Tag: nofelau Cymraeg
Nelan a Bo

Nelan a Bo yw trydedd nofel Angharad Price. Ynddi mae’n mynd nôl i’w chartref gyntaf, Rhos Chwilog, ar bwys pentref Bethel yn Arfon. Llecyn bach iawn – rhaid troi at y map manylaf er mwyn rhoi’ch bys arno – ond, efallai yn union oherwydd hynny, lle arbennig yn hanes yr awdur, fel esboniodd hi mewn […]
Trais yn y pentra

Yn gynnar yn Afal drwg Adda, hunangofiant Caradog Prichard, daw brawddeg sy’n codi ael y darllenydd: Hyd yma [canfod ei fam yn mynd yn ffwndrus] yr oeddwn yn eofn a hunan hyderus, yn ymladdwr ffyrnig ac wedi ennill enw fel tipyn o fwli yn yr ysgol ac ymhlith hogiau’r ardal. Yn ôl pob sôn, cymeriad […]
Gwirionedd

Ffordd ddigon cyffredin o ganmol llyfr yw dweud pethau fel ‘allwn i ddim ei roi i lawr tan y diwedd’, neu ‘darllenais i’r nofel hon mewn prynhawn, roedd hi mor afaelgar’. Nid felly y darllenais i Gwirionedd, nofel gyntaf Elinor Wyn Reynolds. Ar ôl cwpwl o dudalennau doedd dim dewis ‘da fi ond rhoi’r llyfr […]
‘Llyfr Glas Nebo’: dystopia/wtopia

Pan ofynnodd Cymru Fyw i nifer o lenorion yn ddiweddar am enwebu’r llyfrau y bydden nhw’n eu dethol i’r hosan ’Dolig, un llyfr safodd allan: Llyfr Glas Nebo, nofel fer gan Manon Steffan Ros a enillodd y Fedal Ryddiaith eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Bu 2018 yn flwyddyn aur i’r nofel Gymraeg, debyg iawn. Ar […]