Haf 1975: adeilad newydd, gyrfa newydd
Ym mis Medi bûm ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer dathliad pen-blwydd – hanner can mlynedd ers agor Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol (ASSL). Dathliad arbennig i mi, achos dyna le dechreuais i ar fy swydd broffesiynol gyntaf – yn syth ar ôl i’r drysau agor yn yr adeilad newydd hwnnw. (Doedd y dodrefn heb gyrraedd, felly bu raid inni weithio wrth fordydd trestl ar lawr hanner gwag.)
Adeilad trawiadol yw ASSL. ‘Briwtalaidd’ o ran arddull, gyda’i bileri a thrawstiau concrît – ond, er hynny, adeilad golygus, sy’n perthyn i draddodiad modernaidd yr ugeinfed ganrif gynnar. Cyn hynny, prif gartref y Llyfrgell oedd hen adeilad clasurol y Coleg (coleg Prifysgol Cymru oedd e bryd hynny) ym Mharc Cathays. Y pensaer oedd Faulkner Browns, cwmni sy’n dal i fod heddiw. Eu harbenigedd oedd cynllunio llyfrgelloedd academaidd, ac roedd ASSL yn rhan o genhedlaeth o lyfrgelloedd mawr tebyg, megis yn Nottingham a St Andrews.
Chwarae teg i reolwyr y llyfrgell, aethon nhw i drafferth i greu dathliad teilwng. Gwahoddwyd nifer sylweddol o staff y Llyfrgell, staff presennol yn ogystal â hen lawiau. Torrodd yr Is-ganghellor gacen pen-blwydd. Clywson ni nifer o anerchiadau byrion. Daeth luniau hanesyddol o’r archifau. Ces i syndod o weld fy mod i’n ymddangos yn un ohonynt – llun o’r 1970au hwyr sy’n dangos ffigwr ifanc, tenau â gwallt brown a throwsus fflêr, wrthi’n ffeilio cardiau yn yr hen gatalog. Lluniau hefyd o agoriad swyddogol yr adeilad, gyda Reg Bates, y Llyfrgellydd ar y pryd, yn serennu, a lluniau’n dangos yr unedau nenfwd concrît yn cael eu castio ar y safle.
Aethpwyd â ni ar daith ddywysedig o’r adeilad cyfan. ‘Llai o lyfrau, rhagor o seddi’ fu stori ddiweddar y llyfrgell. Ar y cyfan mae myfyrwyr heddiw yn tueddu i ddefnyddio gwybodaeth ddigidol yn hytrach na deunydd print, ac mae pwysau trwy’r amser ar y llyfrgell i ddarparu mwy o seddi astudio (a chyd-drafod). Nôl yn 1975, ymffrost y penseiri oedd bod yr adeilad yn ‘hyblyg’. Hynny yw, o fewn y fframwaith concrît – dim ond ychydig o bileri sy’n dal yr adeilad – byddai’n bosibl addasu’r tu mewn yn ôl anghenion y dydd. A dyna yn union a digwyddodd. Bu newid sylfaenol yn nhrefn dau o’r lloriau. Ac eto nid yw’r cyfan wedi’i drawsnewid.
Catalogio oedd fy ngwaith ar y dechrau yn 1975 – anodd credu heddiw, ond gwaith crefftus, astrus oedd catalogio llyfrau y dyddiau hynny – cyn symud i gyfres o swyddi mwy cyfrifol. Fy ffefryn oedd y ‘Reader’s Adviser’. Yn y swydd honno, fy unig ddyletswydd, ar wahân i gynnal y casgliad o lyfrau cyfeiriadol, oedd eistedd y tu ôl i’r cownter a cheisio ateb cwestiynau gan y darllenwyr. Doedd dim rhyngrwyd, dim Gwe Fyd-eang, dim Wicipedia yr adeg honno, a bu raid defnyddio sgiliau proffesiynol a thipyn o ddyfeisgarwch er mwyn cynnig ateb boddhaol o ffynonellau print. Amser bendigedig oedd yr 1980au. Mae gen i lun o staff ASSL yn sefyll mewn rhes ym Mharc Cathays, ar ôl ein priodas yn haf 1980 ac yn dal cadwyn o gardiau catalog oedd yn sillafu’r gair ‘Congratulations’. Ychydig o ddiddordeb oedd gan y Llyfrgellydd mewn gwybodaeth neu addysg neu lyfrau – cyfrifydd oedd e wrth natur – ond yn union oherwydd hynny roedd e’n fodlon i ni’n llyfrgellwyr ifainc, brwdfrydig ac egnïol ddilyn ein trwynau a chyflwyno gwasanaethau newydd. Roedd y llyfrgell yn arloesol o ran datblygiadau cyfrifiadurol, ac ennillodd enw am fod yn flaengar.
Noson gofiadwy, felly, o gwrdd â hen ffrindiau a chyd-weithwyr, a hel atgofion. Ond hefyd, profiad rhyfedd. Treigl amser, wrth gwrs, sy’n gyfrifol am yr elfen o dristwch yn y dathlu. Mae sawl un o gyfnod cynnar yr adeliad wedi ein gadael. Dim ond ddeuddydd cynt bu farw fy nhreolwraig gyntaf, pennaeth catalogio. Ond roedd rhywbeth arall ar fy meddwl. Fel yr oedd gan yr adeilad ddwy agwedd imi – un oedd yn ddigon cyfarwydd o’r 1970au, y llall yn hollol newydd – roedd fy atgofion amdano hefyd yn ddeublyg. Rhai atgofion yn gywir, siŵr o fod, gan fod y lleill oedd yn cofio’r digwyddiadau hanner can mlynedd yn ôl yn gallu eu cadarnhau – neu achos bod tystiolaeth yn goroesi ar bapur. Wedyn, ambell atgof sy’n ymddangos yn ddilys i mi, ond does gen i ddim prawf iddynt ddigwydd mewn realiti. A beth am y profiadau a theimladau eraill, llawer mwy niferus, sy wedi mynd yn anghof? Oedd yr 1980au yn wirioneddol mor bleserus yn y gwaith ag dwi’n eu peintio? Rhaid cyfaddef fy mod i wedi anghofio enwau llawer o’m cyd-weithwyr erbyn hyn – ac, yn waeth na hynny, wedi anghofio am eu bodolaeth. Y gwir yw bod fy nghwybodaeth am y cyfnod yn rhyw fath o gawl o atgofion carpiog ac annibynadwy.
Onid yw’n beryglus i ailymweld â’ch gorffennol pell?




