Tag: iaith Gymraeg

Watcyn Wyn a’r ‘Welsh Note’

October 14, 2022 0 Comments
Watcyn Wyn a’r ‘Welsh Note’

Pedair brawddeg sy gan Wicipedia i’w ddweud am Watkyn Hezekiah Williams.  Ond yn ei ddydd roedd ‘Watcyn Wyn’ yn adnabyddus iawn fel bardd, ac fel sefydlwr ysgol nodedig, Ysgol Gwynfryn, Rhydaman.   Dim ond arbenigwyr, siŵr o fod, sy’n darllen ei farddoniaeth, er bod o leiaf un o’i emynau, ‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn […]

Continue Reading »

Cymraeg ar y mynydd

January 8, 2022 1 Comment
Cymraeg ar y mynydd

Enillydd cyntaf Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt yw Rebecca Thomas, cymrawd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Bangor. Ei maes academaidd yw hanes Cymru yn yr oesoedd canol cynnar, a chawn beth o’i gwybodaeth drwyadl o’r pwnc yn ei hysgrif fuddugol, sy’n dwyn y teitl ‘Cribo’r Dragon’s Back’.  Er yn fyr, mae’r darn hwn yn […]

Continue Reading »

Y cartŵn Cymraeg cyntaf?

August 20, 2021 2 Comments
Y cartŵn Cymraeg cyntaf?

Yn ôl Marian Löffler, hwn yw’r cartŵn cyntaf i ymddangos mewn print yn yr iaith Gymraeg.  Mae’n wynebddalen mewn llyfryn gan Thomas Roberts a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1798, Cwyn yn erbyn gorthrymder. Brodor o Llwyn’rhudol Uchaf ger Pwllheli oedd Thomas Roberts.  Cyfreithiwr oedd ei dad, William.   Ganwyd e yn 1765 neu 1766, a symudodd […]

Continue Reading »

Cwm Ysgiach

June 4, 2021 0 Comments
Cwm Ysgiach

Yma ar y groesffordd yn y bryniau, ymddengys fod pob peth yn bosib.  Gallwch chi gymryd unrhyw ffordd o’ch dewis: nôl i Bontlliw, ymlaen i Felindre, i’r gorllewin i Bontarddulais, dros y mynydd i Garnswllt yn Sir Gâr, neu lawr i Gwm Dulais a phentref bach Cwmcerdinen.  Fy newis heddiw yw cerdded i Felindre: ddim […]

Continue Reading »