Hwn yw testun Darlith Goffa Ieuan Rees a draddodwyd yn y Lle Celf, Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, Sir Benfro, ar 8 Awst 2026.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Lle Celf am y gwahoddiad i draddodi’r ddarlith hon er cof am Ieuan Rees. Bu farw Ieuan ym mis Hydref 2025, yn 84 oed . Artist, caligraffydd, torrwr carreg, athro: roedd Ieuan yn feistr ar bob un o’i grefftau, dros yrfa o drigain mlynedd a mwy. Rhan o’i waith pob dydd oedd coffáu pobl eraill. Dyma enghraifft nodweddiadol gain: carreg goffa Syr Kyffin Williams. Gosododd Ieuan safonau uchel i’w dilynwyr. Mewn cyfweliad yn 2020 cyfaddefodd, er yn gyndyn, ei fod yn ‘drysor cenedlaethol’. Anrhydedd imi yw ei goffáu heddiw, fel meistr a thrysor.

Y berthynas rhwng geiriau a delweddau, dyma’r testun a osodwyd imi. Testun mawr, rhaid dweud, a digon astrus. Fy mwriad heddiw yw cyfyngu’r pwnc i agwedd arbennig, sef sut mae artistiaid gweledol yng Nghymru wedi defnyddio iaith ysgrifenedig neu brintiedig – geiriau, brawddegau, marciau ieithyddol eraill – fel rhan annatod o’u gweithiau celf. (Fydda i ddim yn trafod darluniau, ‘illustrations’, sy’n atodol i weithiau llenyddol, na gwaith, fel rhai o luniau Ceri Richards, sy’n tynnu ysbrydoliaeth o waith llenorion, ond heb ddefnyddio geiriau.)

Rwy’n ymwybodol fy mod i ddim yn troedio ar dir newydd yn y maes hwn, a dylwn i gydnabod yn arbennig waith gan Ann Price-Owen, Iwan Bala ac eraill sy’n trin y berthynas rhwng y gair a’r llun yng Nghymru.
Trwy edrych ar enghreifftiau gan ychydig o artistiaid, byddaf yn gofyn dau gwestiwn:
- sut a pham mae artistiaid Cymreig wedi defnyddio testun ysgrifenedig yn eu gwaith
- a oes rhywbeth hanfodol Gymreig yn yr arfer o gynnwys testun mewn llun, yn arbennig testun yn yr iaith Gymraeg?
Yn gyntaf, felly, y cwestiwn am eiriau mewn gweithiau celf. Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod iaith a delwedd yn perthyn i gategorïau gwahanol. Endid semantig yw iaith: mae’r gair yn cyfeirio i ystyr. Does dim ‘ystyr’ fel y cyfryw y mae delwedd yn bwyntio ato: os ydy hi’n cyfeirio, mae’n cyfeirio ati hi ei hun. Ac felly, mewn gwaith celf, gall tynfa fod rhwng iaith a delwedd. (Ond mewn gwirionedd dyw pethau ddim mor syml â hynny, fel y gwelwch chi.)

Y defnydd cyntaf, mwyaf sylfaenol o destun yw cyfieithu. Tua chanol y 19eg ganrif lluniodd Eliza Pughe, merch ifanc o Glynnog, eiriadur arbennig: cyfres o luniau o wrthrychau cyffredin, fel coeden a haul, ynghyd â’r geiriau, yn Saesneg ac yn Gymraeg, sy’n cyfateb iddyn nhw. Mae’r lluniau – rhai mewn pin ac inc, eraill gyda lliw – yn fywiog, yn ffres ac, yn aml, yn ddifyr. Pwrpas ymarferol oedd i’r geiriadur. Roedd Eliza yn fud ac yn fyddar, a’r llyfr, trwy gysylltu geiriau a lluniau, oedd ei modd o gyfathrebu gyda’i theulu a’u ffrindiau.
A dyma enghraifft debyg: rhan o lyfr llawysgrif (1855) sy’n rhestru clustnodau defaid o Sir Drefaldwyn a Meirionnydd. Darluniau sydd yma, o’r nodau gwahanol ynghyd â’r enwau o’r ffermydd sy’n eu defnyddio.

Ar y pegwn arall i’r rhain mae’r arysgrifau peintiedig a wnaeth David Jones, y bardd a’r artist, rhwng 1948 a 1967. (Un o Lundain oedd Jones, ond roedd ei dad yn Gymro, ac uniaethai e â Chymru a’r iaith Gymraeg trwy ei fywyd.) Yma nid yw llun a gair ar wahân, yn ymateb i’w gilydd: mae’r ddau wedi cyfannu, i ffurfio un ddelwedd, gair a llun ar yr un pryd.
Un o’r enwocaf a mwyaf datblygedig o’r arysgrifau yw Cara Wallia derelicta (1959), gwaith sy’n coffáu marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282. (Byddai llawer o bobl ifanc yn yr wythdegau o’r ganrif ddiwethaf yn arfer cadw copi o’r poster ohono ar y wal yn eu bedsits.) Does dim byd yn y llun heb y llythrennau. Ac eto mae’n waith sy’n taro ergyd emosiynol, yn rhannol trwy natur y geiriau – y dyfyniadau – ac yn rhannol oherwydd y ffordd mae Jones wedi gosod a lliwio’r llythrennau.

Tri dyfyniad a dwy iaith sydd i’w gweld yma. Yn gyntaf, cofnod o farwolaeth Llywelyn o gronicl Brenhinedd y Saeson, datganiad moel i ddechrau, ond gyda diweddglo torcalonnus, ‘Ac yna y bwriwyd holl Gymry y’r llawr’ – gyda’r geiriau ‘holl Gymry’ mewn llythrennau lliw, mwy o faint. Nesaf, daw dyfyniad soniarus o’r Aeneid gan y bardd Rhufeinig Fyrsil am ffawd anochel Troea, sef rhagflaenydd mytholegol Cymru. Ac yn olaf, darn o’r farwnad enwog i Llywelyn a ganwyd gan Gruffudd ab yr Ynad Coch (‘penn dragon, penn dreic oed arnaw …’), y mae ei destun yn troi i redeg i fyny’r ymyl ar y chwith. Mae’r teitl yn Lladin, ‘Cara Wallia derelicta’ – fersiwn Saesneg yr artist oedd ‘poor buggered-up Wales’– yn gosod y cywair o alar ac anobaith yn y gwaith.

Fel y dywedais, gwaith llawn emosiwn yw hwn. I’r olwg gyntaf, mae’r llythrennau’n ymddangos yn nodweddiadol Rhufeinig – clasurol, trefnus, rhesymegol. Ond mewn gwirionedd mae ffurfiau’r llythrennau unigol yn anuniongred. Maen nhw’n ôl-Rufeinig, yn y ffordd maen nhw’n cyrlio, gogwyddo a dal dwylo ei gilydd. Hynny yw, maen nhw’n perthyn i gyfnod diweddarach, mwy ansefydlog, mwy trasig. Siâp a symudiad y llythrennau, eu safleoedd ar y tudalen, y dyfrlliw cynnil sy’n amlygu geiriau allweddol – mae pob penderfyniad gweledol gan yr artist yn cyfrannu cymaint at impact y gwaith â dewis ac ystyr y geiriau eu hunain.
Dinistr yw thema Cara Wallia derelicta, dinistr a cholled – colli hen ddiwylliant ac o bosib colli ieithoedd, Lladin a Chymraeg fel ei gilydd. Gall rhywun glywed y trawiadau mileinig sy’n taro’n ddi-baid, trwy’r testunau ond hefyd trwy rythm gweledol y llythrennau. Fel dywedodd Jones ei hun, ‘mae llinell ar ôl llinell yn ymddangos i ddisgyn fel ergydion morthwyl’. Llun yw Cara Wallia derelicta, llun mewn geiriau’n unig. Mae’r llun a’r gair yn un.
Does dim syndod bod arysgrifau David Jones yn cael eu hedmygu gan artistiaid o Gymru ddaeth ar ei ôl. Un ohonyn nhw oedd Jonah Jones. Daeth Jones yn wreiddiol o swydd Durham, ond ymgartrefodd yng Nghymru a chofleidio diwylliant ei wlad newydd (cafodd ddylanwad ar Ieuan Rees). Fel artist, bu’n gweithio mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys lluniau, cerfluniau ac arysgrifau. Un o’r arysgrifau yw Y neges, sy’n ymwneud â rhan o Ail Gainc y Mabinogi, lle mae Branwen yn anfon neges trwy aderyn o Iwerddon nôl i Brydain i gwyno wrth ei brawd Bendigeidfran am ei cham-drin wrth law ei gŵr Matholwch.

A rhwymwyd y llythyr am fôn adenydd a’i anfon tua Chymru. A daeth yr aderyn i’r ynys hon. Dyma le y cafodd Bendigeidfran, yng Nghaer Saint yn Arfon.
Mae dylanwad David Jones yn amlwg yng ngwedd ac arddull y llythrennau. Ond tra bydd David Jones yn dibynnu yn llwyr ar y llythrennau i gyfleu ystyr ac emosiwn, mae Jonah Jones yn gosod ei destun mewn rhyw ffenestr yn y llun. Drudwen oedd yr aderyn yn y stori. Ond yn ei lun mae Jones yn trosi’r ddrudwen yn golomen – symbol o heddwch. Symbol amwys yw e: bydd ymgais Branwen i ddatrys ei sefyllfa druenus yn arwain at ddinistr a dioddefaint i bawb. Perthynas gymhleth, felly, sy’n bod rhwng y geiriau a’r llun. Mae’r cefndir tywyll, cythryblus i’r aderyn gwyn yn lled awgrymu’r trafferthion sydd i ddod, i Branwen a phawb.

Arysgrifwr arall – a dilynwr arall o David Jones – oedd Ogwyn Davies. Fel mae’n digwydd, roedd ei lun Gwinllan a roddwyd, a enillodd gwobr ‘Tir’ yn 1992, yn gyfarwydd iawn imi: roedd e’n arfer bod ar y wal yn yr ystafell drws nesaf imi yn y Llyfrgell Genedlaethol. Daw’r testun adnabyddus o ddrama Saunders Lewis, Buchedd Garmon – mynegiant o’ch dyletswydd i ddiogelu eich etifeddiaeth a’i hamddiffyn yn erbyn y rhai sy’n dymuno ei lladd:
Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant,
yn dreftadaeth dragwyddol.
Rhan annatod o’r etifeddiaeth honno yw iaith, ac mae’n briodol felly bod y llun ar ffurf llythrennau’n unig. Llythrennau sydd braidd yn wahanol i rai David Jones – llawer mwy clasurol a Rhufeinig ei ffurfiau, fel petaen nhw’n wedi cael eu cerfio i mewn i floc o farmor ar ryw hen gofadail. Ac yn wir mae Davies wedi peintio’r cefndir y tu ôl i’r llythrennau mewn lliwiau amrywiol – glas olau, brown a gwyn – sy’n awgrymu carreg lefn. Datganiad yw hwn, neu osodiad, yn rhannol oherwydd ffurf glasurol y llythrennau – datganiad sy’n gadarn ac anodd ei wrthsefyll.
I gwblhau’r gyfres hon o arysgrifau dyma lun nodweddiadol gan Paul Peter Piech. Fel Jonah Jones, mewnfudwr oedd e, wedi symud i Gymru o’r Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ymserchu yng Nghymru. Ei gyfrwng arbennig oedd y poster, a gwnaeth e gannoedd ohonyn nhw dros yrfa hir. Fel Ogwyn Davies, roedd yn artist gwleidyddol ac yn ei waith mae’n cydleoli geiriau a lluniau i gyfleu neges nerthol.

I Piech roedd gan feirdd a llenorion y ddawn arbennig i roi llais i’r gwerthoedd oedd yn bwysig iddynt. Roedd e’n hoff o bortreadu awduron, gan gynnwys Saunders Lewis, Walt Whitman, Waldo Williams ac R.S. Thomas, ac o gydleoli lluniau ohonyn nhw â llinellau o’u gwaith. Yma mae’n gosod cerdd enwog Harri Webb ‘Colli iaith’ ochr yn ochr â llun o ddraig goch yn dal ysgrifbin, symbol o allu’r bardd i ddweud y gwir am Gymru mewn geiriau plaen a grymus. Ei dechneg arferol ar gyfer y llun a’r gair fel ei gilydd oedd y print leino.
Dyw Piech ddim yn anelu at greu gwaith coeth, caboledig. Yn hytrach, yn rhannol oherwydd natur torri ac argraffu o leino, mae ei linellau’n arw ac onglog, a’i steil yn gyffredinol yn deillio o gyfnod y Mynegiadwyr Almeinig (German Expressionists). Mae hi fel petai e’n dewis y ffordd fwyaf pigog ac uniongyrchol o wneud ei bwyntiau. Nodwch hefyd ei ddewis o liwiau – lliwiau baner y ddraig goch.
Achos gwahanol yw Mary Lloyd Jones, peintiwr yn y lle cyntaf, ond un sy’n ymgorffori geiriau yn ei lluniau yn aml – nid cymaint llythrennau confensiynol y tro yma, ond geiriau print, ysgrifen, a marciau eraill wedi’u gwneud â llaw. Yn 2006, mewn arddangosfa bwysig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r enw Iaith gyntaf, dangosodd Mary luniau, yn ei dull lliwgar arferol, destunau o sawl oes yn hanes Cymru – marciau wedi’u naddu ar gerrig o Oes y Cerrig a’r Oes Efydd, llinellau cyfochrog Ogam, yr wyddor Wyddeleg (iaith oedd ar led yng ngorllewin Cymru yn y cyfnod ôl-Rufeinig), cerddi modern mewn print neu ysgrifen, a hynny mewn sawl iaith. Daeth llawer o’r testunau gwreiddiol o gasgliadau’r Llyfrgell pan oedd Mary yn cadw stiwdio dros dro yn yr adeilad yn 2004.

Dyma driptych mawr o gasgliad y Llyfrgell, o’r enw ‘Bryn Celli Ddu’. Mae’n tynnu ar y marciau igam-ogam, cyfochrog i’w gweld ar garreg sy’n sefyll y tu allan i fedd cynhanes Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Unwaith y flwyddyn, adeg hirddydd yr haf, mae pelydrau’r haul yn goleuo’r coridor sy’n arwain i mewn at y siambr feddau: gallwch weld adlais o’r eiliad hon yn y llun. Gwelwch ffigurau eraill sy’n nofio ar draws y llun. Mae’r rhain yn perthyn i gyfnod arall: llythrennau ydyn nhw o Goelbren y Beirdd, ffug-wyddor Iolo Morganwg.
Llun aml-haenog, felly, yw ‘Bryn Celli Ddu’. Mae’n ail-adeiladu heneb Neolithig mewn paent, yn rhannol trwy greu rhyw balimsest o negeseuon sy’n ein cyrraedd o hanes a chynhanes. Thema Mary yw parhad diwylliant ac ieithoedd trwy’r oesoedd, yn ei chornel fach o’r byd – a’r ddyletswydd sydd arnon ni i’w diogelu a’u trysori. Yn ei llun mae’r gorffennol pell yn fyw o hyd, ac yn siarad â ni heddiw, er bod ei ieithoedd yn ddarniog, yn anghyflawn a hyd yn oed, yn achos wyddor Iolo, yn ddychmygol.
Gellir disgrifio Mary Lloyd Jones, yn arbennig yn ei gwaith diweddarach, fel artist gwleidyddol. Artist cyfoes arall y mae ei ddatganiadau yn fwy dadleuol yw Iwan Bala, enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol 1997. Yn ei weithiau niferus sy’n dangos geiriau, ei amcan yw osgoi llythrennau ffurfiol, trefnus. Mae’n well ganddo ddefnyddio ei ysgrifen anniben ei hun, sy’n rhan o’i ffordd arbennig o wneud celf. Dyma un o’i weithiau ‘ar y gweill’, neu, yn ei eiriau e, ‘nodiadau-maes’ – ffrwyth o gydweithio gyda’r bardd Menna Elfyn. Yma mae’n ceisio dal rhyw feddwl neu ymdeimlad ar y funud, heb drafferthu i roi sglein ar y llun neu anelu at berffeithrwydd.

Un o themâu cyson Iwan Bala yw’r map. Dyfais graffig yw’r map, sydd yn anorfod yn cynnwys geiriau. Ar y wyneb mae map i’w weld yn rhywbeth sefydlog ac awdurdodol, ond mewn gwirionedd mae’n beth anwadal a phlastig. Yn y llun hwn, mae Cymru (‘Gwalia’) wedi tyfu i fod yn wlad sylweddol – canol y byd, bron – a Lloegr yn benrhyn tenau, truenus i’r dwyrain. Ar y map nodir nid dinasoedd a threfi ond enwau artistiaid, fel Jonah Jones a Mary Lloyd Jones. Dyma Gymru fel pwerdy grymus yn y byd, nid oherwydd ei nerth economaidd neu wleidyddol, ond yn rhinwedd ei chyfoeth creadigol a diwylliannol (sylwch fod dim un enw ar Loegr). Llun gyda neges, felly, yw hwn, a’r geiriau yn cario’r rhan fwyaf o’r baich ohoni.
Dros amser mae geiriau – ar y cyfan, geiriau Cymraeg eu hiaith – yn dod yn fwyfwy allweddol i gelf Iwan Bala. Geiriau, er enghraifft, gan feirdd fel Menna Elfyn a Nigel Jenkins. Mae gweithiau unigol Iwan yn debyg i lawysgrifau, dogfennau sy’n dangos olion y llaw, ac sy’n amlygu angerdd. Gan eu bod yn cadw arwyddion o’r ffordd y cawsant eu gwneud – yr inc anniben, y papur trwm, y gwallau a’r staeniau – maen nhw’n dod â ni, meddai Iwan, nôl at wreiddiau’r geiriau, yr eiliad o greu’r gerdd, cyn ei bod yn cael ei gosod yn gadarn mewn print, ac yn mynd allan i’r byd.
Dywed Iwan Bala, ‘It is not my intention to make these words into decorative illustrations; pieces of crafted calligraphy as in the text works of David Jones or his followers such as Jonah Jones. I want to replicate the ‘notebook’ scribble with all its errors, erasures and slippages.’
Mae sawl artist testunol yn mwyngloddio o fewn yr un wythïen artistig ag Iwan Bala. Yn ei lun ‘Eglwys-fach’ peintiodd Osi Rhys Osmond fap manwl o’r ardal lle bu’r bardd R.S. Thomas yn byw yng nghanol ei fywyd. Mae’n cynnwys enwau pentrefi a nodweddion eraill o’r fro, rhai cerddi gan Thomas mewn ysgrifen, ac adar a oedd mor agos at galon y bardd, er mwyn tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng tir, byd natur a barddoniaeth yng Nghymru.

Eto fel Iwan Bala, roedd Osi’n artist gwleidyddol. Ei gred oedd na ddylid anwybyddu digwyddiadau erchyll yn y byd, hyd yn oed os roedden nhw’n digwydd mewn gwledydd pell. Ac fel Iwan Bala, mae’n gwneud defnydd o destun i gryfhau a dwysáu ei neges. Yn un o’i luniau am ymosodiadau gan Israel ar Khan Younis yn Gaza mae’n cynnwys sawl dyfyniad, gan gynnwys un gan Mahmoud Darwish, prif fardd Palestina, sy’n mynegi penderfyniad y Palestiniaid i oroesi er gwaethaf popeth.

Yn 1997, yn syth ar ôl y bleidlais ddatganoli, gwnaeth yr artist a ffotograffydd Peter Finnemore (enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol 2005) gyfres o luniau o’r enw ‘Lesson 56 – Wales’. Tynnodd e luniau o werslyfr oedd yn arfer perthyn i’w fam-gu, Venus Bowen, pan oedd hi’n ddisgybl yn ysgol Pont-iets, Sir Gaerfyrddin. Ei fwriad oedd dangos pa mor ddylanwadol oedd addysg Brydeinig a gwybodaeth swyddogol, yn ystod oes yr Ymerodraeth Brydeinig, ar fowldio’r hyn a alwodd Peter ‘y meddwl wedi’i wladychu’ (colonised mind) ymhlith y Cymry.

Ymysg y symptomau o’r cyflwr hwn oedd colled hyder, diffyg rheolaeth, a’r anallu i weithredu’n annibynnol. Her Peter oedd darganfod ffordd weledol o amlygu hyn. Y gair printiedig, awdurdodol oedd un o’r prif sianeli i hyrwyddo a lledaenu Prydeindod trechol. Ac felly dyma’r gwerslyfr, sy’n bychanu Cymru, gwlad wedi’i chymhathu i wladwriaeth Prydain, ac yn mawrygu’r frenhines, anthem genedlaethol Prydain a Jac yr Undeb. Ar y llaw arall, mae Peter yn gweld sgribladau llawysgrif ei fam-gu ar y llyfr yn ffordd o wrthdystio, o fynnu ei hunaniaeth fel Cymraes, yn wyneb y negeseuon gormesol y mae awduron y llyfr yn eu pedlera. Mae’n ymgyrch, meddai, sy’n parhau hyd heddiw.

Dynion, gan amlaf, yw’r artistiaid hyn sy’n defnyddio testunau at amcanion gwleidyddol (ydy hyn yn arwyddocaol?). Menyw sy’n wleidyddol iawn, o safbwynt ffeministiaeth, yw Sue Williams. (Enillodd Sue y Fedal Aur yn Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cylch, 2001.) Dyw’r ymadrodd ‘yn ddi-flewyn-ar-dafod’ ddim yn gwneud cyfiawnder â chynnwys a steil ei chelf. Mae ei pheintiadau a brasluniau’n gignoeth, yn ddidwyll ac yn gwbl uniongyrchol. Ei maes yw’r berthynas rhwng pobl – rhwng merched, a rhwng merched a dynion – yn emosiynol ac yn arbennig yn gorfforol.

Yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol mae cyfres o dri llyfr gan Sue Williams, ar ffurf acordion-bletiog: ffris o frasluniau niferus yn dwyn y teitl ‘Bare red’, a wnaeth Sue yn y cyfnod clo yn ystod pandemig Covid yn 2000. Dyma un o’r lluniau, yn arddull nodweddiadol yr artist, gyda lliwiau llachar a darlunio cryf a naturiol. Ac, fel sy’n digwydd yn aml yng ngwaith Sue, wele eiriau: pwt o un o ganeuon enwocaf y Beatles. Mae’r dyfyniad – a’r rheg yn ei ganol – yn amlygu thema’r peintiad: unigedd, gofid ac ofn i’r dyfodol. Mae Sue wedi peintio’r geiriau’n fras ac yn flêr, fel petai hi’n eu plastro fel graffiti ar wal gyhoeddus. Maen nhw’n cyfrannu’n fawr at ymdeimlad grymus y llun.
Wel, dyna fwrw cipolwg dros hanner canrif a mwy o eiriau mewn gweithiau celf. Mae’r geiriau yn amrywio’n fawr. Rhai’n meddiannu holl lwyfan y llun, eraill yn ategol neu yn ymylol. Rhai’n ffurfiol a chlasurol (ac felly yn awdurdodol a datganiadol), eraill yn amrwd a diofal (ac felly yn heriol neu brotestgar). Rhai’n dwyn atgof o’r gorffennol, eraill yn daer a chyfoes.
Rhaid cydnabod bod peryglon wrth gyflwyno geiriau i weithiau celf. Gallan nhw dynnu sylw oddi ar yr elfennau gweledol eraill yn y gwaith. Gall gormod o eiriau, neu eiriau rhy bwerus, dynnu gwaith i lawr at lefel slogan, sy’n gweiddi’n groch ac aflafar. Ond, mewn dwylo deheuig, mae gan eiriau’r potensial i finiogi neges ac ychwanegu i’w impact teimladwy.
Leiciwn i geisio ateb yr ail gwestiwn a ofynnais i ar y dechrau: a oes rhywbeth nodweddiadol Gymreig yn yr arfer o gynnwys geiriau mewn lluniau?
Y peth cyntaf i’w ddweud ydy bod cynnwys geiriau i’w gweld yn gyffredin mewn gweithiau celf trwy’r byd ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Meddyliwch am sut ymgorfforodd Picasso, Braque a Juan Gris benawdau o bapurau newydd yn eu peintiadau ciwbydd. Neu waith gan artistiaid mor wahanol â Kurt Schwitters, Andy Warhol, Ian Hamilton Finlay a David Shrigley.
Ond eto mae’n bosibl dadlau bod artistiaid o Gymru yn troi at eiriau mor aml oherwydd bod iaith – ac yn arbennig yr iaith Gymraeg – mor ganolog i’w ffordd o weld y byd. Yn Llanllenorion (2026), nofel athronyddol gan Mary Burdett-Jones, mae un o’r cymeriadau’n mynnu ‘nad yw lluniau ar eu pennau ei hunain yn ddigonol i gyfleu’r profiad o fyw yng Nghymru. Rhaid wrth eiriau.’
Mae Iwan Bala yn mynnu bod dyletswydd arno i amlygu, amddiffyn a hyrwyddo’r iaith Gymraeg trwy ei waith i gyd. Os felly, beth sy’n fwy naturiol na chynnwys geiriau, ymadroddion a brawddegau Cymraeg yn ei luniau? Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o’r artistiaid y grybwyllais atynt heddiw yn siaradwyr Cymraeg.

Elfen o’r iaith sy’n hollbwysig i Iwan Bala a llawer o’r lleill, o David Jones ymlaen, yw ei hynafiaeth: y ffaith bod y Gymraeg wedi goroesi, yn erbyn pob math o rwystr, trwy’r canrifoedd. Yng ngeiriau Iwan, mae geiriau mewn lluniau yn ‘angori’r ddelwedd yn y traddodiad’. Mae’r gorffennol yn cyfrif. Mae’n ein hatgoffa am sut cyrhaeddon ni lle rydyn ni nawr.
(Ydy hi’r rhy ffansïol, gyda llaw, i awgrymu hefyd bod hoffter artistiaid Cymreig o eiriau yn eu gwaith yn adleisio’r hen fyd o Brotestaniaeth ac Anghydffurfiaeth, gyda’u pwyslais cryf ar Y Gair, geiriau Duw sydd i’w gweld rhwng cloriau’r Beibl?)
Beth am y dyfodol? Mae’n ystrydeb bod pobl iau heddiw yn cefnu ar y gair printiedig. Ond mae geiriau’n dal yn hanfodol iddyn nhw, er enghraifft ar aps cyfathrebu a chymdeithasol. Felly yn fyw na thebyg bydd y briodas rhwng gair a llun yn goroesi yng nghelf y dyfodol.
Dylen ni gloi gyda gwaith cyfoes, newydd sbon – yn wir, gwaith anorffenedig – gan yr artist adnabyddus o Abertawe, Tim Davies. (Enillodd Tim y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003). Yn aml iawn mae’n cynnwys geiriau yn ei waith, a dyma enghraifft ddwyieithog, y gellir ei hongian naill ai fel hyn, neu wyneb i waered:

ffigurau
ar eu dwylo a’u pengliniau
yn chwilio am gliwiau
i gael gafael ar hanes
figures
on their hand and knees
are searching for clues
to have a hold on history
Gwreiddyn y geiriau hyn yw darn o ryddiaith ysgrifennodd Tim er mwyn disgrifio mewn geiriau, fel penawdau bron, luniau a welodd mewn papur newydd. Felly’r hyn sydd yma yw proses gymhleth o gyfieithu: trosi lluniau i eiriau, a throsi geiriau yn ôl i luniau.
Mae’r ‘ffigurau’ yn y testun yn cyfeirio at ddwy stori newyddion, medd Tim, lle mae ditectifs yn chwilio am gliwiau mewn lleoliad trosedd, ac, mewn stori wahanol, lle mae tad a mab yn darganfod mosäig o dan tŷ yn Gaza. (Fydd gwylwyr y llun, wrth gwrs, ddim yn ymwydodol o’r cefndir hwn, ac felly bydd ‘ystyr yr artist’ yn anweladwy.)

Un o weithredoedd cyffredin yng ngwaith Tim Davies yw llosgi. Yma mae llosgi’r llythrennau yn awgrymu, ar y naill llaw, peryglu a dileu iaith, ac ar y llaw arall, serio a selio iaith fel ei bod hi’n parhau i’r dyfodol. Mae Tim yn gosod y geiriau o fewn sgrin o siapiau geometrig bychain, fel pe baent yn nofio mewn ehangder mawr – ehangder o ofod dwfn neu amser diddiwedd.
I grynhoi, felly, mae’n glir imi fod iaith yn ganolog i nifer o artistiaid gweledol Cymru, nid oherwydd bod geiriau’n cynnig ffordd amgen, dewisol o ddweud eu dweud, ond achos bod iaith yn hanfodol i’w celf, ac yn rhan annatod o’u gweledigaeth bersonol.
Diolch i’r Lle Celf am gomisiynu’r ddarlith hon, i chi i gyd am wrando, ac i Ieuan Rees am adael inni gymynrodd artistig aere perennius (‘parhaus yn hirach nag efydd’), chwedl y bardd.

Leave a Reply