Morfydd Llwyn Owen a Ruth Herbert Lewis

January 6, 2018 2 Comments

Faint o bobl sy’n ymwybodol bod un o’r mynwentydd gorau yng Nghymru i’w gweld oddi ar Newton Road, Ystumllwynarth?  Ac o’r rheiny, faint sy’n gyfarwydd â’r gofeb urddasol sy’n llechu mewn cornel anghysbell o’r fynwent, fel na fyddai ymwelydd sy’n troedio’r llwybrau yn sylwi arno?  Cyfeirio ydw i at fedd y gyfansoddwraig ifanc Morfydd Llwyn Owen (bu iddi hi ragori hefyd wrth ganu a chanu’r piano).

Eleni efallai bydd ychydig mwy o bobl yn gwneud y bererindod i’r lle.  Ar 7fed Medi bydd can mlynedd wedi pasio heibio ers marwolaeth sydyn Morfydd.  Roedd hi ond yn 26 mlwydd oed, ac ym marn llawer roedd hi ar fin dod yn gyfansoddwraig o fri, ar ôl cwblhau nifer o weithiau meistrolgar, gan gynnwys rhai i gerddorfa, grwpiau siambr a phiano, ac yn arbennig caneuon.  Yn ein dyddiau ni does neb sy wedi gwneud mwy i ymchwilio, cyhoeddi a dathlu gwaith Morfydd na Rhian Davies, ac iddi hi mae’r diolch am y diddordeb newydd ynddo.

Ganwyd Morfydd yn Nhrefforest, ond Llundain oedd ei chartref fel oedolyn ifanc, a lle cafodd hi gefnogaeth i’w bywyd ac ysbrydoliaeth i’w gwaith.  Mae’n debyg bod ganddi fanteision yn y ddinas fawr – ei thalent gerddorol amlwg, ei phersonoliaeth fagnetig a’i harddwch – ac fe wnaeth hi ffrindiau lu, ymysg Cymry Llundain ond hefyd rhai o’r avant-garde diwylliannol, fel D.H. Lawrence ac Ezra Pound.  Ar 6 Chwefror, yn ddisymwth, priododd hi Dr Ernest Jones, dyn yn wreiddiol o Dre-gŵyr, a disgybl a chofiannydd o Sigmund Freud.  Roedd adwaith ei theulu a’i chyfeillion yn negyddol iawn.  Iddi hi roedd y berthynas yn un anhapus.  Bu bron iddi roi gorau i gyfansoddi.  Roedd Jones yn ystrydebol o batriarchaidd ac yn feirniadol o’i gyrfa annibynnol, ac fel anffyddiwr yn oeraidd tuag at ei ffydd Gristnogol gadarn.  Syrthiodd hi i bwl o iselder ysbryd.

Roedd y ddau’n aros gyda rhieni Jones yn y Mwmbwls yn 1918 pan syrthiodd Morfydd yn ddifrifol wael.  Mae amgylchiadau’n aneglur iawn.  Llid y pendics oedd yr afiechyd, mae’n debyg.  Triniwyd Morfydd gan ei gŵr, heb fynd i ysbyty.  Aeth rhywbeth mawr o’i le, o bosib gyda’r anesthetig.  Bu hi’n farw yn y tŷ. 

Claddwyd Morfydd mewn seremoni dawel iawn ym mynwent Ystumllwynarth, a threfnodd Jones gofeb anarferol i’w choffau.  Ei helfen amlycaf yw slab tal plaen o dywodfaen coch, ac ar ei ben groes Geltaidd seml (Jones yn ildio i grefydd am unwaith?).  Wedi’i arysgrifio ar wyneb y garreg mae dyddiadau geni a marw Morfydd (y dyddiad geni’n anghywir), ond hefyd dyddiad ei phriodas (yn amlwg yn ystyrlon i Jones).  Ac wedyn mae dyfyniad enigmatig o Faust gan Goethe,

Das Unbeschreibliche
Hier ist’s getan

Yn llythrennol, ‘yr annisgrifiadwy, yma y gwnaed’.  Esboniodd Jones yn ddiweddarach fod  y darn yn cyfeirio at y poen ‘annisgrifiadwy’ o gael ei amddifadu o’i gariad.  Ond mae’n anodd peidio â chytuno â Rhian Davies sy’n awgrymu bod y geiriau hyn yn cuddio teimladau llawer mwy cymhleth a hunanfeirniadol. 

Bydda i’n ymweld â bedd Morfydd Llwyn Owen yn weddol aml.  I mi mae’n brofiad rhyfedd bob tro.  Un rheswm yw bod y gofeb, yn ei deunydd a’i gwedd fel ei gilydd, yn ymddangos yn oeraidd, yn orffurfiol ac yn wrywaidd iawn.  At hynny, allwch chi ddim dod yn agos i deimlo presenoldeb y ferch eithriadol hon – oherwydd presenoldeb ei gŵr, sy’n sefyll rhwngoch chi a hi, gan reoli’r berthynas yn llwyr: dyn oedd yn methu â chofleidio talent a photensial creadigol ei wraig.

Un o Gymry Llundain a gynigiodd croeso i Morfydd yn ei dyddiau cyntaf yn y ddinas oedd Ruth Herbert Lewis.  Un â’i gwreiddiau ar Ynys Manaw oedd Ruth, a phriod i John Herbert Lewis, aelod seneddol dros y Rhyddfrydwyr ac un o’r dynion oedd yn gyfrifol am sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Yn ei nofel am Morfydd, Fel yr haul (2014) mae Eigra Lewis Roberts yn dangos Ruth fel matriarch lem – ei merch Kitty oedd y prif gyswllt gyda Morfydd – ond mae’n amlwg bod ganddi bersonoliaeth ymchwilgar a bywiog.  Ei phrif ddiddordeb oedd casglu cerddoriaeth werin Cymru – er gwaetha’r ffaith nad oedd hi’n hyddysg mewn cerddoriaeth nac yn gwbl rugl yn y Gymraeg – trwy recordio lleisiau ac offerynnau ar silindrau cwyr.

Dyna wrth gwrs oedd oes aur casglu cerddoriaeth werin, trwy Ewrop i gyd.  O 1905 ymlaen bu Béla Bartók a Zoltán Kodály ar grwydr yng nghefnwlad Hwngari a Romania, yn casglu tonau ar ffonograff cyn eu bod nhw’n diflannu.  Yn Lloegr yn 1906 a 1908 dangosodd Percy Grainger i aelodau’r Folk Song Society sut i ddefnyddio’r ffonograff i recordio caneuon gwerin a gasglodd yn Swydd Lincoln ac ardaloedd eraill.  Yn fuan iawn roedd Cecil Sharp a Ralph Vaughan Williams yn cerdded yn ôl ei draed.

Bu Ruth yn aelod cynnar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru a sefydlwyd yn 1906.  Yn haf 1910 prynodd hi ffonograff symudol (Edison Bell ‘Gem’).  Dechreuodd hi recordio lleisiau cantorion, i ddechrau yn ardal ei chartref, Penucha ger Caerwys – mae’n bosib aros yn y tŷ hyfryd hwn heddiw – ac wedyn trwy Sir y Fflint a Sir Ddinbych.  Rhyw 150 o’r recordiadau sy’n goroesi ar silindrau cwyr – yr enghreifftiau cynharaf o recordiadau maes sy’n cofnodi cerddoriaeth werin yng Nghymru.

Helpodd Morfydd Llwyn Owen yn y gwaith arloesol hwn, yn arbennig trwy drawsgrifio’r geiriau o rai o’r caneuon, a gwneud trefniannau ohonynt.  Mae’n bosib bod digon o dystiolaeth ym mhapurau Ruth Herbert Jones (yn Amgueddfa Cymru) a Morfydd Llwyn Owen (yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd) i alluogi ymchwilydd i daflu mwy o oleuni ar y cysylltiad diddorol hwn.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Gwilym Wynne Hughes says:

    Andrew,

    Nice to locate you after many years!
    John Herbert Lewis was my grandmother’s cousin (mothers were sisters). The entry in the DWB is in fact wrong. His mother was Catherine and Elizabeth (her sister) was my great grandmother!

    Carry on with the good work.
    All the best, Gwilym (still Cardiff!)

    • Andrew Green says:

      Gwilym, what a surprise! It’s great to hear from you, after all this time (nearly 30 years?) What distinguished ancestry you have. Cofion cynnes, A.

Leave a Reply