Mae Sion Trefor yn pendwmpian

Mae gwedd y dyn hwn yn fy atgoffa o Wncl Jack, yn ei hen dŷ yn Howden, Swydd Efrog ddwyreiniol, nôl yn y 1960au.  Wedi i’n mam-gu glirio’r ford ar ôl pryd mawr canol dydd a dianc i’r gegin, dyma ein tad a’i frawd yn encilio i stafell dawel yng nghefn y tŷ i orweddian ar gadeiriau breichiau cyfforddus, ein tad gyda’i bib a Jack gyda’i sigaréts.  Ar ôl peth sgwrsio am hyn a’r llall, byddai eu hamrannau yn dechrau gostwng, a chyn hir roedden nhw ill dau ym mreichiau cwsg, Wncl Jack â’i ben yn gorwedd ar ei law a’i anadl yn chwibanu trwy ei fwstas.

Dyw’r dyn hwn, fodd bynnag, ddim yn cael hoe fach cyn bod ar ddihun am weddill y dydd.  Dyw e ddim yn mynd i ddihuno o gwbl, oni bai y bydd yn cael ei atgyfodi ar ddydd y Farn Olaf.  Pwy yw e?  Yn ôl y geiriau Cymraeg ar ei gofadail yng Nghapel Catrin Sant yn Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, ei enw yw Sion Trefor, a fu farw yn y flwyddyn 1589.

Beddrod sy’n tynnu sylw ymwelydd â’r eglwys ar unwaith yw cofadail grand, alabastr Sion Trefor. Ynghanol y gwaith urddasol hwn, sy’n cynnwys arfbais, cyfres o daranau a phenglog asgellog, dyma gerflun paentiedig o’r dyn yn gorwedd ar ei hyd o fewn rhes o bilastrau. Gwelir ei goesau a’i ben, ond nid y rhan ganolog o’i gorff, a guddir gan arysgrif hir.  Dyma ran ohoni:

Sion Trevor, Trevalyn. Ysgweier y 19 o dad i dad o Dudur Trefor, a fu farw yn Lhundain y mis Mehevin 1589. Ei escyrn ef, ei vab a’i aer Syr Richard Trevor a barodd eu mudo i’r feddrod honn i orphwys gyda’i henafiaid, fel wrth ymado a’r byd y dymunodd.  Blynyddoedd ei ieincktid a drosfwriodd ef yn Rhyveloedd Frainck dann Vrenin Henry 8. Ei ganol-fyd gyfoesodd ef yn ymdaith deirth-wledydd. Ei ddiwedd-oes a gartrefodd ef yn Llywodraeth a gwasanaeth ei enedigaeth wlad.

Milwr, felly, oedd Sion yn ddyn ifanc, a ymladdodd ym myddin Harri’r Wythfed  ar y Cyfandir, a dyna sy’n esbonio pam ei fod yn gwisgo gwisg filwrol.  Ef oedd yn gyfrifol am godi, yn 1576, Drefalun, plasty mawr ar safle hen ystâd ei deulu ger Yr Orsedd.  (Mae’r adeilad presennol yn dyddio’n wreiddiol o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.)  Yn ei ewyllys, gadawodd Sion ‘40s. to the work of Gresford church to be used on St. Katherine’s chapel’.  Yn yr un capel heddiw mae cofeb i’r glowyr a gollodd eu bywydau yn nhrychineb glofa Gresffordd yn 1934.

Bu farw Wncl Jack flynyddoedd yn ôl, ond braf oedd cofio amdano, diolch i Sion Trefor, pan fues i yn eglwys Gresffordd – efallai’r odidocaf o’r holl eglwysi canoloesol yng ngogledd Cymru – yr wythnos ddiwethaf.


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.