‘Ymharadwys’: Pentre Eirianell
Yn ddiweddar digwyddodd imi fod mewn sgwrs ebost â thenant presennol Pentre Eirianell. Hwn yw’r hen dŷ fferm ar ymyl Bae Dulas ar Ynys Môn lle magwyd ‘Morysiaid Môn’ – Lewis, Richard, William, Elin a Siôn (neu John) Morris – yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif.
Gwelais i’r tŷ am y tro cyntaf ym Medi 2017, yn ystod taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Môn. Y noson gynt roedd glaw trwm wedi disgyn, ac erbyn inni gychwyn o Foelfre roedd hi’n amlwg y byddai Bae Dulas yn rhwystr inni gan fod lefel y dŵr wedi codi’n sylweddol. Ac felly y bu. Mewn sawl man roedd y llwybr swyddogol dan ddŵr, ac ar un adeg bu raid inni droi o’n cwrs am filltir neu fwy. Ond yn ystod ein taith hir o amgylch y Bae ac Afon Goch, daethon ni o hyd i’r enw ‘Pentre Eirianell’ – saif y tŷ dipyn oddi ar y llwybr, ond heb fod ymhell – ac ar unwaith dyma fi’n sylweddoli ei ystyr hanesyddol.
Yn 1707 symudodd rhieni’r brodyr, Morris ap Rhisiart (Prichard) (1674-1763) a’i wraig Marged Morris (1671-1752), gyda Lewis, Richard a William, i fyw i Bentre Eirianell, fferm 187 o erwau ym mhlwyf Penrhosllugwy, o fferm arall ddwy filltir i ffwrdd yn Llanfihangel Tre’r Beirdd. Cowper oedd Morris, yn ogystal â ffermwr a masnachwr.
Mae’n amlwg bod teulu Morris yn un diwylliedig iawn – diwylliant llafar traddodiadol, i raddau helaeth (gallai Morris ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg, ond doedd Marged ddim yn medru ysgrifennu). Er bod rhai o’r plant yn mynychu ysgolion elfennol lleol – ac mae’n bosib bod Lewis yn mynd i Ysgol Ramadeg Biwmares am gwpwl o flynyddoedd – wrth yr aelwyd y digwyddodd y rhan fwyaf o’u haddysg, a thrwythodd cariad dysg trwy’r plant fel eu bod yn gallu dysgu eu hunain yn rhwydd. Roedd y tŷ yn llawn cerddi a cherddoriaeth. Yn 1750 mae William yn adrodd i’w fam ganu penillion wrtho, a hithau’n 80 oed. Byddai’r plant yn helpu gyda gwaith y fferm a dysgu sawl crefft arferol. Hefyd, roedd y tad yn berchen ar slŵp oedd yn hwylio ar hyd arfordir gogledd Cymru, a byddai Lewis yn mynd gydag ef. Yn ôl cerdd gan y dychanwr Hugh Hughes (Huw ap Huw, ‘Y Bardd Coch o Fôn’), fodd bynnag, roedd y tad llawer yn fwy egniol na Lewis – ac yn ymddangos yn ifancach:
O ryfedd! Ryfedd etto!
Fod natur wedi dotio;
Y mab yn hen o flaen y tad,
A galw’r wlad i goelio.Ond ydyw ryfedd hefyd,
Y mab yn hen bysychlyd,
A’i dad yn llamu dros y gwrych,
Yr wr di nych mewn iechyd.Y mab yn swrth anniben
Ychydig gynt na malwen,
A’i dad yn dringo Coed y Gell,
Gan dorri ambell gneuen.
Fesul un gadawodd y plant gartref y teulu – Lewis ar ôl priodi yn 1729 (daeth yn fesurwr, swyddog tollau, bardd, mentrwr mwyngloddio, ffermwr, asiant tir, awdur, ysgolhaig, deallusyn ac argraffydd), Richard i fod yn glerc yn Llundain ac yn sefydlwr Cymdeithas y Cymmrodorion, William i fod yn swyddog tollau yng Nghaergybi ac yn fotanegydd o fri, a John a ddaeth yn swyddog yn y llynges cyn cael ei ladd ar HMS Torbay yn 1740. Roedd y brodyr yn agos atyn nhw eu hunain. Dros y blynyddoedd anfonwyd cannoedd o lythyrau rhyngddynt – llythyrau sy’n datgelu llawer am bob agwedd ar fywyd deallusol y Cymry yn y ddeunawfed ganrif.
Ond beth am Pentre Eiriangell? Beth am Morris a Marged? Parhaodd y ddau i fyw yn y tŷ, Marged tan ei marwolaeth yn 1752, a Morris nes iddo symud i ffwrdd, yn 1761, ychydig cyn ei farwolaeth yn 1763.
Dim ond nawr ac yn y man mae sôn amdanynt gan y brodyr yn eu llythyrau. O bryd i’w gilydd mae’r bechgyn yn cyfeirio at iechyd eu rhieni yn yr hen gartref wrth idddynt heneiddio. Dyma William yn ysgrifennu at Richard ar 30 Ebrill 1742:
I left Pentrerianell a Saturday my Mother had been very Ill but was on the mending and began to walk about the house, is vastly broke you wd hardly know her were ye to see her, never was hearty since she heard of Bro Jn’s death.
Anfona William at Richard eto, ar 13 Ionawr 1759:
Bu ddynan oddiyma echdoe Ymhentre Eirianell a phan ofynnais iddo ar ei ddychweliad, par fodd yr oedd y tad einom, ‘Yn wir,’ hebai yntau, ‘mae o yn ddigon gwamal,’ – chwi a wyddoch synied y gair ym Môn.
Ond ar adegau eraill mae’r brodyr yn hel atgofion o ddyddiau gwell eu plentyndod yn y Pentre a’i gyffiniau. Dywed Richard, mewn llythyr ar 9 Awst 1760 mewn ymateb i sylwadau gan Lewis am ei blant,
Digrif ddigon ydyw’r llangciau Pentrerianell yna; mae’n debyg y byddant yn ddigon mynych yn gofyn cennad i fynd i ardd Ligwy i fwyta gwsberrins, etc., ac i gneua hyd y bryniau yna, a Thwm Rolant y Gôf yn gwneud gefail gnau braf i bob un honynt!
Fel dywedodd R.L. Edwards yn Y Cymro yn 1911, ‘magwyd y Morysiaid yn sŵn di-daw y môr, ac yng nghanol prydferthwch natur, ac aeth golygfeydd eu hieuenctyd yn rhan o’u bywyd.’ Roedd y fferm ond rhyw ddau ganllath o’r traeth, a byddai’r plant yn hala llawer o amser yn chwarae ar ymyl y dŵr. Mae Lewis yn cofio am ‘sêr y môr y fyddem yn ei daflu at ein gilydd yn noeth lumunaid gynt’ (llythyr at William, 19 Rhagfyr 1754).
A dyma William yn galw i gof eu chwarae o amgylch Bae Dulas wrth sôn am gasglu cregyn (llythyr at Richard, 31 Gorffennaf 1755):
There is something so innocent and amusing in it, a mixture of pleasure and a little dash of trouble, rhwydd debyg i’r diddanwch a fyddem yn ei gael pan oeddym blantos yn chwilio am deganau o gwmpas y Darren, Porth Fôr, Traeth yr Ora ond nefol bleser ydoedd rheini, oni bai fod meibion y cawr yn ein lluchio â cherrig, ac ofn cael drwg am wlychu traed, ac aros yn hwyr.
Bachgen fyddai’n galw yn aml i Bentre Eirianell oedd Goronwy Owen, a hanodd o blwyf Llanfair-Mathafarn-Eithaf (Benllech). Roedd y teulu yn un tlawd iawn, a bu mam Goronwy, Siân Parry, yn forwyn gyda’r teulu. Ar ôl ei marwolaeth Marged Morris yn 1752 ysgrifenodd farwnad dwymgalon iddi, ‘Marged llawagored gynt’, gan bwysleisio ei haelioni i bawb:
Llawer cantorth o borthiant
Rôi hon lle bai lymion blant.
Can’ hen a ddianghenodd;
I’r un ni bu nag a rodd
Gwiw rodd er mwyn goreu Dduw,
Gynnes weinidoges Duw.
Gwraig ddigymar oedd Marged
I’w plith am ddigyrrith ged,
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei dannod oedd.
Mae Goronwy yn canmol Marged hefyd am natur ei phriodas (‘deuddyn un enaid oeddynt, / dau ffyddlon, un galon gynt’) ac am fod mor llwyddiannus wrth fagu ac addysgu ei phlant – pob un yn dalentog:
Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy’n harddu’n hoes:
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod, merch olau hael;
Tri mab o ddoniau tramawr,
Doethfryd, a chelfyddyd fawr.
Mewn llythyr at Richard Morris ar 18 Rhagfyr 1752, cofia Goronwy am gymeriad hoffus Marged pan oedd e’n ymwelydd ifanc â Phentre Eirianell:
Mi glywais fyned o Dduw a’ch Mam; a saeth i’m calon oedd y newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ymmysg eraill i minnau hefyd pan oeddwn yn blentyn. Hoff iawn a fyddai genyf redeg ar brydnhawn Sadwrn o Ysgol Llan-Allgo i Bentre Eiriannell, ac yno y byddwn siccr o gael fy llawn hwde ar fwytta Brechdanau o Fêl, Triagl neu ymenyn, neu’r un a fynnwn o’r tri, rhyw papur i wneud fy nhasg, ac amrhyw neges arall, a cheiniog yn fy mhoced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy llyfr yn dda. . . .’ (llythyr at Richard Morris, 18 Rhagfyr 1752).
Heb os roedd y Morysiaid yn bwysig iawn yn natblygiad diwylliant Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif: dynion gwybodus a chwilfrydig, amlochrog yn eu diddordebau, gweithgar a dylanwadol mewn sawl maes gwahanol. Fel roeddent yn barod i gydnabod, y man cychwyn i’w teithiau trwy fywyd oedd eu cartref cynnar. Rhoddodd Pentre Eiriannel gymaint o fanteision iddynt: tŷ cynnes a diogel, rhieni tyner a hael, cefn gwald gogoneddus cyfagos, maes chwarae mawr i blant ar dir a môr, diwylliant gwerinol, cariad at addysg a dysg, cwmni a chyfeillgarwch. Diolch i’w magwraeth, roeddent yn ddynion hyderus ac amryddawn, mentrus ac arloesol, cymdeithasgar a gwaraidd, ymroddedig i ddiwylliant Cymru a’i gorffennol, ac (ar y cyfan) llawn anwylder tuag atyn nhw eu gilydd trwy eu bywydau. (Piti bod cyn lleied o sôn am eu chwaer, Elin: fel llawer o ferched yn y ddeunawfed ganrif, mae hi wedi dioddef gan ddifaterwch hanes.)
Does dim syndod bod y brodyr yn edrych yn ôl i’w plentyndod a’u hen gartref â chynhesrwydd a hiraeth. Dyma William, mewn llythr at Richard ar 26 Awst 1753:
Ie, ie, mrawd Rhisiart, peth digon anghysurus yw dwyn ar gof yr anhwsmonaeth a wnaethom o ddyddiau ein hieuenctyd; pa beth na roeddem er cael ei rhoi ar dô unwaith etto? Ond och druain gwyr, nid ellir galw doe yn ôl. (William i Richard, 26 Awst 1753)
Bum mlynedd ymlaen roedd William yn defnyddio’r geiriau hyn i dddisgrifio’r cyfnod: ‘… y diniweidrwydd a’r lawenydd gynt pan oeddym ymharadwys.’ (William at Richard, 26 Gorffennaf, 1758). Dichon ei fod yn ymwybodol o darddiad tebygol yr enw ‘Eirianell’: llecyn hardd.
Y llythyrau yw prif carreg goffa Morysiaid Môn. Ond mae’n briodol bod y cyswllt rhwng Pentre Eirianell â’r teulu Morris yn cael ei gofio yn yr ardal. Ym Medi 1910 codwyd croes fawr ar dir yr ystad, ar bwys yr brif ffordd (A5025) rhwng Brynrefail a City Dulas i goffáu’r brodyr (‘four patriot brothers of the Cymric race’); y pensaer Harold Hughes a ddyluniodd y groes. Gosodwyd llechen ar wal un o adeiladau’r fferm, sy’n dwyn geiriau Goronwy Owen am ei amser yn y tŷ. Mae Lewis hefyd yn cael ei gofio trwy blac arall yn ei dŷ genedigol, Tyddyn Melys, Capel Coch, a osodwyd yn 2008.
Diolch yn fawr am yr erthygl ddiddorol. Tybed ai cael ei ladd neu farw o ryw glefyd fu hanes John, y mab ieuengaf yn Cartagena?
Roedden nhw’n deulu athrylithgar a chwbl arbennig. Mor alluog ac amryddawn.
Diolch, Meinir, braf clywed oddi wrthoch chi. Dyna’r hyn y mae Alun R. Jones yn ei ddweud am farwolaeth John Morris, yn ei fywgraffiad o Lewis Morris (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004):
‘Bu farw ym mlodau ei ddyddiau yn ystod mordaith y llong ryfel Torbay cyn y cyrch aflwyddiannus ar Cartagena ar arfoddir De America. Roedd ymhlith dros gant o ddynion a gymerwyd yn glaf ar fwrdd y llong heintus wrth agosau at India’r Gorllewin ac a anfonwyd mewn cwch i’r tir yn Ynys Dominica. Ar yr ynys bellenig honno ar 22 Rhagfyr 1740 y bu farw John Morris o glwy’r gwaed (dysentry) ac yntau ond 27 oed.’
Byddai’n werth i hanesydd ymchwilio bywyd a gyrfa John Morris- hyd y gwn i, does dim astudiaeth ohono hyd yn hyn – yn arbennig ei ran yn y fasnach gaethweision rhwng arfordir gorllewin Africa a’r Americas.