Aber, prifddinas llên
Ar 31 Hydref cyhoeddodd UNESCO bod Aberystwyth/Ceredigion wedi ennill statws ‘dinas llenyddiaeth’, gan ymuno â rhai cannoedd o leoliadau eraill ledled y byd a gydnabyddir am eu ‘ymrwymiad i ddiwydiannau creadigol a bywyd diwylliannol’. (Does dim ‘dinas’ gonfensiynol yn yr ardal, wrth gwrs, ond mae’n bosib dadlau bod Aberystwyth yn rhyw fath o ‘ddinas-wladwriaeth’, fel Athen yn yr hen Roeg, gyda Cheredigion yn gyfateb i hen Atica.)
Yng ngeiriau Mererid Hopwood, un o arweinwyr cais Aber
Fel y fro gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae arwyddocâd y dynodiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd y tu hwnt i Aberystwyth a sir Ceredigion ac i’r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gyfle i atgyfnerthu’r diwylliant llenyddol cyfoethog ry’n ni’n ei fwynhau yma a’i rannu â’r byd. ‘Mynd o’ch gwobr at eich gwaith’ yw’r dywediad Cymraeg, ac yn sicr rydym ni’n edrych ymlaen yn awr at wynebu’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r fraint sylweddol hon.
Rhaid canmol yr ymdrechion diflino gan y bartneriaeth y tu ôl i’r cais, a chydlynydd y cais, Elinor Gwynn. Ond i’r rhai sy wedi byw neu weithio yn Aberystwyth a Cheredigion ddaeth y cyhoeddiad ddim fel syndod mawr. Am flynyddoedd maith bu’r ardal yn fwrlwm o weithgareddau llenyddol yn y ddwy iaith, ac yn ganolbwynt i fàs critigol o sefydliadau cyhoeddus a masnachol sy’n cynnig sylfaen cadarn i ddiwylliant o ddarllen ac ysgrifennu.
Cartref yw Aberystwyth, wrth gwrs, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (un o’r ychydig lyfrgelloedd cenedlaethol nas lleolir ym mhrifddinas ei wlad), Cyngor Llyfrau Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd. Yn Nhalybont lleolir un o’n gweisg pwysicaf, Y Lolfa, ac yn Aber gallwch ymweld â nifer o siopau llyfrau ardderchog. Yn y 1950au bu’r llyfrgell gyhoeddus yn arloesi yn ei gwasanaeth symudol, fel ffordd i ddod â llyfrau i berfeddion y sir, ac mae’i faniau’n dal i ymweld heddiw. Bu llu o lenorion yn yr ardal, o Dafydd ap Gwilym, trwy T. Gwynn Jones a Gwenallt, i Caryl Lewis, Mihangel Morgan a Mererid Hopwood, a llawer mwy. Does yr un dref neu ddinas yn y wlad sy’n gartref i gynifer o feirdd Cymraeg – 300 ohonynt, yn ôl trefnwyr y cais – a hynny mewn ardal sy’n llai poblog na’r rhan fwyaf o siroedd yng Nghymru.
Digwyddodd imi fod yn Aberystwyth y diwrnod cyn y cyhoeddiad, a phrynu llyfr bach yn Ystwyth Books o’r enw Cerddi Bardd y Dre gan Eurig Salisbury. Cyfrol yw hon sy’n cynnwys rhai o’r cerddi – yn Gymraeg gan amlaf, er bod nifer o addasiadau Saesneg – a ysgrifennodd Eurig yn ystod ei dymor fel Bardd Tref Aberystwyth rhwng 2023 a 2025 (Hywel Griffiths yw’r Bardd erbyn hyn). Ynddi ceir nifer o gerddi mawl, gan gynnwys, yn ddigon addas, rai sy’n clodfori meiri Aberystwyth, marwnadau i fawrion y sir, a cherddi am ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr y dref. Yn ôl Eurig, dyma oedd y tro cyntaf i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru benodi ‘bardd y dref’.
Does dim dwywaith na yw ennill statws ‘Dinas Llên’ yn cadarnhau ac yn dathlu rôl Aber a Cheredigion fel ‘canolfan y gair’. Ond, wrth ddarllen Cerddi Bardd y Dre, gall rhywun synhwyro, o bosib, fod gan y fro dipyn mwy i’w gynnig i’r byd na thraddodiad hir a chyson o lenyddiaeth. Er enghraifft, mae nifer o’r cerddi yn y llyfr yn sôn am ogwydd rhyngwladol Aberystwyth, fel yr un sy’n dwyn y teitl ‘Croesawu trigolion Saint-Brieuc’:
Mawr groeso draw, Lydawyr! Degemer mat, gyd-wladwyr,
A bienvenue, dramwywyr, gymrodyr glan y môr,
Siaradwn iaith cymdeithas, a thanio’r hen berthynas,
I’n cynnal, llond Pen Dinas o ’wyllys da sy’n stôr.
Mae gan Aber draddodiad hir o edrych llawer y tu hwnt i Gymru, y DU ac Ewrop, fel sy’n amlwg i unrhyw ymwelydd sy’n sylwi ar y baneri o bedwar ban y byd sydd i’w gweld ar hyd y Prom trwy’r flwyddyn. Sefydlwyd y Gadair gyntaf oll mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y Brifysgol dros ganrif yn ôl, yn 1919, ac mae cenedlaethau o fyfyrwyr o dramor wedi cyfoethogi bywyd y dref ac agor llygaid y trigolion i orwelion ehangach.
Thema arall sy’n codi o’r llyfr yw heddwch, mewn byd sy’n ymhell iawn o fod yn heddychlon ar hyn o bryd. Yn ‘Y gofeb’, mae’r ferch ar ben cofeb ryfel Mario Rutelli (1923) ar bwys castell y dref yn cynnig gobaith i bawb:
Goleudy yw hon i galon dyn,
A heddwch ydi’r golau sy’n
Disgleirio ohoni, wynt a glaw,
Yn obaith inni, ’waeth beth ddaw.
Yn ei nodyn i’r gerdd hon, dywed Eurig, ‘Yr unig ffordd i sicrhau na all yr un erchyllterau ddigwydd eto yw drwy wneud heddwch yn flaenoriaeth.’
Eto, bu heddwch yn agos i galon pobl Aber ers achau. Mae ‘Y gofeb’ yn dwyn ar gof pobl fel T. Gwynn Jones and T.H. Parry-Williams, ill dau’n wrthwynebwyr cryf i’r ysbryd ffyrnig o blaid mynd i ryfel yn 1914, ac mae Mererid Hopwood, sy’n achub ar bob cyfle i annog agweddau heddychlon, yn helpu i gadw’r traddodiad yn fyw heddiw.
Tybed a ydy hi’n bosib bod cymuned agos atoch fel Aber, sy’n cofleidio a pharchu ysgrifennu a darllen – gweithredoedd sy’n cwestiynu meddwl cydffurfiol ond sydd hefyd yn meithrin golwg empathetig – yn fwy tebygol o greu cymdeithas flaengar a gwâr?



