn Thomas, byddai’r fath ficro-ffuglen y tu hwnt hyd yn oed i allu dychymyg Samuel Beckett.

Diwylliant unigryw Blaenau, ardal drwyadl Gymraeg, sy’n esbonio pam cynhyrchodd y dref, dros y blynyddoedd, gynifer o lenorion, cerddorion ac artistiaid eraill, yn eu plith Gwyn Thomas ei hun, Meredydd Evans, Bruce Griffiths y geiriadwr, Eigra Lewis Roberts, Gai Toms, Geraint V. Jones a David Nash.
Y trydydd tro daeth Blaenau i’m sylw oedd mewn digwyddiad yma yn Abertawe i ddathlu cyhoeddi Milk Wood memoir, y casgliad diweddaraf gan y bardd Samantha Wynne-Rhydderch (ar y cyd ag It might not be true, cofiant teimladwy gan ei chwaer, Francesca Rhydderch). Un o’r cerddi yn y gyfrol yw ‘Fine art’, am sut cafodd gweithiau celf o’r National Gallery yn Llundain eu cuddio yn chwarel Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd:
… on that September day
in 1941, Charles I on Horseback rode by
in a canted transit case with
three-quarters of an inch to spare
once the boys had lowered the road.
It’s known the king was barely five feet tall.

Tan ddiwedd y rhyfel arhosai’r peintiadau o dan y ddaear, ‘a hidden exhibition whose lights blazed all day, all night’,
… while in the quarry next door
men with torches cut pages of slate
into Empresses, Broad Countesses, Wide Ladies
and Duchesses Bach, like some family
of royal women who roofed the world, by size.

Ie, tref arbennig yw Blaenau Ffestiniog. Does dim lle arall sy’n debyg iddo, yng Nghymru nac mewn unrhyw wlad arall – ac eithrio, o bosib, Perw. Y diweddar Osi Rhys Osmond a alwodd Blaenau ‘the Machu Pichu of the north’.

Leave a Reply