Cylchu Cymru

Nôl ym mis Gorffennaf, yn Gŵyl Arall yng Nghaernarfon, digwyddodd imi alw heibio i sesiwn yng ngardd gefn Palas Print lle’r oedd Gruffudd ab Owain yn trafod ei lyfr newydd Yn ei dro: Cymru’r ddwy olwyn.  Sgwrs ddifyr oedd hi, ac o’r diwedd dwi wedi cael amser i ddarllen y llyfr yn drylwyr.

(Rhaid bod yn glir, gyda llaw, am y gwahaniaeth rhwng Gruffudd ab Owain yr awdur a’r seiclwr a’r dyn truenus o’r un enw, sef mab hynaf Owain Glyndŵr, a fu farw yn 37 oed yn Nhŵr Llundain oddeutu’r flwyddyn 1410.  Byddai sgwrs yn Palas Print gyda hwnnw’n werth ei glywed hefyd.)

Dyn ifanc dawnus, egnïol o’r Bala yw ein Gruffudd ni.  Mae eisoes wedi cael gyfra academaidd ddisglair, rhan ohoni yn Ffrainc, ac yntau ond yn un ar hugain oed.  Cerddor yw e, ac awdur ers iddo ddechrau blog ar seiclo, ‘Y ddwy olwyn’ yn 2018, pan oedd yn 13 oed.  Seiclo sy’n mynd â’i bryd ers ei blentyndod.  Yn ddiweddar penderfynodd iddo gasglu ynghyd ddigon o ddeunydd, ar ôl seiclo ledled Cymru mewn ymgais i’w hadnabod yn well, i allu llenwi llyfr.  Y canlyniad yw Yn ei dro, cyfuniad diddorol o genres gwahanol.

Pedair ysgrif ar deg am bedair taith ar ddeg (y rhan fwyaf ohonynt yn gylchol) mewn ardaloedd gwahanol o Gymru sydd yma.  Yn y rhagair dywed Gruffudd nad yw’n anelu at ysgrifennu hanes, na hunangofiant, nac arweinlyfr ffeithiol i’r llefydd y mae’n ymweld â nhw.  Ond cawn ni yma elfennau o bob un o’r tri, ynghyd ag amryw fyfyrdodau am Gymru a’r byd.  Mae’r llyfr, medd Gruffudd, ‘yn arbrawf ar huodledd y beic fel dyfais lenyddol’.  (Dyw e ddim yn sôn am effaith fwy peryglus o seiclo’n ormodol, yn ôl Flann O’Brien, sef bod y moleciwlau yn y beic a’r beiciwr yn dechrau cyfnewid eu lle.)

Fel byddech chi’n disgwyl, Gruffudd sy’n dweud ei stori – ond am un o’r ysgrifau, am daith ym Mrycheiniog, sy’n cael ei hadrodd yn y trydydd person, arbrawf diddorol sy’n rhoi tipyn mwy o bellter rhwng y seiclwr a’r darllenydd.

Seiclwr go iawn yw Gruffudd, ac mae rhai o’r teithiau yn ymestyn dros gan milltir o hyd – llawer yn hirach na fyddai o fewn fy nghyrraedd yn ddyn ifanc ar y cyfrwy (erbyn heddiw, dim ond beiciwr-i’r-siopau ydw i).  Ei gyd-seiclwyr fydd llawer o’i ddarllenwyr (i’r lleill ohonon ni, mae’n cynnwys geirfa arbenigol, sy’n cynnwys termau fel ‘cadfridogion’, ‘deurodwr’, ‘goriwaered’ ‘llwyfandir’ a ‘fest wynt’).  A bydd seiclwyr yn ymddiddori yn y manylion am y gwahanol lwybrau, ac am yr anawsterau – yr elltydd serth, y gwynt oer a’r glaw – sy’n wynebu’r seiclwr selog, a’r llawenydd o ‘ddisgyn ar i waered’ â gwynt teg y tu ôl iddo – ‘y nesa’ peth at orfoledd pur’, yn ei eiriau ar ddiwedd yr ysgrif olaf am ei sir enedigol, Meirionnydd.

O ddiddordeb i bawb, ar y llaw arall, fydd sylwadau Gruffudd am y lleoedd y mae’n pasio trwyddyn nhw ar ei deithiau.  Ar y cyfan mae e’n ddigon hael yn ei ddisgrifiadau – yn wahanol i lawer o deithwyr o dros Glawdd Offa.  Ac eto’n wahanol iddyn nhw, mae’n gyfarwydd iawn â hanes ardaloedd, ac yn arbennig eu hanes diwylliannol.  Yn yr ysgrif ar Sir Faesyfed, er enghraifft, mae’n sôn am Gerallt Gymro, George Borrow, Thomas Jones Pencerrig, Ffrancis Payne a Mike Parker.  Efallai fod rhai o’i straeon hanesyddol yn rhy amlwg i rai darllenwyr, ond does dim amheuaeth nad ydyn nhw’n cyfoethogi’r naratif. Ac mae Gruffudd yn feistr ar ei fynnonellau hanesyddol: yng nghefn y llyfr mae llyfryddiaeth a nodiadau manwl (ond, gwaetha’r modd, dim mynegai).

Mae’r ‘myfyrdodau’ yn rhychwantu pynciau tra gwahanol: Prydeindod, arwyr a’r syniad o’r ‘dyn mawr’, hiraeth, ‘Cymru gwiar’, efengylwyr, tafodiaithoedd, yr iaith Gymraeg yn Llŷn, Gwerful Mechain ac eraill.  Mae’r sylwadau mwy personol yn llawn emosiwn.  Wrth ddynesu at Lanymddyfri mae gan Gruffudd rhyw deimlad ei fod yn gyfarwydd â’r dref eisoes, ar ôl cofio clywed ei Daid, oedd yn dechrau dioddef o glefyd Alzheimer, yn siarad yn ddi-baid am ei ddyddiau da yn y Coleg amser maith yn ôl, a’i gyfeillgarwch â Carwyn James yna.

Yn yr ysgrif gyntaf mae Gruffudd yn esbonio pam yr aeth e ati i grwydro trwy Gymru gyfan: ‘dwi ar dân i wybod rhagor; i ymestyn gororau, ffiniau fy myd’.  Mynd ar gefn beic yw’r ffordd ddelfrydol, yn ei dyb e:

Mi gewch chi fynd ar gyflymdra mwy hamddenol nag mewn car neu fodur cyffelyb; mi gewch chi anadlu aer y lle, gwrando ar gyfeiliant ei ddyddiau.  Mi gewch chi fynd yn gynt ac yn bellach nag ar ddwy droed; mi gewch chi syniad go lew o hyd a lled bro, mi gewch chi hefyd stori.

Ond a yw hwn yn dal dŵr?  Mae gen i amheuon.  A bwrw bod mynd ar feic llawer yn well na gyrru mewn car os ydych chi am weld mwy na chipolwg diflannol o’r wlad, tybiwn i fod cyflymdra beic – yn arbennig os ewch chi mor gyflym â Gruffudd – dipyn yn rhy chwim.  Fel arfer does ganddo ddim digon o amser am fwy nag un neu ddau sylw am y trefi a phentrefi y mae’n gwibio trwyddyn nhw.  Yng Nghaerfyrddin, fel mae’n cyfaddef, does dim cyfle iddo ymweld ag un o gyrchfannau hanfodol i seiclwyr Cymru, ‘Velodrome Cymru’.  Mewn gwirionedd, nid dwy olwyn sydd eu heisiau er mwyn gwneud mwy na chraffu’r wyneb o gymeriad lle, ond dau droed.  Dim ond trwy gerdded cewch chi dorri gair â’r trigolion, sylwi ar fanylion y tai a’r dirwedd, a gwyro am yr ucheldiroedd di-lwybr.

Rhaid dweud, serch hynny, bod digonedd o lyfrau ar gael yn Gymraeg am gerdded.  Mae llyfrau am seiclo’n brinnach (un arall yn ddiweddar yw Croesi: cyfandir ar ddwy olwyn gan Grug Muse).  Braf felly yw croesawu Yn ei dro, yn enwedig oherwydd dawn amlwg yr awdur am ysgrifennu.  Dyn ni ddim wedi clywed y gair olaf mewn print, mae’n siŵr, gan Gruffudd ab Owain. 


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.