Mae’n anodd meddwl am lawer o Saeson oedd yn bleidiol iawn i Gymru yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Llawer haws cofio am Saeson gwrth-Gymreig megis comisiynwyr y Llyfrau Gleision yn 1847, dynion diarhebol anwybodus a thrahaus yn eu hagweddau tuag at Gymru a’i phobl a’i hiaith. Roedd Thomas Darlington (1864-1908) yn bell iawn o fod yn Sais o’u bath nhw. Er nad yw ei enw yn gyfarwydd inni heddiw, yn ei oes gwnaeth gyfraniadau sylweddol ar droad y ganrif i addysg a bywyd meddyliol Cymru, ac i iechyd yr iaith Gymraeg.

Ffermwr o Burland, pentref ger Nantwich yn Swydd Gaer, oedd ei dad. Anfonodd Thomas i ysgolion gramadeg yn Acton a Whitchurch, ac wedyn i Ysgol y Leys yng Nghaergrawnt. Ym Mhrifysgol Caergrawnt astudiodd Thomas y clasuron, gan serenni yn yr arholiadau a chipio sawl gwobr (daeth yn Gymrawd o Goleg Sant Ioan yn 1888). Ar ôl blwyddyn yn yr Almaen daeth yn athro yn Ysgol Rugby, cyn cael ei benodi yn 1888 yn brifathro ar Goleg y Frenhines yn Taunton, Gwlad yr Haf.
Hyd yma, felly, gyrfa ddigon cyffredin i ddyn o’i gefndir. Ond yn ystod y blynyddoedd hyn bu Darlington yn magu diddordeb anarferol mewn ieitheg. Erbyn diwedd ei fywyd roedd wedi meistroli dros ddeuddeg iaith: Almaeneg, Ffrangeg, Iseldireg, Fflemineg, Sbaeneg, Eidaleg, Pwyleg, Norwyeg, Swedeg, Daneg, Rwsieg, Romani a Chymraeg. Yr hyn sy’n drawiadol am y rhestr hon yw bod nifer ohonynt yn ieithoedd bach. Roedd gan Darlington ddiddordeb arbennig, mae’n amlwg, mewn gwledydd bychain ac ieithoedd lleiafrifol.

Diddordeb hefyd yn nhafodieithau lleol ei iaith frodorol. Yn 1887 cyhoeddodd yr English Dialect Society ei lyfr The folk-speech of south Cheshire. Y disgrifiad ohono gan James Murray, golygydd yr Oxford English Dictionary, oedd ‘y gwaith mwyaf ysgolheigaidd o’r holl lyfrau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas’.
Roedd Cymru – llai na phymtheg milltir sydd rhwng Burford a’r ffin – hefyd yn agos at galon Darlington. Roedd wedi dysgu Gymraeg yn dair blwydd ar ddeg trwy wersi gan hen arddwr neu was fferm, ac o hynny ymlaen mae’n ymddangos bod Cymru yn rhan annatod o’i ffordd o feddwl. Ymwelai â gogledd Cymru yn aml. Pregethai yn Gymraeg yn ddwyflwydd ar bymtheg oed gyda’r Methodistiaid Wesleyaidd. Bu yn Llanwddyn yn 1885 pan godir yr argae i greu Llyn Efyrnwy, ac yn ôl un o’i gofianwyr:
Ymwelodd â Llanwddyn yn ystod yr adeg yr oedd cannoedd o Saeson a Gwyddelod ac Ysgotiaid yn gweithio ar Gronfa Ddwfr Lerpwl, a bu ei einioes mewn perygl, am eu bod yn tybio mai Cymro ydoedd. Os wyf yn cofio yn gywir, gofynnodd am bryd o fwyd yn un o’r gwestai yn Gymraeg a phan glywodd yr estroniaid ef yn siarad iaith y wlad rhuthrasant arno fel haid o fytheiaid, a bu yn gyfyng iawn arno hyd nes i Sipsiwn oedd yn dygwydd bod yno ei adnabod fel gŵr cyfarwydd yn hanes ac iaith ei henafiaid ef, ac iddo ei waredu o’u crafangau.

Yn ddyn ifanc roedd Darlington wedi dysgu iaith y Romani’n drylwyr, wedi treulio tipyn o amser yn eu cwmni. Enw ei achubwr yn Llanwddyn oedd ‘Weston’, cydnabod iddo a ‘dyn ieuanc o Sipsionyn a thalentog deallus ac ymladdwr anghyffredin’. Yn ôl ei gofiannydd, J.L. Paton,
At College we all looked upon him as a second George Borrow. He had picked up the Gipsy tongue in his teens, tramping for miles after their nomad caravans, squatting with them round their camp fire and making notes inside his coat-flap of any words or idioms that were new to him.
Diau fod Darlington, yn ystod ei gyfnod yn Taunton, yn rhoi ei fryd ar symud i fyw i Gymru. Yn 1891 ymgeisiodd am swydd Prifathro Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth, wedi ymddiswyddiad T.C. Edwards. T.F. Roberts a gafodd y swydd, er i Darlington ddod yn ail a derbyn nifer o dystiolaethau a phleidleisiau o’i blaid. Yn yr un flwyddyn gadawodd yr ysgol yn Taunton, ac ar ôl peth amser yn Llundain symudodd i Gymru gyda’i wraig Annie, i wasanaethu am dair blynedd fel Ysgrifennydd ac wedyn Cofrestrydd Prifysgol Cymru.

Trobwynt yn ei fywyd oedd ei benodiad yn 1896 yn Arolygwr ei Mawrhydi dros Addysg yn y canolbarth (Meirionnydd, Trefaldwyn ac Aberteifi). Symudodd i Aberystwyth, ei gartref wedyn tan ei farwolaeth. Gweithiai’n egnïol yn y swydd. Ceisiai leihau lefel absenoliaeth ymhlith disgyblion ysgolion cynradd, a gwella hyfforddiant i ddarpar-athrawon. Ond ei gyfraniad arbennig yn y swydd oedd hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn ysgolion, ar adeg pryd roedd gwersi fel arfer yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg – a hynny ddeng mlynedd cyn penodiad O.M. Edwards, a farnir gan haneswyr fel arloeswr yr iaith Gymraeg yn y cwricwlwm, yn Arolygwr dros Addysg trwy Gymru gyfan. Mae’n sicr i ymdrechion Darlington ddwyn ffrwyth. Yn ysgolion cynradd Sir Aberteifi roedd y gwersi i gyd yn Gymraeg erbyn 1908, heblaw am ychydig o ysgolion: ysgrifennodd Darlington ganllawiau ar y pwnc i’r prif athrawon ar ran Pwyllgor Addysg y Sir. Asesiad Edward Anwyl o’i impact fel Arolygwr oedd, ‘pe buasai rhai o’i ragflaenwyr wedi cael eu ffordd buasai yr iaith Gymraeg wedi ei llwyr alltudio o’n ysgolion’.
Erbyn diwedd y ganrif roedd Darlington yn ddigon adnabyddus fel addysgwr iddo dderbyn comisiwn gan y llywodraeth i fynd i Rwsia i ysgrifennu adroddiad ar gyflwr ysgolion a phrifysgolion y wlad, gwaith fyddai’n golygu dysgu Rwsieg yn rhugl. Roedd ei adroddiad, a gymerodd sawl blwyddyn i’w gyflawni, yn barod erbyn 1904, ond ni welodd olau dydd cyn ei farwolaeth oherwydd sensitifrwydd gwleidyddol yn y Swyddfa Dramor. Wedi hynny daeth dau gomisiwn tebyg i’w ran, ar addysg yn yr Almaen ac yn y Swistir.

Roedd Darlington eisoes wedi traddodi darlith Gymraeg yn Lerpwl yn 1890, ‘Iaith a chenedlaetholdeb’, yn pledio’r achos dros ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn addysg. Gwrthododd ddiffiniadau o ‘genedlaetholdeb’ oedd yn seiliedig ar hil a hunaniaeth ethnig. Dyna oedd ei ddehongliad e:
Gwell gennyf ddarnodi cenedlaetholdeb fel cymuned o deimladau ac o syniadau, o gofion ac o obeithion, o ddiwylliad ac o iaith, a gynhyrchir ym mhlith corff o bobl sydd wedi bod am amser maith yn gymdogion i’w gilydd, ac y sydd drwy rym amgylchiadau wedi cyrraedd rhyw fath o undeb gwleidyddol.

Ymosododd ar farn Matthew Arnold bod dim lle i’r iaith Gymraeg yn y byd modern. ‘Dyna’r efengyl yn ôl y Matthew hwnnw’, meddai Darlington, ‘ac efengyl wael iawn ydwy’. Aeth ymlaen i gyfaddef mai Saesneg o bosib fyddai’r cyfrwng i ddysgu pynciau gwyddonol a thechnegol. Ond Cymraeg oedd y cyfrwng addas – y cyfrwng hanfodol – yn achos pynciau eraill. Tynnodd sylw ei wrandawyr i’r ffaith bod dwyieithrwydd yn naturiol ac yn fuddiol i blant ar gyfandir Ewrop. Er bod sefyllfa’r iaith yn edrych yn ddu ugain mlynedd yn ôl (‘po gyntaf y cleddid hi allan o olwg, goreu oll i bawb’), roedd y rhagolygon bellach yn fwy gobeithiol: ‘y mae’r iaith Gymraeg wedi ennill lle iddi hi ei hun yn yr ysgolion elfennol’. Gorffennodd Darlington trwy awgrymu, fel petai’n proffwydo ein Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y dylid sefydlu prifysgol fyddai’n caniatáu i’w myfyrwyr ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg:
Diau y gallwn ddisgwyl fod yr amser yn prysur agoshau pan na orfodir Cymro sydd yn awyddus i gael gradd i ystyried yr amser a dreulia ar ei iaith enedigol fel amser wedi’i golli … pan ddaw y Gymraeg i gael ei hystyried, nid fel tafodiaith ddiwerth, ond fel offeryn diwylliad, yna y cymer yr hen iaith brydles newydd ar fywyd …
Mewn ysgrif a gyhoeddwyd yn 1893, ‘Iaith Cymru Fydd’, gofynnodd Darlington ba ddyfodol fyddai i’r iaith Gymraeg mewn byd oedd yn prysur droi i’r Saesneg. Wfftiodd ‘gyngor John Bull’, sef ‘dysgwch fy iaith i ac anghofiwch am eich iaith chi’. Er bod tuedd i wledydd dwyieithog dro’n unieithog dros amser, ei gred oedd nad oedd rhaid i Gymru ei y patrwm hwn, cyhyd bod Cymraeg yn dal i fod yn iaith gwasanaethau cyhoeddus, llenyddiaeth a chrefydd – ac oherwydd cryfder y ‘teimlad cenedlaethol’ yng Nghymru, yn arbennig ymysg y to ifanc. Dyma gyngor Darlington i’w ddarllenwyr:
Siaredwch Gymraeg wrth eich gilydd. Siaredwch hi wrth eich plant. O flaen pobpeth arall, cedwch Gymraeg fel iaith yr aelwyd. Ysgrifennwch a phellebrwch at eich gilydd yn Gymraeg. Os deallwch Gymraeg yn well na Saesneg, rhoddwch eich tystiolaeth yn y llysoedd barn yn Gymraeg.

Cyhoeddodd Darlington lawer o erthyglau eraill ar lu o bynciau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a thraddododd nifer fawr o ddarlithoedd; yn eu plith: ‘Llenyddiaeth y gogledd’, ‘The Cymric element in the English people’, ‘Anerchiad i ieuenctyd Cymru’, ‘Welsh nationality and its critics’, ‘Some dialectal boundaries in mid-Wales’, ‘Tafodieithoedd cyffindiroedd canolbarth Cymru’, ‘Bilingualism’, ‘Cymru a’r Ymerodraeth’, ‘Y symediad cenedlaethol yng Nghmyru’, ’The Welsh census’, Radnorshire and the Welsh language’ ac ‘Erthyglau gwrth-Seisnig yn y wasg Gymreig’, lle ymatebodd i erthygl gan Emrys ap Iwan, gan brocio ymryson rhwng y ddau yn rhifynnau olynol o’r Geninen. Gyda’i gilydd mae’r cyhoeddiadau hyn yn dyst i frwdfrydedd a amlochredd Darlington, a’i ymrwymiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd cyhoeddus Cymru ei oes.

Ond yn 43 mlwydd oed roedd Darlington pan fu farw o gancr yn 1908. Cymaint oedd ei egni a thalent, pwy a ŵyr beth fyddai wedi’i gyflawni ym myd addysg, ar y cyd ag O.M. Edwards, a benodwyd yn Arolygwr dros Addysg y flwyddyn gynt, neu mewn meysydd eraill? Doedd dim amheuaeth gan y wasg Gymreig nad oedd Cymru a’r iaith Gymraeg wedi colli un o’u cefnogwyr selocaf a mwyaf ymroddedig. ‘Er mai estron ydoedd’, meddai awdur un o’r teyrngedau, ‘gwnaeth ganwaith mwy dros yr hen iaith na’r rhan fwyaf o’r Cymry sydd wedi llanw yr un swydd.’ Barn arall oedd, ‘yr oedd y ffaith mai Sais ydoedd efallai yn help i’r Saeson wrando ar ei leferydd, gan mai arfer y rhan fwyaf o’n cymdogion ydyw priodoli brwdfrydedd Cymry dysgedig dros hawliau ein cenedl i benboethni.’ Meddai awdur arall: ‘carai Cymru â’i holl galon, ac nid oedd neb safai’n ddewrach dros ei hawliau.’ Ac yn olaf, dyma grynhoad ei gyfaill Edward Anwyl yn ei ysgrif goffa:
Gŵr a ddysgasai yr iaith Gymraeg yn well nag unrhyw estron arall … saif ochr yn ochr yn hanes Cymru â rhai o’i phrif arweinwyr yn neffroad cenedlaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Colled drom fu ei golli mor ieuanc, ond bydd ei enw a’i waith yn foddion ysbrydoliaeth i liaws er ei ôl.

Leave a Reply