Llyfrgellwyr: dal yma

April 29, 2013 0 Comments

caerphilly public libraryDyw hi ddim yn hawdd ar hyn o bryd i bobl sy’n gweithio yn y rhannau hynny o’r sector cyhoeddus sy ddim yn ‘wasanaethau hanfodol’.  Er bod dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon’ i’w cyhoedd, dros y blynyddoedd mae’r gwasanaeth hwnnw wedi edwino – a hynny er gwaetha’r ffaith taw un o’r gwasanaethau dewisol mwya poblogaidd yw e.  Er enghraifft, mae nifer yr adeiladau a’r nifer o lyfrgellwyr proffesiynol ill dau wedi gostwng.  A dyw’r pwysau ariannol ddim am golli ei afael eto, mae’n amlwg.

Yn ddiweddar bûm yn ddigon lwcus i fod yn un o’r beirniaid ar gyfer gwobr ‘Llyfrgellydd Cymreig y Flwyddyn 2013‘.  Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth hon gael ei threfnu, o dan adain CILIP Cymru.  Ar y cyfan dyw cystadlu ddim yn apelio rhyw lawer i lyfrgellwyr, sy’n bobl ddiymhongar a chydweithredol wrth reddf, ond mae’n briodol iawn ein bod ni’n dathlu llwyddiant – yn arbennig mewn oes sy’n llawn pryder ac ansicrwydd.

Bydd enwau’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod cynhadledd flynyddol CILIP Cymru ar 16-17 Mai yng Nghaerdydd.

Doedd dim llawer iawn o gystadleuwyr eleni, ond o ddarllen yr enwebiadau a hanes yr unigolion ifainc mae rhywun yn dechrau gwerthfawrogi gymaint y maent wedi ei gyflawni – a chymaint o rwystrau maen nhw wedi eu goresgyn er mwyn cyrraedd lle maen nhw heddiw.  Dau beth sy’n fy nharo yn arbennig:

  • dyw’r llwybr tuag at lwyddiant ddim yn esmwyth nac yn syml.  Collodd un o’r llyfrgellwyr ei swydd yn Lloegr, a bu raid iddo ddechrau o’r dechrau yng Nghymru, gan gychwyn mewn swydd dros dro ac ailadeiladu ei hunanhyder nes cyrraedd swydd fwy boddhaol.  Mae eraill wedi gweithio mewn sawl sector cyn dod i’w swydd bresennol.  Yn wahanol iawn i’r hynt rwydd oedd gan lyfrgellwyr o’r genhedlaeth gynt.
  • yr hyn sydd heb newid mewn llyfrgellwyr yw’r awch i wasanaethu’r cyhoedd hyd eitha eu gallu.  Mae’n amhosibl peidio ag edmygu’n fawr y brwdfrydedd a’r egni amlwg gan bob un o’r cystadleuwyr.  Trwy’r amser byddan nhw’n chwilio am ffyrdd newydd o gyrraedd eu cynulleidfa a chynnig gwasanaethau da.  Ymysg y gweithgareddau a nodir: digido fideos o hanes lleol; trefnu grwpiau darllen ac ymweliadau gan blant ysgol, helpu pobl ddi-gartre a phobl sy’n cael eu taro gan y newidiadau mewn budd-daliadau; dod â darllenwyr Cymraeg (ac ieithoedd lleiafrifol) at ei gilydd; a hyrwyddo a marchnata eu llyfrgelloedd.

Does fawr o ofid felly nad oes cyflenwad da o weithwyr talentog ac ymroddgar sy’n barod i sicrhau gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth rhagorol i bobl Cymru yn y dyfodol.  Y pryder, fodd bynnag, yw a oes digon o ymrwymiad gan wleidyddion, ac yn wir ymysg ein cymdeithas, i gynnal y gwasanaeth llyfrgell yn y dyfodol?  Yma yng Nghymru nid oes llawer o arwydd o ymosodiadau ideolegol ar lyfrgelloedd, mewn mewn parthau o Loegr, ond gall difaterwch a diffyg ymrwymiad arwain at yr un canlyniad: cwymp yn safon y ddarpariaeth, ac wedyn perygl o golli’r gwasanaeth am byth.  Yn rhifyn mis Ebrill o Barn dwi’n rhybyddio am y perygl hwn, a galw ar ein gwleidyddwyr – ar bob lefel, cenedalethol a lleol – i ddiogelu un o drysorau ein cymdeithas.

Leave a Reply