Diwylliant a’r llywodraeth newydd

Beth fydd ffawd diwylliant a’r celfyddydau o dan ein llywodraeth newydd yng Nghymru?  Yr ateb syml yw, ‘does dim dweud’, ond mae ambell welltyn yn y gwynt sy’n awgrymu sut mae polisïau Plaid Cymru yn debyg o ddatblygu.

Heledd Fychan AS

Yn ogystal â’r adran (denau, braidd) ar ‘Gymru greadigol’ yn y ddogfen Y 100 diwrnod cyntaf, mae gennym bellach y datganiad cychwynnol a wnaeth Heledd Fychan, y gweinidog dros ddiwylliant a chwaraeon, yn y Siambr ar 16 Mehefin.

Pwynt cyntaf Heledd oedd pwysleisio penderfyniad y llywodraeth newydd i dorri’n rhydd o agwedd ddirmygus y Blaid Lafur at ddiwylliant:

Dyma ddechrau ar unioni’r diffyg strategaeth, gweledigaeth a chefnogaeth ar eu cyfer oedd yn nodwedd mor amlwg dros y 15 mlynedd diwethaf, a dwi’n falch o rannu heddiw fod y gwaith hwn bellach ar droed.  Mae’r Llywodraeth hon yn gweld ein diwylliant a chwaraeon fel meysydd o bwys ac nid yn rhywbeth opsiynol neu’n braf eu cael.

Pwynt dilys yw hwn.  Does dim amheuaeth nad oedd cyfres o lywodraethau Llafur yn fodlon lleihau gwariant ar y sector, flwyddyn ar ôl flwyddyn, gan gymryd ei fod yn ddibwys ac yn gwbl ymylol i’r dasg o arwain y wlad.  Yn hytrach, dylai diwylliant fod yng nghanol llywodraeth, yn gweithredu fel ‘pwerdy’ (gair Heledd) yn ein cymdeithas.  Peth pwysig yw ein bod yn clywed yr uchelgais clir hwn, oddi wrth weinidog sydd â phrofiad hir o weithio o fewn y sector diwylliant ei hun.

Ail bwynt Heledd yw bod Plaid wedi etifeddu sefyllfa ariannol sy’n heriol dros ben.  Dim ond y gwir, wrth gwrs, ond mae’r math yma o rybudd gan lywodraeth newydd (meddyliwch am Keir Starmer) yn procio’r cwestiwn, ‘fydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio gwario yn y dyfodol, a gwasgu disgwyliadau pobl?’

Bydd Heledd yn datgelu ei chynlluniau mewn strategaeth newydd i ddiwylliant a chwaraeon, i’w chyhoeddi o fewn y ‘100 diwrnod cyntaf’.  Gallwn ni ddisgwyl rhagor o fanylion na sydd yn ei datganiad ar 16 Mehefin (un o’r ychydig eitemau unigol yna oedd ei sôn am sefydlu ‘oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru’).  Pryd hynny gallwn ni farnu pa mor radical fydd polisi’r llywodraeth, a pha mor wahanol i strategaethau’r gorffennol.  Cwyn gyson am lywodraethau Llafur fu’r agendor mawr rhwng rhethreg a realiti, y strategaeth a chanlyniadau’r strategaeth.  Y ddau gwestiwn, felly, fydd yn codi yn sgil cyhoeddi’r strategaeth newydd yw:

  • a fydd y cynlluniau yn ddigon sylweddol i wneud gwahaniaeth mawr, a dod â bywyd newydd i’r celfyddydau a’r sefydliadau diwylliannol?
  • a fydd gan y llywodraeth yr adnoddau a’r ewyllys i wireddu’r cynlluniau?

Cawn ni ambell awgrym yn natganiad Heledd am ble bydd hi’n ffeindio’r arian.  Mae hi’n siarad am ‘weithio ar draws portffolios’ – ‘mi ydyn ni yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ymgorffori diwylliant a chwaraeon mewn meysydd polisi ehangach’ – ac yn arbennig felly trwy gydweithio gyda’r sector iechyd, sy’n llyncu dros hanner o gyllideb y llywodraeth.

Ond yn y pen draw does dim ffordd arall o gryfhau’r sector diwylliannol na gwario rhagor o arian arno yn uniongyrchol. 

National Theatre Wales, Coriolanus, St Athan, 2012

Yn ôl ymchwil ym mis Mawrth llynedd gan Ymchwil y Senedd ar y lefel o wario ar ddiwylliant gan lywodraethau Ewropeaidd yn 2022, daeth Cymru yn drydydd ar hugain yn y tabl, ar £59.75 y pen.  Dim ond Gwlad Pwyl a Latfia a wariodd llai.  O ystyried bod Cymru yn ymfalchïo yn ei diwylliant arbennig, mae’r ffigwr hwn yn dod ag anfri ar bron pob llywodraeth ers dyfodiad datganoli.  Y canlyniad fu dirywiad cyson yn y lefel o weithgaredd ar draws y sector.  Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond yn gysgodion o’r sefydliadau mawr y buon nhw ugain mlynedd yn ôl.  Does gan Gyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Llyfrau yr adnoddau i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gallu gwneud llawer mwy na chadw’r blaidd o’r drws.  Flynyddoedd yn ôl, o dan arweiniad John McGrath, roedd gennym National Theatre Wales, a fyddai’n cynhyrchu dramâu mawr, trawiadol o’r safon uchaf a dderbyniodd canmoliaeth eang.  Heddiw does dim theatr debyg, dim ond cynyrchiadau achlysurol, o dan faner ‘Welsh National Theatre’ a ariennir (yn hael) gan Michael Sheen.

Yr unig ffordd, nid o ‘droi’r cloc yn ôl’ ond o chwistrelli rhagor o egni i mewn i’r sector, yw trwy adfer y cyllidebau a fu, a mwy.  Oes, bydd arian yn brin, a bydd llawer i alwadau eraill arno.  Ond a oedd yna amser pan nad oedd hynny’n wir?   Y pwynt i’w gofio yw bod cyfanswm y gyllideb diwylliant – fel y mae nawr neu fel y gallai fod – yn fechan iawn, iawn o gymharu â’r chyllideb iechyd.  Prin y byddai rhywun yn sylwi ar yr effaith ar wasanaethau iechyd yn dilyn codiad sylweddol yn y gyllideb ddiwylliant.

Y maen brawf allweddol i’r llywodraeth newydd yn y maes hwn, felly, yw a fydd hi’n ddigon dewr i gynyddu’r gyllideb i’r fath raddau fel bod diwylliant yn gallu tyfu i fod yn ‘bwerdy’ i Gymru, fel dymuna Heledd?  Amser a ddengys.


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.