Yr hen lwybr i eglwys Llangelynnin

May 21, 2021 3 Comments

Roedd yr haul yn dechrau disgyn wrth imi gychwyn, ar ôl swper, o hen dafarn Y Groes.  Cerddais ar hyd y lôn sy’n troelli ar draws gwastadeddau Dyffryn Conwy tuag at bentref Rowen.  Cymylau sirws uchel yn unig yn yr awyr glas, a dim argoel o’r glaw trwm sy wedi britho mis Mai eleni.

Tu heibio i dŷ, wedyn eglwys Fictoraidd Llangelynnin, yn dywyll ymysg y coed sy’n cysgodi’r adeilad a’r fynwent.  Wedyn troi i’r dde tuag at hen dŷ Gwern Borter – erbyn hyn, Gwern Borter Manor, ‘a 19th century boutique B&B’ – ac yn nes ymlaen, Tyddyn Mawr.  Yma, yn sydyn, mae’r lôn yn culhau ac yn dringo’n serth,  i fyny trwy goed.  Dyma’r llwybr neu geuffordd sy’n arwain o lawr y dyffryn at hen eglwys Llangelynnin ar dop yr allt.  Perthyn y mae’r coed, Parc Mawr, i Goed Cadw, sydd wrthi’n plannu coed cynhenid, llydanddail yn lle’r hen gonifferau hyll.

Ar bwys y llwybr roedd clychau’r gog yn blodeuo, ac ambell babi coch.  Mor serth oedd y llethr fel bod y chwys yn llifo’n rhwydd, a rhaid tynnu’r cneifyn.  O’r diwedd daeth y coed i ben a’r llwybr yn dechrau lefelu dipyn.  Ymlaen rhwng y waliau cerrig – erbyn hyn roeddent yn uwch nag o’r blaen – a’r tir yn agored ac yn llwm ar y ddwy ochr.  Cwrddais i â dyn ifanc ar feic modur, oedd yn meddwl tybed a fyddai’n disgyn i lawr y lôn: antur beryglus, o bosib.  O’r diwedd daeth eglwys Llangelynnin – yr hen eglwys – i’r golwg, yn sefyll ar ei ben ei hun. 

Cymerais i seibiant cyn mentro i’r fynwent, a myfyrio am daith yr hen addolwyr.  Mae’n wir fod ychydig o ffermydd o hyd heddiw ar ben yr allt, o fewn cyrraedd yr eglwys; siŵr o fod roedd rhagor o dyddynnod yn yr hen ddyddiau.  Ond byddai’r rhan fwyaf o’r plwyfolion yn byw lawr yn y dyffryn.  Felly bob dydd Sul byddai dim dewis iddyn nhw ond cerdded ar hyd yr hen lwybr serth – tri chwarter awr o daith fan lleiaf, gan ddringo bron i 300 metr o uchder, ar lwybr caregog ac ym mhob tywydd.  Byddai pob taith, mae’n debyg, yn teimlo fel pererindod fach.

Gwobr sy’n aros i gerddwyr ar ôl cyrraedd yr eglwys – golygfa odidog ar draws dyffryn Conwy i’r dwyrain, ac i fyny tua at y Carneddau i’r de-orllewin.  Mae’n ardal sy’n llawn olion o’r oesoedd cynnar: bryngaer ar gopa Cerrig-y-Ddinas, cytiau cylchog cynhanesyddol, sylfaeni hen dai.  Hawdd anghofio pa mor boblog oedd ucheldiroedd Cymru yn y gorffennol pell.

Trwy’r glwyd haearn i mewn i’r fynwent.  Gan fod y tir yn anwastad iawn, gosodwyd y beddau ar hap bron, ond y nodwedd fwyaf o’r fynwent yw’r wal cerrig tal, golygus – amddiffynfa gref i’r eglwys yn y canol – wal solet, gyda chapfeini unionsyth, miniog.

Yn anffodus roedd yr eglwys, un o’r rhai mwyaf hynafol yng Nghymru, ar glo o achos mesurau Covid.  Gwelais i’r porth, gyda’i ysbïendwll (‘squint’), ond collais i’r tu mewn, tywyll a’i seddi o’r ddeunawfed ganrif.  Mewn cornel o’r fynwent mae ffynnon sanctaidd Sant Celynnin: petryal o ddŵr tywyll a waliau o’i gwmpas.  Yn ôl y traddodiad byddai rhieni’n hebrwng eu plant tost yma, a’u trochi nhw yn y dŵr, yn y gobaith y byddai dylanwad y sant yn eu hiachau.  Mae’n bosib, felly, fod y daith i fyny trwy’r coed yn rhyw fath o bererindod go iawn.

Pwy oedd Sant Celynnin?  Bu’n byw yn y chweched ganrif, mae’n debyg, fel un o feibion Helyg ap Glanawg, y mae ei gartref, Llys Helig, bellach dan y môr oddi ar Benmaenmawr, yn ôl y sôn: enghraifft arall o ‘deyrnas wedi’i boddi’.  Enwir eglwys arall ar ei ôl ar arfordir Meirionydd, i’r de o bentref Llwyngwril.

Penderfynais i fynd nôl ar lwybr arall, trwy ddilyn crib yr allt.  Wedi cerdded am funud neu ddwy edrychais i nôl a gweld yr hen eglwys yn y pellter, trwy fôr o glychau’r gog ar y llethr. Ar ôl tua milltir cymerais i lwybr arall i lawr i’r dyffryn – llwybr igam-ogam trwy goed arall, a llawer llai o sialens na ffordd y pererinion.  Erbyn imi gyrraedd y ffordd at Dyddyn Mawr roedd yr haul wedi suddo y tu ôl i gefn yr allt.  Nôl tu heibio i’r ‘eglwys newydd’.  Adeiladwyd hi yn 1840 ar safle eglwys arall o’r cyfnod Georgaidd, a godwyd yn ei thro er mwyn disodli’r hen eglwys ar ben y bryn. Yn amlwg doedd pobl y plwyf erbyn hyn ddim yn fodlon dringo’r allt.  Yr eironi yw i’r eglwys newydd gael ei gwerthu peth amser yn ôl – heddiw mae’n stiwdio i artistiaid, ‘Ancient Arts’ – tra mae’r yr hen egwlys yn dal mewn defnydd, o dro i dro, gan yr Eglwys yng Nghymru.

Daeth Y Groes i’r golwg eto, a chiliodd yr allt i’r pellter, gan adael i’r haul ail-ymddangos a ffrydio’r caeau gwastad ar y chwith â goleuni lletraws, hwyr.  Roedd fy mhererindod fach ar ben.

Comments (3)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Meg Elis says:

    Roedd fy nhaid yn rheithor Llangelynnin: Mam yn hoff iawn o’r hen eglwys (ddim mor hoff o’r un Fictoraidd!)

  2. Meurig Rees says:

    Sssh – bydd miloedd yn tyrru yno rwan!

    O ddifri, mae’r daith trwy’r Parc Mawr ac yna’r hen lôn at yr eglwys yn fendigedig, yn enwedig pan fo niwl y bore yn llenwi’r dyffryn ond y llethrau uwch, a’r eglwys, dan heulwen braf. ‘Lle i’r enaid gael llonydd’ o lecyn.

    Trueni nad yw’r dafarn yn arddel yr enw lleol llawn – Y Groesynyd’

    Llun godidog o’r eglwys yn y gaeaf (gan Aneurin Phillips} a phwt o erthygl amdani ym mhapur bro Y Pentan, rhifyn Rhagfyr 2020.

    Doedd dim diben i mi fentro cyn belled bore’ma yn y glaw trwm – tro gyda’r ci trwy’r Parc Mawr cysgodol yn unig.

    Blogiad difyr. Diolch.

Leave a Reply