Pentre Ifan o’r diwedd
Cyhoeddodd y diweddar John Davies yn 2010 lyfr o’r enw Cymru: y 100 lle i’w gweld cyn marw, gyda lluniau gwych gan Marian Delyth. Wrth i’r blynyddoedd wibio heibio, dwi’n dechrau becso am y bylchau personol sy’n bod o hyd yn y rhestr hon, a rhestrau tebyg o leoedd ‘hanfodol eu gweld’ yng Nghymru.
Dros y Sul llwyddais i ymweld, am y tro cyntaf, â safle fydd ar y ‘rhestr 100’ gan y rhan fwyaf o Gymry, sef cromlech Pentre Ifan yng ngogledd Sir Benfro (oed: tua 3,500 cyn Crist). Pam na es i yno o’r blaen, does dim clem ’da fi, ond o’r diwedd galla i ei dicio oddi ar fy rhestr.
Er bod Pentre Ifan yn ddigon agos i Drefdraeth, dyw e ddim yn fater syml i gyrraedd y safle. Lleolir hanner ffordd ar hyd lôn hir, hynod gul. Os ydych chi’n digwydd cwrdd â cherbyd arall, cewch drafferth, oherwydd y prinder llefydd pasio (cawson ni broblem gyda fan mawr o’r Almaen oedd yn hollol anaddas i natur y ffordd). Sy’n atgoffa rhywun bod gogledd Sir Benfro yn llawn lonydd hir, cyfyng, a gysylltir gyda’i gilydd mewn rhwydwaith ar draws y wlad – yn union fel yn Sir Faesyfed, fel sylwodd Ffrancis Payne yn ei lyfr am y sir:
Oherwydd eu gadael mwy na lai fel y’u lluniwyd yn y dechrau, fe geir rhwydwaith o fân fyrdd trwy’r sir y mae teithio arnynt yn ein dwyn yn ôl i gyfnod pan fyddai ffordd yn arwain yn bennaf i diroedd a chaeau a ffriddoedd a dŵr a rhedyn a mawn a thai cymdogion a’r eglwys. Nid eiddo ardal yw ffyrdd mawrion heddiw …
Mynd nôl i’r gorffennol (pell), felly, yw’r profiad o ddilyn y lôn i Bentre Ifan. Os ydych chi’n ddigon lwcus i fachu lle i barcio ar ymyl y ffordd, rhaid cerdded ond ychydig o lathenni o’r ffordd i weld y gromlech dal o’ch blaen (‘The stones whereon this is laid are so high that a man on horseback may well ride under it without stooping’, yn ôl George Owen yn 1603). O’r cromlechi i gyd yng Nghymru, hon yw’r bertaf heb os. Dyma gapfaen hir, graslon (16 tunnell fetrig) sy’n gorwedd ar dri maen syth, fel petai llaw rhyw gawr anarferol sensitif wedi ei osod yn dringar yn ei le. O achos bod y tair carreg unionsyth yn diweddu mewn pwyntiau, mae’n ymddangos fel bod y capfaen yn nofio, neu ar fin plymio i lawr y llethr. Neu ydy’r cyfan yn gerflun newydd sbon, o bosib, gwaith cysyniadol gan un o’n hartistiaid mwyaf?
Ond sgerbwd, nid cerflun, yw’r gromlech mewn gwirionedd. Mae’n bosib iddi sefyll fel y mae am gyfnod, ond wedyn daeth yn rhan o safle ehangach, mwy cymhleth. Ychwanegwyd i’r gromlech bentwr o gerrig llai, fel y daeth yn yr hyn y mae archeolegwyr yn ei alw’n ‘Portal Dolmen’. Mynedfa grand, felly, oedd y gromlech, ar ôl ei gyfnod cynharaf, i feddrod neolithig, efallai ar ffurf petryal, gyda ‘chwrt blaen’ o’i blaen.
Dros y canrifoedd, fodd bynnag, mae Pentre Ifan wedi colli bron pob arwydd o’r bedrodd a’r cerrig, ac ar wahân i nifer o feini mawr eraill mae’r gromlech yn sefyll ar ei phen ei hun unwaith eto. Bu cloddiadau ar y safle gan W.F Grimes, cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond prin iawn oedd y darganfyddiadau: ond ychydig ddarnau o grochenwaith, a dim claddedigaethau o gwbl.
Fel gyda’r cylch cerrig yn Avebury, does dim atebion i’r rhan fwyaf o gwestiynau y byddai rhywun yn dymuno ei gofyn am Bentre Ifan. Pwy oedd yn gyfrifol am godi’r gromlech, a beth oedd ei phwrpas? Beth yw arwyddocâd y safle, o dan gysgod Carn Ingli? Pam estyn y gromlech i fod yn rhan o feddrod? Pwy gafodd ei gladdu yma? Ddigwyddodd ‘defodau’ yn y cwrt blaen, ac os felly, pa ddefodau? Oedd y ‘portal’ yn rhiniog rhwng byd y byw a’r meirwon?
Peidio lluosogi’r cwestiynau hyn sydd orau, debyg iawn. Does dim modd eu hateb, ar ôl canrifoedd o anwybodaeth. Gwell rhoi taw ar y rhesymegu, a sefyll yn dawel o flaen y cerrig a rhyfeddu a breuddwydio. Beth sy’n arbennig o ryfeddol imi, y tu hwnt i fawredd a harddwch y cerrig, yw’r gymdeithas hynod oedd yn gyfrifol am godi’r gromlech, am gromlechi eraill, ac am elfennau eraill o’r oes neolithig yng Nghymru, megis ffatri offer Graig Lwyd a’r tai ar Glegyr Boya, Tyddewi. Cymdeithas drefnus, a oedd yn gweithredu yn gydweithredol i wireddu cynlluniau mawr. Cymdeithas hierarchaidd, mae’n siŵr, ond hefyd – ychydig o dystiolaeth sydd o ryfela yn yr oes neolithig – cymdeithas heddychlon. Breuddwyd yw hon, wrth gwrs, ond breuddwyd cysurus.
I George Owen ac Edward Llwyd roedd y gromlech yn rhyfeddod, a Phentre Ifan oedd yr heneb gyntaf yng Nghymru i’w rhestri’n swyddogol, yn 1884, ar ôl ymweliad gan Augustus Pitt-Rivers. Mae’n dal i syfrdanu pawb heddiw. A galla i gadarnhau ei fod yn werth ei weld cyn marw.