Nelan a Bo

February 21, 2025 0 Comments

Nelan a Bo yw trydedd nofel Angharad Price.  Ynddi mae’n mynd nôl i’w chartref gyntaf, Rhos Chwilog, ar bwys pentref Bethel yn Arfon.  Llecyn bach iawn – rhaid troi at y map manylaf er mwyn rhoi’ch bys arno – ond, efallai yn union oherwydd hynny, lle arbennig yn hanes yr awdur, fel esboniodd hi mewn cyfweliad yn rhifyn Rhagfyr/Ionawr cylchgrawn Barn:

A dwi’n cofio’r teimlad ’na o ryddid, o redeg drwy gaea o’dd ddim wir yn perthyn i neb, neu felly oeddan ni’n teimlo.  Oeddan nhw’n gaea g’lyb, anial, ond eto, i ni, oeddan nhw’n cynrychioli rhyw antur a rhyddid.

Hanes personol, felly, ond hefyd hanes o bwys crefyddol a diwydiannol ehangach.  Amser y nofel yw’r cyfnod allweddol rhwng 1799 a 1808 pan welwyd newid mawr yng Nghymru, o ran twf Anghydffurfiaeth ledled y wlad, a thwf y diwydiant llechi yn y gogledd-orllewin.  Amser anodd, pan oedd bywyd yn galed a byr i bawb ond i’r mwyaf breintiedig yn y gymdeithas.

Dyw’r ddau brif gymeriad ifanc ymhell o fod yn freintiedig.  I’r gwrthwyneb, mae Nelan a Bo’n dioddef tlodi a newyn, ac yn waeth byth, teuluoedd sy’n bell o fod yn gariadus a chefnogol.  Yn y ddwy bennod gyntaf o’r nofel cawn olwg ar fywyd y ddau yn eu cartrefi anghartrefol.  Mae dannedd Bo (Boas yn llawn) yn clecian trwy’r amser – ‘saethodd yr oerni i fyny’i goesau a bu bron iddo weiddi mewn poen’, ac mae Nelan yn byw mewn ofn gyda’i Nain arswydus a’i thad Harri, dyn aflednais ers i’w wraig adael y tŷ, sy’n gweld yn ei ferch dim ond baich economaidd annioddefol ar yr aelwyd.

Ond mae gan Nelan a Bo gysur mawr: cyfeillgarwch.  Ffrindiau agos ydyn nhw, a heddiw maen nhw’n addo hala’r diwrnod gyda’i gilydd yn eu ‘cuddfan’ neu ffau, lle bach cyfrin ar y rhostir sy’n hysbys iddyn nhw a neb arall.  Mae Bo yn dwyn afal i’w roi yn anrheg i Nelan pryd gwêl hi.  Arhosa Nelan, ond mae Bo yn hwyr yn ymddangos.  Aeth e i’r ffair, a ffeindio hedyn sycamorwydden anarferol, oedd wedi glanio yn ei wallt fel ‘angel’.  Roedd rhywun diarth, yn ôl Nelan, wedi creu llanastr yn y ffau – y diafol, siŵr iawn, medd hi.  Ymlaen â nhw wedyn i’r Gors:

Yn ddyfnach ac yn ddyfnach i’r Gors yr aeth y ddau fach, eu pennau golau a thywyll yn fflachio dan haul Medi.  Rhedeg.  Llamu.  Chwarae.  Canu.  Roedden nhw wrth eu bodd yng nghwmni’i gilydd.  Cnu bras yn sownd mewn ysgallen.  Buwch goch gota ar bigyn brwynen.  Gwas y neidr yn gorffwys ar gorsen.  Ac roedd popeth wrth law i danio’r dychymyg.  Roedd yna gangau coed yn gleddyfau.  Baw defaid yn beli canon.  Esgyrn sychion yn arfau.

Yn y penodau cynnar hyn cawn lun meistrolgar o fywyd y ddau gyfaill ifanc, yn bell o gwmni oedolion ac yn ymhyfrydu yng nghwmni ei gilydd, yn eu gemau a’u caneuon, ac yn y byd natur – lle mae’r ffin rhwng realiti’r byd a gwlad y dychymyg a’r arallfydol yn un tenau.  (Ar y Lôn Clai mae Nelan yn cwrdd â Lwsiffer,  ‘yn dŵad amdani.  A chlogyn hir o fflamau tân yn hongian amdano.’)

Ond all y Eden hon ddim para.  Mae Nelan a Bo’n aeddfedu’n gyflym, gan fod plentyndod mor fyrhoedlog ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  I Nelan mae Lwsiffer yn trawsnewid i Seffora, hen wraig annibynnol sy’n gwybod am feddyginiaethau ac sydd ag enw yn y gymuned o fod yn wrach.  Ar ôl marwolaeth Harri a Nain – mae diwedd Harri’n hynod hunllefus – hi sy’n cymryd Nelan o dan ei tho a’i hadain, a dangos iddi’r cynhesrwydd a’r arweiniad oedd yn absennol o’r blaen.  Gweithio yn y chwarel, yn anorfod, yw ffawd Bo.  I ddechrau mae’n wynebu bwlio gan ei gydweithwyr, ond cyn hir mae’n ffindio niche iddo e ei hun fel holltwr llechi.  Ac felly mae Nelan a Bo yn colli cyswllt.

Yn nes ymlaen mae’r ddau’n dod i uniaethu ag achosion gwahanol: Bo yn ymdrechion y chwarelwyr i wrthsefyll gorthrwm Thomas Assheton Smith, perchennog y chwarel, Nelan yn y mudiad anghydffurfiol sy’n cynnig rhyw fath o obaith, er yn y byd nesaf, a dihangfa o fywyd hagr a digysur y trigolion.  Creu darlun byw iawn mae Angharad Price o apêl y crefyddwyr newydd, a’u hymdrechion i sefydlu capel newydd, Capel Bethel.  (Wrth edrych ar gapeli mawr, addurnedig heddiw, ein tuedd yw anghofio iddyn nhw ddechrau fel arfer fel adeiladau bach, dinod.)

Gellir rhagweld yn ddigon hawdd sut yn y pen draw bydd Nelan a Bo yn ailafael ym mherthynas eu blynyddoedd cynnar.  Rhagweld hefyd na fydd eu hanes yn cyrraedd diweddglo cwbl hapus.  Dyw cariad, wedi’r cyfan, ddim yn ddigon cryf i wrthsefyll stormydd hanes y cyfnod.

Cyfuniad medrus yw Nelan a Bo o stori bersonol (deimladwy, ramantaidd) a chronicl hanesyddol (realistig, diaddurn). Yn fuan iawn mae’r darllenydd yn dod yn gyfarwydd â’r cyfnod, er nad yw Angharad Price yn gorlwytho’r naratif â gormod o fanylion hanesyddol (yn hyn o beth mae hi’n debyg i’r nofelydd meistrolgar Penelope Fitzgerald).

Gall y ffeithiau hanesyddol fod yn ddirdynnol.  Dyw hi ddim yn hawdd darllen y penodau sy’n ymwneud â Harri: ei driniaeth greulon o Nelan, ei ran yn yr ymladd ceiliogod, a’i farwolaeth ar ôl llusgo llwyth o dywod o’r môr i fyny’r rhiw.  I raddau helaeth, iaith y nofelydd sy’n gyfrifol am yr effaith emosiynol ar y darllenydd: iaith gyfoethog ac ystwyth.  Defnyddia Angharad Price nifer o gyweiriau gwahanol yn y nofel: iaith delynegol yn y penodau cyntaf i gyfleu profiadau plentyndod, iaith y chwarel a’r chwarelwyr, ac iaith y capelwyr angerddol newydd:

‘Chwaer annwyl,’ galwodd i’r adwy a adawodd o’i hôl.  ‘Cofia eiriau’r efengyl: A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr!’

A chan adfeddiannu’i hun, trodd at y gynulleidfa i feistroli a chyfeirio’r emosiwn cryf a oedd ar led yn y gegin – at weddi i’w hadrodd ynghyd, ac at erfyniad am fendith.

Fues i erioed ym Methel yn fy mywyd, hyd y gwn i.  Ond mae’r profiad o ddarllen Nelan a Bo yn atgoffa rhywun ei bod hi’n bosib i nofelydd eithriadol ddawnus gloddio o dan wyneb bro fel y mae heddiw, a darganfod cymuned golledig o’r oes a fu, yn fyw yn ei holl galedi a gogoniant. (Ymddengys cigfran annaearol yn achlysurol trwy’r nofel fel dolen gyswllt rhwng y ddwy oes.)  

Prawf o lyfr gwirioneddol ragorol yw dymuniad y darllenydd, yn syth ar ôl cyrraedd y diwedd, i fynd yn syth nôl i’r dudalen gyntaf, a dechrau eto. Mae hynny’n wir, heb os, am y nofel hon.

Angharad Price, Nelan a Bo, Y Lolfa, 2024, ISBN 978 1 80099 385 3, £9.99.

Leave a Reply