1 Dryw
Codi’n raddol y mae’r llwybr o’r traeth. A finnau yng nghanol fy negawd olaf o dringo’r llethr yn fy sgidiau rhedeg, bron ar unwaith bydda i’n ymladd am wynt, cyn bod y llwybr yn mynd yn fwy gwastad a rhoi digon o nerth imi allu wynebu’r grisiau serth tuag at ben Trwyn y Gragen Wen.

Y gwynt, fel arfer, sy’n rheoli fy hynt, a fy hwyl. Gwynt teg o’r gorllewin sydd y tu ôl imi fel rheol, ond yn y gaeaf gall hyd yn oed awel fain o’r dwyrain hala’r oerni trwy fy nhracwisg a chrys-T at y croen crynedig. Ond heddiw mae’r awyr yn berffaith lonydd. Newydd godi ei ben mae’r haul di-wres dros y môr. Does neb arall o fewn golwg, naill ai ar y llwybr neu ar y traeth islaw.
Ym mhwll y gaeaf fel heddiw dyw’r adar sy’n weddill yn y wlad ddim yn awyddus i ymddangos yn gyhoeddus, heblaw am y gwylanod a’r brain, dynion caled yr awyr. Ar y cyfan mae’r lleill yn cwato’n isel yn y llwyni, gan dwrio am fwyd hwnt ac yma, ac aros am ddyddiau gwell i ddod. Un o’r ychydig adar sy’n ymhyfrydu yn y tywydd oer yw clochdar y cerrig, sy’n gwibio rhwng canghennau uchaf eithin a rhyddhau ei gân stacato electronig.
Felly doeddwn i ddim yn disgwyl baglu dros aderyn o unrhyw fath. Ond yn sydyn dyma gyffro yn y clawdd, sgrech uchel iawn, ac aderyn brown, bach bach yn fflachio ar draws y llwybr i ymguddio yng ngwreiddiau’r clawdd ar yr ochr arall. Wedyn, distawrwydd. Saethodd y creadur yn rhy gyflym imi allu cael golwg manwl arno. Ond doedd dim amheuaeth, o ystyried ei faint a’i gân. Dryw oedd hwn. Un o’n adar mwyaf cyffredin, ond un sy’n osgoi sylw.
Dim awydd ganddo, felly, i ddweud helo, heb sôn am gael gair bach brawdol. I’r gwrthwyneb, roedd mwy na thinc o ddiffyg amynedd a thymer flin yn ei ymddygiad. Ond rhaid parchu’r aderyn bach hwn, sy’n cadw ei ben i lawr a meindio ei fusnes, gan ffoi o’r bwystfilod mawr sy’n stampio o’i gwmpas?
2 Bronfraith
Bore arall ar y llwybr, nid nepell o gynefin y dryw. Eto, gwrychoedd ar y ddwy ochr. Dim ond ychydig o wynt. Y ddwy droed eto yn ymlwybro yn llafurus lan y ffordd. Yma, rhaid cadw llygad ar y llwybr o’ch blaen, sy’n anwastad, â cherrig peryglus i’ch baglu a phyllau o’r glaw dros nos. Felly allwn i ddim peidio â sylwi siâp aderyn yn sefyll ar y llwybr o’m blaen i.

Nid aderyn cyffredin mo hwn, ond ffigwr tal, urddasol, yn dal ei ben yn uchel ac yn chwyddo ei frest frith o’i flaen. Safodd yn stond yng nghanol y ffordd. Edrychodd arna i heb droi i’r chwith na’r dde. Stopiais innau, yn syth ar ôl imi sylweddoli taw bronfraith oedd hon. Dyw cân faróc y fronfraith ddim yn anghyffredin yn y fro hon, o leiaf yn y parthau coediog, ond yn anaml iawn bydda i’n dod wyneb yn wyneb ag un.
Felly dyma’r ddau ohonon ni, yn sefyll yn ddisymud, yn syllu i lygaid ein gilydd, am funud neu fwy, heb wneud sŵn. Dim arwydd o swildod neu ddiffyg hyder ar ran yr aderyn, dim ond chwilfrydedd amlwg. Pwy ar y ddaear oedd y penmoelyn hwn, yn ei siorts llwyd a tracsiwt-top hynafol a choesau annaturiol wyn? Pam ei fod yn cymryd diddordeb yno i, heb ymgais i fy nychryn neu fy nal? Ac aeth cwestiynau tebyg trwy fy meddwl i. Pam eich bod chi’n dal eich tir mor ystyfnig? Does gennych ddim nith neu blant i’w amddiffyn, yr adeg hon o’r flwyddyn, nac oes? Welsoch chi ddim rhedwr erioed o’r blaen?
Gallwn ni fod wedi parhau i groesholi ein gilydd yn ddistaw am funud arall. Ond yn ddisymwth dyma ferch yn rhedeg tuag aton ni o’r cyfeiriad arall. Roedd hi’n canolbwyntio am ei symudiadau a’i hanadlu, a welodd hi mo’r fronfraith, tan ei bod hi’n rhy hwyr. Cafodd yr aderyn fraw, a diflannu yn syth. Camais i o’r neilltu er mwyn iddi hi gael pasio a gwibio i’r pellter. Roedd yr hud wedi’i chwalu.
3 Brân
Bore Sul gwahanol, ond cymylog a gwyntog y tro yma. Tywydd perffaith i’r gwylanod a’r brain, sy’n codi a throelli’n uchel ar yr awelon. Gwelaf frain yn aml iawn ar lwybr yr arfordir, lle maen nhw’n chwilota’r llethrau calchfaen rhag ofn bod rhyw anifail bach wedi colli ei fywyd yn ddiweddar neu fod celc o hadau ar gudd yn y llwyni.

Peth cyffredin hefyd yw dod ar draws brân unigol yn sefyll ar y ffens ar ochr y llwybr, yn sganio’r dirwedd yn astud. Bron bob tro, bydd ein cyfarfod yn dilyn yr un patrwm. Wrth imi redeg y nes ato, mae’n dal at ei safle, ond unwaith bod fy sgidiau’n dod ochr yn ochr ag e, mae’n lledu ei adenydd a chodi – nid fel arfer yn syth i’r awyr, ond i’r ochr, i lanio yn is i lawr y llethr tuag at y môr, lle gall gadw llygad arna i o hyd o bellter diogel. I bob golwg, mae’n anfodlon iawn i ymadael. Bron y gallai rhywun weld gwên ddirmygus ar ei wyneb.
Ond heddiw dyw’r frân ddim yn symud o gwbl. Mae’n aros ar y ffens, yn gwbl ddigywilydd, ac yn edrych yn syth ata i. Dwi’n dod i stop a throi ato fe. Erbyn hyn dyn ni’n sefyll o fewn troedfedd oddi wrth ein gilydd, ac ar yr un lefel, pig wrth big. Dwi’n syllu i’w lygaid, ac mae ei lygaid yn craffu ar fy wyneb i.
Beth sy’n rhedeg trwy feddwl y frân? O sylwi ar fy nghyflwr corfforol truenus, efallai ei fod yn asesu’r posibilrwydd o wledda ar fy nghnawd maes o law. (Maen nhw wedi lleoli ‘fibrillator’ mewn bocs ar ochr arall y bryn, sy’n dipyn o gysur, ond a fydd unrhyw un o gwmpas, mor gynnar yn y bore, i achub fy mywyd?) Neu ydy Brân mor ifanc a diniwed fel bod cywreinrwydd yn drech na’i reddf i ffoi? Neu ydy e’n aderyn siaradus wrth natur, ond yn methu goresgyn y rhwystr ieithyddol sydd rhyngon ni? Y tro yma, fi yw’r un sy’n torri’r cyswllt, gan redeg i ffwrdd lan y bryn. Ar ôl ychydig dwi’n edrych y tu ôl imi. Mae Brân yn dal i sefyll ar y ffens. Ydy e eisoes wedi ysgubo pob atgof o’n cyfarfod rhyfedd o’i feddwl?
Gyda diolch i Carys Evans a Thomas Bewick am y lluniau.

Leave a Reply to Gill Lewis Cancel reply